Ymdrechion yn Llandeilo i ddenu siopwyr lleol
- Cyhoeddwyd
Mae arwyddion y bydd siopa yn lleol yn llawer mwy poblogaidd eleni ar drothwy'r Nadolig.
Mae cyfyngiadau Covid-19 wedi newid arferion siopa, ac mae arolwg newydd a gomisiynwyd gan Visa yn awgrymu fod 70% o bobl yng Nghymru yn credu ei bod yn bwysig cefnogi siopau lleol y Dolig hwn.
Fore Mawrth, 24 Tachwedd bydd Pop-Up Llandeilo yn agor ei ddrysau ar y stryd fawr yn y dre a bydd cyfle i gynhyrchwyr lleol werthu o dan yr un to.
Dywed Lisa Jones sydd yn berchen ar yr adeilad: "O'dd y siop yn wag 'da ni, a 'naethon ni benderfynu bo' cyfle fan hyn i agor siop pop-up ar gyfer y Nadolig.
"O'n i'n gweld fod busnesau bach wedi colli mas ar ddigwyddiadau a ffeiriau Nadolig, a meddwl y bydde hyn yn gyfle gwych."
Colli'r gwmn茂aeth
Yn 么l arolwg gan Visa, roedd 56% o'r rhai a holwyd yn dweud fod cefnogi busnesau lleol yn eu gwneud yn hapus a dros 70% yn poeni am ddyfodol busnesau bychain annibynnol yn yr hinsawdd presennol.
Eleri Haf Designs fydd un o'r stondinau yn Pop-up Llandeilo sydd yn gwerthu cardiau cyfarch a bagiau cotwm.
"Sai 'di neud rhwybeth fel hyn o'r blaen," eglura Eleri Haf o Landybie.
"Fi fel arfer yn gwneud ffeiriau Nadolig, ond ma' hyn yn lyfli gan bod ni methu gwneud ffeiriau eleni."
Dywed Eleri ei bod wedi colli cwmn茂aeth cwsmeriaid yn ystod y flwyddyn.
"Mae hynny 'di bod yn drist - methu gweld cwsmeriaid a chwrdd wyneb yn wyneb. Felly dwi'n edrych 'mlaen at hynny."
Bydd amrywiaeth o stondinwyr yn y siop yn Llandeilo.
"Mae tua 15 o fusnesau 'da ni, ac roedd hi'n bwysig cael trawsdoriad, fel bod amrywiaeth o anrhegion ar gael, o fwyd i emwaith a bagiau," eglura Lisa Jones.
"Mae'n rhan o fy ngwaith i helpu busnesau ar gyfryngau cymdeithasol, a'r trend ydy fod pobol mo'yn cefnogi yn lleol eleni.
"Ni hefyd yn credu falle na fydd pobol yn teithio o'r ardal hon i lefydd fel Caerdydd ac Abertawe i wneud eu siopa Dolig, a'u bod yn hapus i ddod i Landeilo a chefnogi'n lleol."
Drwy wario deg punt gyda busnes lleol, mae gwerth 拢3.80 yn aros yn yr ardal - dyna gasgliad yr ymgyrch Where You Shop Matters gan Visa .
A thrwy ddewis siopa'n lleol y Nadolig hwn, mae'r ymgyrch yn nodi y gallai cwsmeriaid ddyblu'r swm sy'n aros yn eu hardal leol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd20 Awst 2020