大象传媒

'Sioc a hunllef': Profiad teulu ar 么l dal Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

"Mae o'n wael iawn, allai hi fynd unrhyw ffordd."

Mae yna ap锚l i bobl ddilyn y canllawiau atal lledu coronafeirws a "meddwl am y bobl 'dach chi'n 'i garu" gan deulu o Ynys M么n wedi i bum aelod ddal yr haint.

Mae Iris Williams, o Lannerch-y-medd, wedi disgrifio'r "sioc" o sylweddoli bod ei g诺r 64 oed, Ifan, sy'n byw gyda chlefyd siwgr, yn ddifrifol wael gyda'r feirws.

Bu'n rhaid iddo gael triniaeth mewn Uned Ddibyniaeth Uchel ond mae bellach wedi gwella digon i symud i ward Covid-19 arall yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.

"Ddywedon nhw wrtha'i, 'mae o'n wael iawn, allai hi fynd unrhyw ffordd'," meddai Mrs Williams.

Mi fuodd Mrs Williams ei hun yn s芒l gyda'r feirws am ddyddiau cyn gwella, ac mi gafodd eu mab awtistig, Dylan, ei heintio hefyd.

Cafodd ei merch, Mared Hughes, a'i g诺r hithau symptomau ysgafn, "debyg i'r ffliw".

Does gan y teulu ddim syniad o le ddoth yr haint.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ifan ac Iris Williams

"Ar y dydd Mercher, pan gathon ni y results, o'dd Ifan yn giami ac aeth o i'w wely. A chododd o ddim wedyn," meddai Mrs Williams.

"O'n i'n i weld o yn y gwely bob dydd, wedyn erbyn w'sos i heddiw o'n i'n gwybod bod rhywbeth mawr o'i le.

"Toedd o'm yn bwyta, toedd o'm yn yfad, toedd o'm yn cymryd ei dabledi, 'mond cysgu.

"Ar y p'nawn dydd Iau w'sos dwytha, ers i i'r llofft... mi gododd i fyny, ond oedd o'n sb茂o drwydda fi. Toedd o'm efo fi."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd mab Ifan ac Iris Williams, Dylan, ei heintio hefyd

Cafodd Mr Williams ei ruthro i'r ysbyty, ac yna daeth difrifoldeb y sefyllfa'n amlwg.

"Nes i ffonio bore dydd Gwener, ac mi wnes i ddychryn," meddai Mrs Williams.

"Ces i gymaint o sioc. Do'n i ddim 'di sylweddoli pa mor s芒l oedd o."

Ychwanegodd: "'Da ni 'di priodi r诺an ers 42 o flynyddoedd, a 'dwi erioed 'di weld o'n s芒l. O'dd o'n druenus, d'eud y gwir - trist ei weld o."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae yna w锚n tu 么l i'r masg wrth i Ifan Williams gael ei symud i ward arall yn Ysbyty Gwynedd, Bangor

"Mae be' sy' 'di digwydd yn t欧 ni, i Ifan, mae o wedi bod yn hunllef yr w'sos diwethaf 'ma."

Dywedodd Mared Hughes: "Dwi'm yn meddwl bo' fi 'di teimlo gymaint o ofn erioed o'r blaen. Doedd o ddim yn Dad.

"Oedd o'n drist ofnadwy i weld o'n gorfod mynd [ar ben] ei hun i'r ysbyty."

Tydi'r teulu heb weld Mr Williams ers iddo fynd i'r ysbyty, ond maen nhw'n ddiolchgar am y gofal sy'n golygu ei fod wedi gallu gadael yr Uned Ddibyniaeth Uchel.

"Mae o'n lwcus bod o 'di mynd i fewn pan na'th o," meddai ei wraig. "Dwi'm yn meddwl fysa fo efo ni heddiw [fel arall]."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gofyn i bawb rannu'r cyfrifoldeb i atal lledaeniad Covid-19, medd Mared Hughes

Mae'r teulu'n pwysleisio'r angen i bawb ddilyn y canllawiau i warchod eu hunain a'i gilydd rhag y feirws.

Dywed Mared Hughes bod hi'n "bwysig i chi fel unigolyn i gymryd cyfrifoldeb dros eich hun, a phenderfynu sut 'da chi'n cadw pellter ac yn gwisgo masg, a just bod yn hollol ofalus.

"Dwi'n meddwl bod o mor bwysig nid yn unig i feddwl am chi'ch hun, ond i feddwl am y bobl 'da chi'n garu hefyd."

Dangosodd ffigyrau newydd ddydd Iau bod mwy o gleifion Covid-19 yn ysbytai Cymru ar hyn o bryd nag yn ystod ton gyntaf y feirws yn y gwanwyn.

Er bod nifer achosion yn gymharol isel yng ngogledd Cymru, cafodd cynnydd o 48% ei gofnodi'r wythnos ddiwethaf yn nifer y cleifion coronafeirws sy'n cael gofal dwys yn ysbytai'r bwrdd sy'n gwasanaethu'r rhanbarth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.