大象传媒

Ariannu cynllun ynni llanw ar gyfer Ynys Enlli

  • Cyhoeddwyd
Enlli

Mae cwmni wedi sicrhau buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i ariannu prosiect ynni llanw rhwng Ynys Enlli a'r tir mawr.

Gobaith prosiect Enlli yw creu cyfle i gynhyrchu trydan o drai naturiol a llif y llanw rhwng Ynys Enlli a Phenrhyn Ll欧n.

Fe allai hyn gynorthwyo i droi Ynys Enlli o fod yn dibynnu ar ddisel i ddod yn ynys ynni glas gyntaf y byd, meddai'r cwmni tu 么l i'r fenter - Nova Innovation.

Bydd y buddsoddiad o 拢1.2m gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith cydsynio amgylcheddol a dylunio peirianyddol ar gyfer y cynllun.

Mae Nova Innovation yn bwriadu gosod pum tyrbin 100kW ar wely'r m么r gyda'r bwriad o osod mwy o dyrbinau yn y dyfodol.

Yn ogystal 芒 datblygu ffynhonnell newydd o ynni gl芒n, mae'r buddsoddiad o 拢1.2 miliwn "yn creu cyfleoedd ar gyfer busnes a swyddi cynaliadwy i bobl leol yn yr economi carbon isel newydd" medd y llywodraeth.

Dywedodd Simon Forrest, Prif Weithredwr Nova: "Bydd defnyddio p诺er naturiol y llanw yn Swnt Enlli yn darparu ynni cefnfor gl芒n i'r gymuned leol ac yn helpu i adfywio'r economi leol. Mae ein tyrbinau llanw wedi bod yn pweru grid Ynysoedd y Shetland ers dros bedair blynedd ac rydym yn edrych ymlaen at helpu i yrru'r economi las yng ngogledd Cymru."

Mae prosiect Nova yn rhoi cyfle i gymunedau lleol bweru eu cartrefi, eu busnesau a'u cerbydau gan ddefnyddio p诺er y llanw, medd y rhai sydd y tu 么l i'r fenter.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru: "Wrth i Gymru geisio ymateb i'r heriau a ddaw yn sgil yr argyfwng hinsawdd, mae angen i ni ddefnyddio uchelgais ac ysbryd arloesol darparwyr ynni adnewyddadwy fel Nova, gan sicrhau y gellir defnyddio eu harbenigedd a'u profiad yma yng Nghymru.

"Yn hynny o beth, rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu cefnogi Nova yn eu prosiect ynni llanw Ynys Enlli. Roedd Cymru ar flaen y gad yn y chwyldro diwydiannol cyntaf a thrwy brosiectau fel hyn, gallwn chwarae r么l arweiniol yn y chwyldro diwydiannol gwyrdd sy'n digwydd heddiw."

Tyrbinau tanddwr

Mae tyrbinau llanw Nova wedi'u cuddio'n llwyr o dan wyneb y m么r.

Mae monitro amgylcheddol Nova ar dyrbinau llanw ar Ynysoedd y Shetland yn Swnt Bluemull, sy'n cynnwys arolygon o adar a mamaliaid morol o'r ardal a'r defnydd o gamer芒u tanddwr i fonitro bywyd gwyllt o amgylch y tyrbinau, wedi canfod nad oes unrhyw effeithiau negyddol ar fywyd gwyllt y m么r, yn 么l y cwmni.

Ffynhonnell y llun, Mari Huws

Ychwanegodd Jess Hooper o Ynni Morol Cymru: "Mae hwn yn hwb arall unwaith eto i'r sector ynni morol yng Nghymru, ac yn ein helpu i ddyfnhau ein cysylltiadau Celtaidd wrth i'r prosiect hwn dynnu ar arbenigedd a dysgu o'r tyrbinau llanw alltraeth cyntaf y byd - tri thyrbin sydd wedi eu profi a'u monitro ar Ynysoedd y Shetland, Yr Alban.

"Bydd trosglwyddo'r wybodaeth a'r profiad hwn i Ogledd Cymru yn arwain at fuddion pellgyrhaeddol.

"Yn dilyn Wythnos Hinsawdd Cymru, mae'n wych gweld yr economi las yn cyfrannu at yr adferiad gwyrdd drwy weithredu i sicrhau gwir gynnydd yn ymgais Cymru i sicrhau bod yn sero-net."