大象传媒

Covid-19: Ysgolion ardal Aberteifi i gau am bythefnos

  • Cyhoeddwyd
Aberteifi
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed y Maer Clive Davies y bydd y dref yn cyd-dynnu i arafu lledaeniad yr haint

Bydd ysgolion Aberteifi yng Ngheredigion ar gau am bythefnos wedi i nifer o achosion Covid-19 gael eu cadarnhau yn yr ardal.

Yn ogystal mae nifer o fusnesau wedi dewis cau er mwyn gwarchod y cyhoedd rhag yr haint.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi annog trigolion yn y sir i ddilyn canllawiau'r haint ar 么l i 21 achos gael eu cofnodi yn y sir ddydd Sul.

Part茂on a digwyddiadau cymdeithasol ydy "craidd" y broblem, meddai arweinydd y cyngor.

Yn y cyfamser, cyhoeddodd Cyngor Powys y bydd Ysgol Uwchradd Y Trallwng ar gau i ddisgyblion tan ddydd Llun 7 Rhagfyr oherwydd "achosion yn yr ysgol a'r gymuned ehangach sy'n effeithio ar ddysgwyr a staff".

'Cyfnod pryderus a thrist'

Wrth siarad 芒 Cymru Fyw, dywedodd maer y dref Clive Davies fod "yr ardal yn wynebu cyfnod pryderus a thrist ond ry'n ni gyd yn tynnu gyda'n gilydd er mwyn gwella pethau erbyn y Nadolig".

"Mae pawb yn chwarae ei ran. Dros y penwythnos mae'r cyngor sir wedi bod yn gweithio'n galed drwy ddefnyddio y system track and trace i atal yr haint rhag lledaenu ymhellach.

"Mae nifer o fusnesau wedi dewis cau er mwyn gwarchod cwsmeriaid rhag yr haint ac ry'n ni wir yn ddiolchgar am hynny - mae pawb yn chwarae rhan fel bod pethe yn gwella erbyn y Nadolig," ychwanegodd Mr Davies.

Dywedodd Eleri Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) bod "cynnydd wedi bod yng Ngheredigion, ond mae'n dal i fod ar lefel weddol isel o'i gymharu 芒 rhai ardaloedd eraill yng Nghymru".

Dywedodd bod ICC yn "cefnogi ac yn edrych yn fanwl ar y ffigyrau o hyd" ac y byddai rhagor o drafodaethau yn ystod yr wythnos.

Yn yr haf fe wnaeth profiad Ceredigion o ddelio gyda coronafeirws ddenu tipyn o sylw gan mai dyma'r sir oedd 芒'r gyfradd isaf ond un o farwolaethau Covid-19 drwy Gymru a Lloegr.

Yn siarad ar y Post Cyntaf dydd Llun, dywedodd arweinydd cyngor Ceredigion Ellen ap Gwynn bod y sefyllfa'n "wahanol tro 'ma achos dyw e ddim mewn lle cyfyngedig".

"Mae hwn yn y gymuned, os ydy pobl yn ymwneud 芒'i gilydd yn lleol yn Aberteifi mae yna beryg i'r haint 'ma i ledaenu llawer yn gyflymach na mae wedi bod yn y gwneud."

Ychwanegodd mai "craidd" y broblem oedd pobl yn cael part茂on a'n mynychu digwyddiadau cymdeithasol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Ellen ap Gwynn mai cwrdd yn gymdeithasol sy'n bennaf gyfrifol am y twf mewn achosion

"Ar 么l i'r clo bach ddod i ben dwi'n credu o'dd pawb yn meddwl, 'o hwre, 'da ni'n rhydd,' ac mae yna ambell barti wedi cael eu cynnal, mae yna ambell drais o amgylch tafarnau wedi bod."

"Mae yna beryg yn y gymuned lle bynnag 'da ni'n byw ac mae jyst neges gen i, byddwch yn ofalus achos dyna beth sy'n digwydd pan ry'ch chi'n meddwl bod popeth yn iawn a dyw e ddim."

Part茂on a gweithgareddau cymdeithasol

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion: "Dros yr wythnosau diwethaf, mae nifer yr achosion yn y sir wedi cynyddu'n sylweddol ac rydym bellach yn profi'r nifer uchaf o achosion positif ers dechrau'r pandemig.

"Rydym bellach yn gweld y feirws yn lledaenu yn ein cymunedau, a gellir gweld nifer o'r achosion yn ymwneud 芒 digwyddiadau fel part茂on a gweithgareddau cymdeithasol.

