大象传媒

Codi unedau dros dro er mwyn ymweld 芒 chartrefi gofal

  • Cyhoeddwyd
Pod
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Jennifer Lascelles weld ei merch, Sue, yn uned newydd cartref Queen Elizabeth Court yn Llandudno

Bydd unedau bach dros dro yn cael eu gosod ar gyfer ymwelwyr 芒 chartrefi gofal ar draws Cymru er mwyn ei gwneud hi'n haws ymweld ag anwyliaid dros y Nadolig a misoedd y gaeaf.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y cynllun peilot, sy'n werth 拢3m, yn cynnwys gosod a llogi 100 o unedau gyda'r 30 cyntaf yn barod erbyn y Nadolig.

Bydd yr unedau lled-barhaol hyn ar gael am gyfnod o chwe mis wrth i'r llywodraeth ystyried cynlluniau tymor hir.

Hefyd bydd 拢1m yn cael ei roi i ddarparwyr gofal sydd am wneud trefniadau tebyg eu hunain.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nifer wedi bod yn gorfod siarad 芒 phreswylwyr cartrefi gofal drwy'r ffenest

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor anodd fu'r misoedd diwethaf i bobl sy'n byw mewn cartrefi gofal, a'u hanwyliaid...

"Rydyn ni'n cydnabod y trallod a'r tristwch a fu'n rhan o fywyd pobl ers mis Mawrth, a hefyd yr awydd sydd gan y cartrefi gofal i hwyluso ymweliadau cyn y Nadolig ac wedyn, drwy gydol y gaeaf.

"Ar 么l ymgysylltu 芒 rhanddeiliaid allweddol, rydyn ni'n hyderus y bydd yr unedau hyn yn ffordd o sicrhau bod ymweliadau ystyrlon yn gallu digwydd unwaith yn rhagor."

Ffurfio swigod dros yr 诺yl

Yn y cyfamser mae disgwyl y bydd trefniadau'r Nadolig yn un o brif bynciau trafod cabinet Llywodraeth Cymru ddydd Llun wrth iddyn nhw gyfarfod ar gyfer eu cyfarfod wythnosol.

Ddydd Sul dywedodd llefarydd ar ran cabinet llywodraeth San Steffan bod pedair llywodraeth y DU yn gobeithio cwblhau trefniadau'r Nadolig yr wythnos hon ac mai gobaith pob un llywodraeth yw caniat谩u aelwyd i ffurfio swigod gydag aelwydydd eraill am rai diwrnodau.

Ond ychwanegodd bod angen "parhau i gymryd gofal a dim ond cael y lleiafswm o gysylltiad cymdeithasol".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywed llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Mae pobl wedi gorfod aberthu llawer yn barod a rhaid i Lywodraeth Cymru feithrin cydymdeimlad wrth benderfynu pa reoliadau fydd mewn grym rhwng nawr a'r flwyddyn newydd fel bod pobl, o leiaf, yn medru treulio penwythnos hir yr 诺yl gyda theulu.

"Ond mae'n gyfrifoldeb arnom i gyd i gadw ein ffrindiau a'n teulu yn ddiogel.

"Rhaid cael rhaglen brofi ar raddfa eang - un y gellid ei rhoi ar waith yn syth mewn ardaloedd o achosion uchel.

"Y data, effeithiolrwydd neges y llywodraeth, profi ar raddfa eang a chael canlyniadau buan fydd yn penderfynu a fydd angen clo byr arall wedi'r Nadolig ac hefyd wrth gwrs y ffordd y byddwn ni'n ymddwyn er mwyn lleihau'r risg i ni'n hunain a'r rhai o'n cwmpas.

"Mae'n rhyddid yn ystod gwyliau'r Nadolig yn ddibynnol ar ein hymddygiad hefyd. Fyddwn ni ddim yn gallu cael Nadolig normal ond rwy'n gobeithio y bydd hi'n bosib i ni allu treulio cyfnod diogel gyda'n hanwyliaid," ychwanegodd.

'Cydweithio yn hanfodol'

Yn 么l arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies: "Mae'n newyddion da fod pob llywodraeth wedi ymrwymo i drafod trefniadau'r Nadolig gyda'i gilydd.

"Mae gan bobl deulu a ffrindiau ymhob rhan o'r DU felly mae cydweithredu yn hanfodol," ychwanegodd.

Yn ystod y dydd mae yna ddyfalu y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi a fydd hi'n orfodol i orchuddio'r wyneb mewn ysgolion uwchradd wedi iddyn nhw fod yn ystyried tystiolaeth wyddonol newydd ynghylch lledaeniad Covid-19.

Ddydd Sul dangosodd ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 11 yn rhagor o bobl wedi marw o ganlyniad i'r haint. O ganlyniad mae cyfanswm nifer y marwolaethau Covid-19 drwy Gymru bellach yn 2,376.

Roedd yna 808 o brofion positif ychwanegol gan ddod 芒'r cyfanswm i 72,341.