Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Taflenni Covid-19 ffug yn 'codi ofn' yn Sir Benfro
- Awdur, Aled Scourfield
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae taflenni sy'n lledaenu honiadau ffug am Covid-19 sydd wedi eu dosbarthu yn Sir Benfro wedi eu beirniadu'n hallt gan Weinidog Iechyd Cymru.
Mae'r taflenni yn honni bod y gwasanaeth iechyd a'r cyfryngau yn "camddehongli ffeithiau er mwyn creu'r argraff fod y pandemig yn un marwol".
Maen nhw wedi cael eu dosbarthu i gartrefi yn Crundale ger Hwlffordd a Manorb欧r.
Does dim gwybodaeth ar y daflen yngl欧n 芒 phwy sydd yn gyfrifol am eu cynhyrchu a'u dosbarthu.
Codi ofn
Fe gysylltodd Simon Moffett gyda 大象传媒 Cymru yngl欧n 芒'r taflenni, ac mae hefyd wedi gwneud cwyn i Heddlu Dyfed-Powys.
"Fe aeth e mewn i'r blwch post dydd Llun. Roeddwn i yn meddwl fod e'n ofnadwy, oherwydd mae'n dweud nad yw cyfraddau marw yn uwch eleni na mewn blwyddyn pan mae'r ffliw yn wael, ond mae dros 3,000 o bobl ychwanegol wedi marw", meddai.
"Mae'n dweud lot o gelwyddau ac yn eich annog chi i anwybyddu'r rheolau. Mae'n codi ofn arnoch chi."
Yn 么l y gweinidog Vaughan Gething mae'n "bryderus iawn bod y taflenni hyn yn lledaenu newyddion ffug a chynllwynion yngl欧n 芒 coronafeirws".
Does yna ddim manylion cyswllt ar y daflen, ond mae hi'n ymddangos bod un o'r gwefannau sy'n cael eu crybwyll ar y daflen wedi ei lleoli yn Nenmarc.
Mae'r wefan coronawhistleblower.org yn awgrymu "nad yw Covid-19 yn beryglus o gwbl" a bod pobl sydd yn ddifrifol wael yn mynd yn s芒l am eu bod nhw'n pryderu am y feirws, a taw'r meddwl nid yr haint, sydd yn gwneud pobl yn s芒l.
Mae Mr Moffett yn byw llai na dwy filltir o Ysbyty Llwynhelyg.
"Mae yna sawl meddyg a nyrs yn byw fan hyn. Da ni yn gwybod am bobl sydd wedi bod mewn yn yr ysbyty ac sydd wedi bod yn s芒l."
'Nonsens'
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y daflen yn cynnwys gwybodaeth ffug a chynllwynion yngl欧n 芒'r argyfwng Covid-19, a bod aelod o'r t卯m plismona wedi siarad gyda'r sawl oedd wedi cwyno er mwyn "trafod y mater".
Yn 么l yr heddlu, roedd Llywodraeth Cymru bellach yn ymwybodol o'r cwynion.
Mae'r Aelod o'r Senedd dros Orllewin a Chanolbarth Cymru, Helen Mary Jones, yn bwriadu codi'r mater gyda Llywodraeth Cymru.
Dywedodd: "Mae'n amlwg yn nonsens, ond mae hi yn amlwg yn daflen sydd wedi ei chreu yn broffesiynol.
"Mae fe'n edrych yn gredadwy a dwi'n poeni am yr effaith ar bobl, yn enwedig rheiny dan straen.
"Mae fe'n hynod anghyfrifol. Dwi'n gwybod nad yw'n anghyfreithlon, ond fy mwriad i yw codi fe gyda Llywodraeth Cymru i weld a oes pethe gallwn ni wneud o fewn rheoliadau Cymru i rwystro pobl rhag rhannu'r fath yna o nonsens."