大象传媒

Swyddi 'gwerthfawr' wedi diflannu o ganslo gwyliau Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Eisteddfod Caerdydd 2018

Mae swyddi "gwerthfawr, sgiliau uchel" wedi diflannu o ganlyniad i ganslo digwyddiadau diwylliannol Cymraeg mawr fel yr Eisteddfod, meddai pwyllgor.

Clywodd ASau bod 2,000 o swyddi yn ddibynnol ar yr Eisteddfod Genedlaethol am incwm, a bod cyfrannau helaeth o staff yr Urdd a'r Mentrau Iaith wedi eu rhoi ar ffyrlo.

Mae Aelodau'r Senedd eisiau i swyddi sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo'r Gymraeg fod yn "rhan allweddol" o gynlluniau'r llywodraeth i dyfu economi Cymru ar 么l y pandemig.

Ond roedd newyddion cadarnhaol hefyd, wrth i'r gr诺p glywed bod 8,000 o bobl wedi cofrestru am gyrsiau dysgu Cymraeg ar-lein ers mis Mawrth.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg bod yr iaith yn cael ei hystyried yn llawn wrth ddatblygu'r economi.

'2,000 o swyddi'n ddibynnol'

Mae canslo digwyddiadau mawr fel yr Eisteddfod Genedlaethol, a thoriadau yn y cyllid i gefnogi darpariaeth Gymraeg, yn golygu bod swyddi gwerthfawr yn diflannu yng Nghymru, meddai Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Senedd.

Clywodd y pwyllgor gan nifer o sefydliadau Cymraeg, oedd yn esbonio effaith y coronafeirws arnynt.

Dywedodd Betsan Moses o'r Eisteddfod Genedlaethol bod 2,000 o swyddi yn "rhannol neu'n ddibynnol ar yr Eisteddfod ar gyfer incwm" wedi diflannu, a bod gwerth bron i 拢2m mewn cytundebau wedi eu hail-negydu.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn Nhregaron yr oedd yr Eisteddfod Genedlaethol i fod eleni

Yn ogystal 芒'r effaith ar y mudiad, clywodd y pwyllgor am yr effaith ar leoliadau'r digwyddiadau, a'r amcangyfrif bod budd economaidd o rhwng 拢6m ac 拢8m yn dod i ardal yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn.

Ychwanegodd Ms Moses y byddai "yn sicr" yn cymryd tan 2022 i "gychwyn dod allan o hwn".

'Teimlo'r effaith nes 2022'

Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Sian Lewis, ei bod yn amcangyfrif 拢3.5m o ddyled i'r mudiad dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae hi hefyd yn rhagweld y bydd cyfanswm y colledion yn cynyddu i 拢18m dros y blynyddoedd nesaf gan na fydd pobl ifanc yn cael mynd i'r gwersylloedd.

Mae "dros 拢100,000 o werthiant" y "tri llyfr mawr" sy'n ennill gwobrau'r Eisteddfod "wedi mynd, ac mae'r bwlch yn parhau", meddai Helgard Krause o Gyngor Llyfrau Cymru.

Gallai gwerthiant o ddigwyddiadau mawr fod yn hanner incwm blynyddol gweisg bach, meddai, a dywedodd hefyd y byddai'r effaith i'w deimlo nes 2022 "ar y cynharaf".

Dywedodd Lowri Jones o'r Mentrau Iaith bod 200 o'r 300 o staff wedi bod ar ffyrlo.

Daeth y rhan fwyaf yn 么l i'r gwaith pan agorodd ysgolion eto ym mis Medi, ond dywedodd Ms Jones y byddai'n rhaid "ystyried dileu swyddi" os fydd ysgolion yn cael eu cau eto.

"Fe fydd y cyfnod ar 么l mis Hydref yn anodd iawn os yw'r cynllun arbed swyddi'n dod i ben, fel dy'n ni'n disgwyl, o ran parhau i gynnal y gwasanaeth angenrheidiol yna i rieni, drwy gyfrwng y Gymraeg," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg wrth y pwyllgor bod angen i'r Gymraeg fod yn "rhan o gynlluniau'r llywodraeth o ran ailgodi wrth inni symud allan o'r argyfwng".

Er y rhagolygon llwm, fe wnaeth y pwyllgor glywed bod 8,000 o geisiadau am gyrsiau dysgu Cymraeg ar-lein wedi bod ers mis Mawrth, mwy na'r tair blynedd ddiwethaf gyda'i gilydd.

Ond dywedodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol bod y llywodraeth wedi torri 拢1.6m o gyllid y ganolfan am nad oedd yn cynnal dosbarthiadau wyneb yn wyneb ac yr oedd yn arbed arian o ganlyniad. Mae'r pwyllgor yn dweud y dylai'r gostyngiad fod yn un dros dro yn unig.

Roedd digwyddiadau rhithwir hefyd wedi llwyddo eleni, gyda gwyliau fel Tafwyl, Eisteddfod T ac AmGen yn denu miloedd o wylwyr ar-lein.

Dywedodd Sian Lewis o'r Urdd bod y profiad wedi "agor y drysau inni feddwl yn wahanol" yn y dyfodol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd rhaid i wyliau fel Tafwyl symud ar-lein eleni, ond gyda chryn lwyddiant

Mae'r pwyllgor yn gwneud sawl argymhelliad i'r llywodraeth, yn cynnwys:

  • Na ddylai lleihad tymor byr yn y cyllid i'r Gymraeg gael ei ymestyn ymhellach;

  • Bod angen rhoi swyddi sy'n hyrwyddo'r iaith wrth galon y cynllun i adfer yr economi;

  • Dylid ystyried manteision dysgu Cymraeg ar-lein, a'r cyllid i sicrhau bod modd cynnal y twf mewn dysgu dros y we.

'Cefnogi digwyddiadau eiconig'

Dywedodd cadeirydd dros dro y pwyllgor, Helen Mary Jones AS, bod rhaid blaenoriaethu rheoli'r feirws cyn yr economi, ond bod "cefnogi a hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan allweddol o'r adferiad hwnnw".

"Rhaid i hyn beidio 芒 bod yn gam yn 么l ar adeg pan ddylem fod yn gwthio ymlaen", meddai.

Wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor, dywedodd Gweinidog y Gymraeg bod rhaid "ail flaenoriaethu cyllidebau" er mwyn ymateb i "heriau eithriadol y pandemig".

Ychwanegodd Eluned Morgan AS bod 拢800,000 wedi ei "ail flaenoriaethu i'n digwyddiadau cenedlaethol eiconig", bod yr Urdd wedi derbyn dros 拢3m i'w wario ar ei gwersylloedd, a bod y llywodraeth wedi "camu i mewn" i sicrhau dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol.

Dywedodd hefyd bod y Gymraeg yn cael ei hystyried yn llawn wrth ddatblygu'r economi.

"Felly, dwi wedi sefydlu bwrdd crwn i ddatblygu'r economi, a dwi'n gwahodd pobl o lywodraeth leol, arweinwyr llywodraeth leol yng nghadarnleoedd y Gymraeg, i ddod ynghyd i drafod sut ry'n ni'n adeiladu'r economi, achos mae'r cysylltiad yna rhwng yr economi a'r iaith yn hollbwysig yn fy ystyriaeth i."