大象传媒

Ymestyn cynllun ffyrlo gweithwyr hyd at fis Mawrth

  • Cyhoeddwyd
Rishi SunakFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Rishi Sunak y byddai'r cynllun ar gael i bob rhan o'r DU

Mae Canghellor y Trysorlys Rishi Sunak wedi cyhoeddi y bydd y cynllun cefnogi swyddi i weithwyr y DU yn cael ei ymestyn hyd at fis Mawrth 2021.

Mewn datganiad yn Nh欧'r Cyffredin dydd Iau, dywedodd Mr Sunak fod y cynllun ffyrlo "wedi ei greu a'i ddarparu gan Llywodraeth y DU ar ran holl bobl y Deyrnas Unedig - ble bynnag maen nhw'n byw".

O ganlyniad fe fydd y cynllun wedi bod mewn bodolaeth am flwyddyn gron erbyn diwedd mis Mawrth nesaf.

Fe fydd y cynllun yn parhau i dalu 80% o gyflogau gweithwyr, fel oedd yn digwydd yn flaenorol.

Ychwanegodd ei fod yn "darparu cymorth ychwanegol sylweddol i amddiffyn swyddi a bywoliaeth ymhob rhanbarth a chenedl" o'r DU.

Dywedodd un AS Llafur bod y cyhoeddiad yn "rhy hwyr" i gwmn茂au Cymru, a bod Llywodraeth y DU wedi "atal" gweinidogion Cymru rhag ymestyn y ffyrlo yn ystod y clo byr presennol.

Mae hyn yn golygu ymestyn y cynllun ffyrlo, ehangu'r gefnogaeth i'r hunan-gyflogedig a chyflymu taliadau, meddai, ac mae'n dro pedol sylweddol gan y llywodraeth.

Dywedodd Mr Sunak: "Mae'r taliadau rhagblaen sydd wedi eu sicrhau ar gyfer y gweinyddiaethau datganoledig o 拢14bn i 拢16bn - mae'r Trysorlys hwn yn, wedi a wastad am fod yn Drysorlys ar gyfer pob rhan o'r Deyrnas Unedig."

Bydd y 拢2bn ychwanegol yn cael ei rannu rhwng Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon drwy Fformiwla Barnett.

Cadarnhaodd y Trylorlys y byddai hynny'n golygu 拢600m ychwanegol i Gymru.

'Rhy hwyr' i Gymru

Mae'r cyhoeddiad yn dilyn sawl diwrnod o ffraeo gwleidyddol dros hyd a lled y cynllun ffyrlo. Roedd i fod i ddod i ben ar 31 Hydref ond mae wedi cael ei ymestyn i gwmpasu'r cyfnod clo newydd pedair wythnos ddaeth i rym yn Lloegr ddydd Iau.

Fe wnaeth y cyhoeddiad blaenorol am ymestyn y cynllun i Loegr danio ffrae dros y penwythnos gyda Chymru a'r Alban, oedd yn dadlau ei bod yn annheg i'r pecyn cymorth llawn fod ar gael dim ond pan roedd Lloegr dan glo.

Yn siarad wedi'r cyhoeddiad, dywedodd AS Llafur Pontypridd, Alex Davies-Jones, bod ymestyn y ffyrlo yn "rhy hwyr" i Gymru.

Cyhuddodd Llywodraeth y DU o "atal" gweinidogion Cymru rhag ymestyn ffyrlo yn ystod y clo byr, a bod "busnesau yng Nghymru yn dioddef ar hyn o bryd".

Ymateb Mr Sunak oedd bod "10,000 o etholwyr" Ms Davies-Jones wedi elwa o'r cynllun ffyrlo.

Beth ydy'r ffyrlo?

Roedd y cynllun ffyrlo wedi bod yn talu hyd at 80% o gyflogau gweithwyr - ac fe fydd hyn yn parhau yn dilyn cyhoeddiad y Canghellor.

Ar ei uchafbwynt ym mis Mehefin, roedd 378,400 o bobl yng Nghymru ar ffyrlo, yn 么l ffigyrau o'r Trysorlys.

Hefyd roedd 108,000 o bobl hunangyflogedig yn derbyn cymorth drwy gynllun gwahanol, cyfanswm o 486,400 o swyddi.

Mae hynny'n tua 40% o weithlu Cymru o 1.2 miliwn o bobl.

O dan y cynllun ffyrlo, roedd Llywodraeth y DU yn talu 80% o gyflogau gweithwyr tra'u bod nhw ddim yn gweithio, hyd at uchafswm o 拢2,500 y mis i bob person.

Wrth i'r cyfyngiadau lacio yn ystod yr haf oedd llai o bobl ar ffyrlo, gyda 10% o'r gweithlu - o gwmpas 130,000 o bobl - yng Nghymru yn derbyn cymorth erbyn diwedd Awst.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Ken Skates bod angen cymorth "cyn gynted 芒 phosib"

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu datganiad y Canghellor am ymestyn y cynllun ffyrlo.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates AS: "Mae rheidrwydd i gefnogi pobl cyhyd ag y mae'n ei gymryd i fynd trwy'r pandemig, felly byddwn yn croesawu cyhoeddiad y Canghellor heddiw.

"Wrth gwrs byddaf yn edrych ar fanylion y cyhoeddiad a'r goblygiadau i Gymru, ond... y risg fwyaf i'n lles economaidd yw gwneud rhy ychydig ac yn rhy hwyr.

"Felly mae'n hollol hanfodol fod y Llywodraeth y DU... yn ei weithredu cyn gynted 芒 phosib."

Wrth ymateb i gwestiwn am gymorth i gwmn茂au sy'n masnachu'n bennaf gyda Lloegr, dywedodd Mr Skates: "Rydym yn gallu cynnig cyngor a chefnogaeth, ond mae ein grantiau busnes wedi'u cynllunio'n benodol at ddibenion cefnogi busnesau yn ystod ein cyfnod cloi ein hunan."