大象传媒

Achos 'sylweddol' o Covid-19 mewn cartref gofal

  • Cyhoeddwyd
Cartref Gofal Hafod y Waun, Waunfawr, AberystwythFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Does dim cadarnhad faint yn union o achosion coronafeirws sydd wedi'u cofnodi yng nghartref Hafan y Waun

Mae'r sefyllfa gydag achosion coronafeirws yng nghartref gofal Hafan y Waun, yn Waunfawr ger Aberystwyth yn parhau i fod yn "heriol" ac mae'r awdurdodau yn parhau i ddelio ag achos "sylweddol" yn y cartref, medd Cyngor Ceredigion.

Dywed y cyngor fod T卯m Rheoli Achosion aml-asiantaeth wedi cael ei sefydlu i ymateb i'r digwyddiad ac mae Cyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn parhau i ddarparu cymorth i'r cartref.

Nid yw'r manylion am nifer yr achosion yn y cartref wedi eu cyhoeddi, ond mae lle i hyd at 90 o breswylwyr yn y cartref.

Mewn datganiad nos Wener dywedodd Cyngor Ceredigion:

"Mae adnoddau sylweddol wedi cael eu darparu gan y Cyngor i gefnogi'r preswylwyr a'r staff, gan gynnwys darparu 12 gwely proffilio, sgrybs, biniau 芒 phedal ar gyfer pob ystafell wely, trol茂au ar gyfer PPE, darpariaeth gwastraff ychwanegol a llety ar gyfer staff.

"Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi galluogi'r Cartref i fanteisio ar wasanaethau nyrsys ardal a chwnsela rhithiol ar gyfer staff, a hynny'n ychwanegol at y Gwasanaethau Cynradd a Chymunedol.

"Mae MHA (Cartrefi Methodistaidd) yn cyfeirio staff ychwanegol i gefnogi'r t卯m cyfredol gyda'r bwriad o ddarparu mwy o staff i fod ar ddyletswydd na'r hyn sy'n arferol."

Ychwanegodd y datganiad fod y cyngor wedi cysylltu 芒 theuluoedd y preswylwyr "ac mae gan MHA rif ff么n penodedig 24 awr y dydd iddynt siarad ag un o'u caplaniaid. Mae'r preswylwyr yn parhau i gael eu cefnogi i gadw mewn cysylltiad 芒'u ffrindiau a'u teuluoedd trwy gyfrwng galwadau ff么n a fideo-gynadledda."

Mae trefniadau wedi cael eu gwneud i alluogi aelodau o'r teulu a ffrindiau i fynd ag unrhyw roddion neu gyfraniadau i Ganolfan Gymunedol Waunfawr, Aberystwyth ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener rhwng 10:00 a 12:00 medd y cyngor.