I ba raddau gall tyrbinau arnofiol bweru ein cartrefi?
- Cyhoeddwyd
Mae arbenigwyr yn credu y gallai tyrbinau gwynt arnofiol ymhell yn y m么r gyflenwi ein cartrefi 芒 thrydan.
Ar hyn o bryd, mae ffynonellau cynaliadwy, fel ynni haul a gwynt, yn cyflenwi tua hanner anghenion Cymru.
Mae Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, eisiau i ffermydd gwynt sefydlog ar y m么r bweru cartrefi erbyn 2030, ac mae Plaid Cymru'n credu bod modd i Gymru fod yn hunangynhaliol o ran ynni adnewyddadwy erbyn hynny.
Ond i ba raddau all tyrbinau nofiol oddi ar arfordir Cymru gyfrannu i'r achos?
Mae yna gynnig i godi fferm wynt 96 megawat mewn ardal 28 milltir oddi ar arfordir Sir Benfro erbyn 2027, allai bweru 90,000 o gartrefi.
Fe allai'r cynllun fod yn megis man cychwyn yma, yn sgil treialon llwyddiannus yn Yr Alban sy'n awgrymu mantais dros gynlluniau ynni gwyrdd eraill, gan gynnwys rhai ariannol ac amgylcheddol.
Mae'r buddsoddiad cychwynnol anferthol er mwyn codi morlynnoedd llanw, ar ffaith bod dim enillion am rai blynyddoedd, wedi bod yn faen tramgwydd.
Costau ariannol wnaeth achosi i Lywodraeth y DU wrthod cynllun morlyn llanw Abertawe yn 2018.
Mae gosod paneli solar a thyrbinau gwynt ar raddfa fawr mewn mannau gwledig hefyd yn bwnc llosg, oherwydd y dadleuon am eu heffaith ar dirluniau.
Un ateb yw manteisio ar arfordir Cymru, sy'n oddeutu 1,680 o hyd. a chodi ffermydd gwynt arnofiol.
Mae ceblau'n cysylltu'r tyrbinau ar y wyneb gyda gwely'r m么r, sy'n golygu bodd modd eu gosod mewn dyfnderoedd o gannoedd o fetrau.
Ond mae'r ffaith fod gwely'r m么r yn dyfnhau'n ddramatig mewn sawl man, yn gallu gwneud hynny'n anodd hefyd.
Manteision ariannol ac amgylcheddol
Mantais amlwg, medd Rhodri James o'r cwmni ynni byd-eang, Equinor, yw'r ffaith fod y tyrbinau arnofiol "yn llai gweledol" am eu bod mor bell o'r arfordir.
"Mae'n helpu, oherwydd dydy pobl mewn rhai mannau penodol ddim eisiau'u gweld," meddai. "Ac mewn mannau sydd wedi'u gwarchod, fel Parc Arfordir Penfro, gallai eu gosod ger yr arfordir fod yn broblem."
Mantais arall yw'r ffaith nad oes angen gwario ar ddur i osod y tyrbinau 60m dan dd诺r, ac mae'r gwynt yn gryfach gyda'r potensial i gynhyrchu mwy o ynni.
Cwmni Equinor gafodd y syniad yn y lle cyntaf yn 2001 i osod tyrbinau arnofiol ar gyfer platfformau olew a nwy oddi ar arfordir Norwy.
Roedd defnyddio disel i'w cynnal yn ddrud ac yn niweidiol i'r amgylchedd, ond ddaeth yn amlwg fod potensial mawr i gyflenwi'r Grid Cenedlaethol - trwy osod nifer fawr o'r tyrbinau oedd yn dod 芒'r gost i lawr i bob megawat o drydan.
Mae platfformau sefydlog yn cael eu lleoli fel arfer mewn dyfroedd hyd at 60m, ac mae modd gosod tyrbinau arnofiol mewn dyfnderoedd hyd at 1,000m.
"Sir Benfro yw'r ardal fwyaf ffafriol yng Nghymru, oherwydd ei dyfroedd dwfn" meddai Mr James. "Mae yna gryn gynhyrchu oddi ar y m么r yng ngogledd Cymru, ond platfformau sefydlog ydy'r rheiny mewn dyfroedd mwy bas.
"Mae Cymru'n ardal dda i ymchwilio ymhellach, fel Cernyw, Iwerddon, y M么r Celtaidd. Ond mae yna ymchwil mwy helaeth yn Yr Alban, ble bydd mwy o brofion ac arddangosiadau ac rydym yn hyderus iawn o symud i'r raddfa lawn."
Hunangynhaliol o fewn degawd?
Ar hyn o bryd, mae ffermydd gwynt oddi ar arfordiroedd y DU'n cynhyrchu tua 10 gigawat o drydan, gyda tharged o 40GW erbyn 2030.
Yn 么l i Lywodraeth Cymru, gallai dwy neu dair fferm wynt yn unig gyflenwi 2GW o drydan - digon ar gyfer dros filiwn o gartrefi.
Dywed Graham Ayling o'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni fod potensial "addawol" i greu'r seilwaith a gallai Cymru fod yn hunangynhaliol o fewn degawd.
"O weld cyflymder defnyddio a datblygu technolegau adnewyddadwy, a'r gostyngiadau yn y gost yn y blynyddoedd diweddar, mae'n bosib iawn y gallai Cymru gynhyrchu 100% o'i hanghenion trydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030," meddai.
Roedd sicrhau Cymru hunangynhaliol o ran ynni adnewyddadwy yn un o gynigion maniffesto Plaid Cymru yn Etholiad Cyffredinol 2019.
Dywed llefarydd amgylchedd y blaid, Llyr Gruffydd fod ffynonellau tonau a llanw oddi ar arfordiroedd Siroedd Penfro a M么n a'r M么r Celtaidd ymhlith "y ffynonellau ynni adnewyddadwy potensial gorau drwy'r byd".
Dylai eu defnyddio fod yn "flaenoriaeth strategol", meddai, ond mae technolegau mwy addawol fyth yn cael eu datblygu na fydd yn cael eu defnyddio'n llawn tan ddiwedd y ddegawd.
Mae Mr Gruffydd yn galw am fuddsoddi mewn ymchwil, datblygu, a gwella sgiliau'r gweithlu fel bod Cymru'n barod i fanteisio ar dechnoleg fel ffermydd gwynt arnofiol.
Dywedodd llefarydd ynni'r Ceidwadwyr Cymreig, Janet Finch-Saunders bod adnoddau naturiol Cymru'n rhoi cyfle i helpu sbarduno'r economi gan greu "swyddi coler gwyrdd hirdymor".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd21 Awst 2020