大象传媒

53 achos positif wedi'u rhyddhau i gartrefi gofal

  • Cyhoeddwyd
Cartref gofalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd cyfanswm o 167 o gleifion eu rhyddhau i gartref wedi iddyn nhw gael prawf positif rhwng 1 Mawrth a 31 Mai

Cafodd 53 o bobl eu rhyddhau o ysbytai i gartrefi gofal yng Nghymru o fewn 15 diwrnod iddyn nhw gael prawf positif am coronafeirws ar ddechrau'r pandemig.

Mae ffigyrau newydd yn dangos bod y rhain ymysg y 1,729 o gleifion gafodd eu rhyddhau i gartrefi rhwng Mawrth a Mai.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y gallai hyn fod wedi achosi clystyrau o achosion mewn poblogaeth fregus.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am fwy o graffu ar y data er mwyn ei ddeall "yn hytrach na rhuthro i unrhyw gasgliad".

Mae ffigyrau sydd wedi'u rhyddhau i lefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies gan y Gweinidog Iechyd yn dangos bod cyfanswm o 167 o gleifion wedi cael eu rhyddhau i gartref gofal wedi iddyn nhw gael prawf positif rhwng 1 Mawrth a 31 Mai.

Roedd dros 30% o'r rheiny wedi cael eu rhyddhau o fewn pythefnos o'r prawf positif.

Newid polisi

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething bod polisi Llywodraeth Cymru wedi newid erbyn 29 Ebrill, ac wedi hynny y bu'n rhaid i glaf gael prawf negatif cyn cael ei ryddhau.

Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n cael prawf positif am Covid-19 hunan-ynysu am 10 diwrnod, ac mae'n rhaid i unrhyw un sydd wedi dod i gysylltiad 芒 nhw ynysu am bythefnos.

Mae Mr Davies wedi galw ar unrhyw ymchwiliad i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi delio 芒'r pandemig i ystyried y rhesymau dros ryddhau'r bobl hyn i ganol "poblogaeth fregus" cartrefi gofal.

Erbyn mis Mehefin roedd 28% o farwolaethau Covid-19 yng Nghymru'n ymwneud 芒 chartrefi gofal.

Dywedodd Pwyllgor Iechyd y Senedd bod cartrefi gofal wedi'u "methu'n wael" yn ystod y pandemig, bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn rhy araf i'r argyfwng a bod eu polisi tuag at brofi preswylwyr ar y dechrau yn "ddiffygiol".

Ond fe wnaeth ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddod i'r casgliad nad oedd rhyddhau cleifion o ysbytai i gartrefi gofal wedi cynyddu'r risg o glystyrau Covid-19 ymysg preswylwyr.

'Seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi "gweithio gyda'r sector gofal trwy gydol y pandemig i gefnogi cartrefi gofal gyda rheoli heintiau, mwy o staffio ble fo angen, cyngor a rhagor o nawdd i ddelio 芒 chostau'r pandemig a PPE am ddim i gadw preswylwyr bregus yn ddiogel".

"Mae ein polisi profi mewn cartrefi gofal wedi bod yn seiliedig ar y wybodaeth wyddonol ddiweddaraf. Wrth i ni ddysgu mwy am coronafeirws mae ein polisi profi wedi newid, fel yw'r achos ledled y DU.

"Mae holl staff cartrefi gofal yn cael eu profi'n wythnosol.

"Ry'n ni wedi comisiynu rhagor o graffu ar y ffigyrau er mwyn deall yr hyn mae'r data yn dweud wrthym yn hytrach na rhuthro i unrhyw gasgliad."