大象传媒

Cronfa newydd i roi 'r么l gryfach' i gynghorau lleol

  • Cyhoeddwyd
Arian a baner CymruFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd cynghorau lleol 芒 "r么l gryfach" yn y gronfa newydd sy'n disodli cymorth Ewropeaidd, medd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart.

Mae disgwyl i Lywodraeth y DU gyhoeddi manylion y gronfa wedi adolygiad gwariant y Canghellor wythnos nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru'n dadlau mai nhw ddylai rheoli rhan Cymru o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, nid gweinidogion San Steffan, ond mae hefyd addewid i roi llais cryfach i awdurdodau lleol.

Swyddfa Cyllido Ewropeaidd Cymru (WEFO) - rhan o Lywodraeth Cymru - sydd wedi bod yn gweinyddu arian Ewropeaidd yng Nghymru.

Mae gweinidogion Llafur yng Nghymru wedi cyhoeddi cynigion eu hunain ar gyfer gwario arian y gronfa newydd, gan ddweud y dylai Llywodraeth y DU ddilyn esiampl yr Undeb Ewropeaidd a chyhoeddi "agenda polisi".

Maen nhw hefyd yn dadlau bod angen dosbarthu cyllid y gronfa "yn llawn" i Lywodraeth Cymru, a rhoi "rheolaeth lawn" i weinidogion yng Nghaerdydd.

Ond mae'n ymddangos fod y ddwy lywodraeth yn cytuno ynghylch angen i gynyddu rhan yr awdurdodau lleol yn y broses.

Mae gweinidogion Cymru'n "rhagweld r么l ganolog i'r awdurdodau lleol".

Mewn erthygl ym mhapur The Telegraph, ysgrifennodd Simon Hart ei fod yn gweld "r么l gryfach i'r cynghorau lleol, cyrff etholedig ac atebol sy'n gweithredu'n agosaf i'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu".

Ychwanegodd: "Wrth gwrs, dyma sut y dylai'r cyllido fod wedi gweithredu o'r dechrau, ond y gwrthwyneb fu'r achos."

'Cyfle unwaith mewn cenhedlaeth'

Dywedodd Mr Hart fod gadael yr UE "yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i bwyso'r botwm ailddechrau ar sut mae biliynau o bunnau'n cael eu gwario ar draws Cymru".

Wedi cyfarfodydd gyda chynghorau lleol wythnos ddiwethaf, dywed Mr Hart eu bod "yn awyddus i chwarae r么l fwy o ran buddsoddi'r cyllid yma'n fwy effeithiol" a'i "ddosbarthu i'r rhai all dargedu'r arian orau i brojectau mwyaf buddiol i'w cymunedau".

Ychwanegodd: "Rwy'n parhau'n obeithiol y bydd Llywodraeth Cymru'n cymryd agwedd gydweithredol, gan roi egwyddorion o flaen gwleidyddiaeth."

Mae deddfwriaeth yn mynd trwy Senedd San Steffan i roi pwerau newydd i Whitehall wario yn y gwledydd datganoledig mewn meysydd fel datblygu economaidd.

Cyn cael ei ethol yn arweinydd y Ceidwadwyr, amlygodd Boris Johnson awydd am "ddylanwad Ceidwadol cryf" ar wario wedi Brexit.

Ond rhybuddiodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford y byddai unrhyw ymgais i ganoli pwerau gwario yn Llundain yn "ymosodiad ar ddatganoli".