"Mae'r math hwn o ymddygiad yn gwbl anghyfrifol ac mae'n peryglu iechyd ein hanwyliaid, mae'n cael effaith uniongyrchol ar addysg ein plant ac mae'n rhoi pwysau ar y GIG."

Pa ysgolion sy'n cau?

Ymhlith yr ysgolion fydd ar gau o ddydd Llun 23 Tachwedd tan 7 Rhagfyr mae Ysgol Uwchradd Aberteifi, Ysgol Gynradd Aberteifi, Ysgol Gynradd Penparc, Ysgol Gynradd Aberporth, Ysgol Gynradd T. Llew Jones, Ysgol Gynradd Llechryd ac Ysgol Gynradd Cenarth.

Bydd dosbarth derbyn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan hefyd yn gorfod hunan-ynysu am bythefnos ar 么l i'r ysgol gael cadarnhad o achos o Covid-19 yn yr ysgol dydd Llun, yn ogystal 芒 nifer fach o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Penglais, Aberystwyth, yn dilyn achos pellach yno.

Mae Coleg Ceredigion hefyd wedi cyhoeddi bydd holl ddysgu'r coleg yn digwydd ar-lein am y pythefnos nesaf.

Bydd Meithrinfeydd Dechrau'n Deg yn Aberteifi ac Aberporth hefyd ar gau tan 7 Rhagfyr.

Bydd Llyfrgell Aberteifi ar gau tan ddydd 7 Rhagfyr ond bydd y Gwasanaeth Llyfrgell yn cysylltu ag unrhyw un sydd wedi archebu'r gwasanaeth clicio a chasglu.

Fe wnaeth Cyngor Sir Penfro gadarnhau nos Sul y bydd Ysgol y Preseli, Ysgol y Frenni, Ysgol Eglwyswrw, Ysgol Llandudoch, Ysgol Cilgerran ac Ysgol Clydau ar gau ddydd Llun hefyd, ond does dim cadarnhad tan pryd.

'Rhaid gweithredu'n gyflym'

Ychwanegodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion: "Nid yw'r penderfyniadau hyn wedi'u gwneud yn ysgafn ond mae angen gweithredu'n gyflym er mwyn osgoi lledaenu'r feirws ymhellach yn ein cymunedau.

"Gofynnwn i'r cyswllt cymdeithasol hwnnw gael ei gadw mor sylfaenol 芒 phosibl yn ystod y 14 diwrnod hyn.

"Rhaid i bob cyswllt a gadarnhawyd o achosion positif aros gartref am 14 diwrnod er mwyn lleihau'r posibilrwydd o ledaenu'r feirws i deulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach."

"Rhaid i unrhyw un sydd 芒 symptomau, waeth pa mor fach, ddilyn canllawiau hunan-ynysu a threfnu prawf ar unwaith, gan adael cartref i gael prawf yn unig. Ni ddylai unrhyw un fynd i'r gwaith na gadael y t欧 os oes ganddynt unrhyw symptomau.

"Peidiwch ag oedi cyn archebu prawf os oes gennych unrhyw symptomau - nid oes angen teimlo cywilydd yngl欧n 芒'r angen i gael prawf. Ond dim ond os oes gennych unrhyw symptomau y dylech gael prawf.

"Nid yw prawf negyddol un diwrnod yn golygu na fyddwch yn bositif ar ddiwrnod arall. Dyna pam mae'r 14 diwrnod nesaf yn hanfodol i atal lledaeniad y feirws."

Nos Sul mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd Elin Jones, AS Ceredigion bod yr achosion yn ystod y saith diwrnod diwethaf yn 202 ymhob 100,000 yn ardaloedd Aberteifi ac Aberporth.

"Dyw Ceredigion ddim yn rhydd o effeithiau'r feirws, ac er fod brechiad ar y ffordd mae sawl mis eto o'r pandemig yma i fynd."

'Rhaid dilyn y canllawiau'

Mae'r Cyngor yn gofyn i drigolion Aberteifi a'r cyffiniau ddilyn y canllawiau canlynol er mwyn sicrhau diogelwch:

  • Cadwch bellter cymdeithasol o 2m oddi wrth ei gilydd pan fyddwch allan - dan do ac yn yr awyr agored;

  • Golchwch eich dwylo'n rheolaidd;

  • Cyfyngu ar eich cyswllt cymdeithasol;

  • Gweithio o gartref lle bynnag y bo'n bosibl;

  • Gwisgwch fwgwd mewn mannau cyhoeddus dan do, siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.