大象传媒

Cannoedd ym Merthyr Tudful yn derbyn prawf Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Prawf
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Aelodau'r cyhoedd yn aros am brawf Covid-19 ym Merthyr fore dydd Sadwrn

Mae cannoedd o bobl wedi bod yn aros i gael prawf Covid-19 mew canolfan brofi ym Merthyr Tudful, wrth i'r gwaith o gynnal profion torfol yn yr ardal ddechrau ddydd Sadwrn.

Fe all hyd at 60,000 o bobl gael eu profi o dan y cynllun, gyda'r rhai heb symptomau'n cael eu hannog i gael prawf hefyd.

Prif nod y cynllun peilot - y cyntaf o'r fath yng Nghymru - yw profi pobl sydd ddim yn dangos unrhyw symptomau yn y gobaith o ddod o hyd i rai sy'n cario'r feirws.

Fe fydd y rhai hynny wedyn yn hunan-ynysu ac yn rhwystro'r haint rhag lledaenu.

Mae pryder y bydd rhai teuluoedd yn ardal Merthyr Tudful yn byw mewn tlodi wrth i'r Nadolig agosau, a hynny yn sgil colli cyflog oherwydd prawf positif Covid-19.

Helpu rhai sy'n hunan ynysu

Ddechrau Tachwedd Merthyr Tudful oedd 芒'r raddfa uchaf o achosion Covid-19 yn y DU, ond mae'r sefyllfa fymryn yn well yno erbyn hyn.

Ddydd Gwener, cyn i'r profion torfol ddechrau, roedd gan y dref 245.3 o achosion fesul 100,000 o bobl mewn cyfnod o saith diwrnod.

Roedd y ffigyrau'n uwch ym Mlaenau Gwent gyda 365, a Rhondda Cynon Taf gyda 250.8.

Mae 175 o aelodau'r lluoedd arfog wedi cael eu galw i helpu, gyda'r safle profi cyntaf yn agor yng Nghanolfan Hamdden Merthyr ddydd Sadwrn.

Mae grwpiau cymunedol yn yr ardal yn gwneud paratoadau ar gyfer helpu'r rhai hynny fydd yn gorfod hunan-ynysu o ganlyniad i brawf positif.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y ganolfan brofi ym Merthyr cyn agor ei drysau i'r cyhoedd

Mae gwirfoddolwyr menter cymorth cymunedol Twynyrodyn yn paratoi i helpu teuluoedd sy'n gorfod hunan-ynysu, rhag mynd heb fwyd.

Maen nhw eisoes wedi bod yn helpu i ddanfon dros 270 o focsys bwyd y dydd i deuluoedd a phobl sy'n byw eu hunain, yn ogystal 芒 dros 200 o brydau poeth bob wythnos.

'Rhaid cynnal y profion'

Dywedodd rheolwr y prosiect, Louise Goodman, fod gwir bryder yn y gymuned y byddai plant yn colli cael prydau bwyd ysgol am ddim os oeddynt yn gorfod hunan-ynysu.

"Rydym yn disgwyl y bydd nifer o bobl yn cysylltu gyda ni i ofyn am gymorth," meddai.

"Mae'n rhaid gwneud hyn [cynnal y profion] ac fe fydd yn gwneud daioni, ond mae'n rhaid cofio hefyd fod bywydau pobl ynghlwm wrth hyn i gyd."

Mae llawer o'r rhai sy'n cael cymorth ganddynt ar gytundebau dim oriau, neu'n hunan-gyflogedig, ac yn 么l Ms Goodman byddent yn gorfod mynd heb gyflog cyn y Nadolig os oeddynt yn profi'n bositif neu'n cael gorchymyn gan y gwasanaeth olrhain.

Ond er fod pryderon, roedd mwy o bobl wedi bod yn gwirfoddoli i helpu yn ystod y cyfnodau clo ac roedd hi'n bendant y byddai pobl Merthyr yn dod drwyddi.

"Mae pawb yn anhygoel, mae o jest yn dangos sut fath o gymuned yw hon, mae pawb yn helpu ei gilydd ac yn cyd-dynnu," meddai.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ddechrau Tachwedd roedd Merthyr ar y brig drwy'r DU am achosion Covid-19

Mae cymdeithas dai Cartrefi Cymoedd Merthyr, sydd 芒 4,100 o denantiaid a 200 o weithwyr ar draws y sir, yn eu hannog i fynd am brawf.

Dywedodd cyfarwyddwr y cwmni, Michelle Reid, eu bod yn paratoi rhag ofn y bydd nifer fawr o staff yn gorfod hunan ynysu.

"Dwi ddim yn gwybod sut fydd pethau'n mynd, mae'n teimlo'n nes at adref y tro hwn. Rydym am fod yn barod ac am roi cymaint o rybudd a chefnogaeth 芒 phosib i bobl," meddai.

"Ond rwyf yn hyderus - mae'r ffordd y mae pobl Merthyr wedi dod ynghyd i gefnogi ei gilydd yn anhygoel, mae yna rhywbeth arbennig am yr ysbryd sydd yma.

"Bydd pobl Merthyr yn dod drwy hyn."

Sut fydd y cynllun yn gweithio?

Yn 么l Cyngor Merthyr Tudful dylai pawb sy'n byw, gweithio, neu'n fyfyrwyr yn yr ardal - gan gynnwys plant dros 11 oed - gael dau brawf dros 14 diwrnod, neu dri phrawf dros dair wythnos, a gall pobl ofyn am ragor os mynnent.

Bydd disgyblion ysgol 11-18 oed sy'n mynychu ysgolion y sir neu Goleg Merthyr Tudful yn cael profion yn eu hysgol neu goleg, yn ddibynnol ar ganiat芒d eu rhieni.

Fe fydd profion yn cael eu cynnal mewn rhai gweithleoedd sy'n cyflogi nifer o bobl, megis cwmni ffonau symudol EE, a chwmni Op Chocolates.

  • Mae disgwyl i 14 o safleoedd profi eraill agor yn yr wythnosau nesaf, ac mae profion yn y cartref yn cael eu hystyried ar gyfer y rhai mwyaf bregus.

  • Nid oes angen bwcio lle, dim ond troi i fyny mewn canolfan brofi.

  • Dylai canlyniad y prawf fod yn barod ymhen tua 20 munud.

  • Os ydy unigolyn yn profi'n bositif byddant yn gorfod mynd adref i hunan-ynysu'n syth.

  • Y disgwyl yw y bydd rhai o'r canolfannau profi ar agor tan 23 Rhagfyr.