Menter leol yn gobeithio ehangu drwy brynu bwthyn

  • Awdur, Liam Evans
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Mae menter gymunedol, sydd eisoes yn berchen tafarn leol, yn gobeithio mynd i'r afael 芒'r "argyfwng ail dai" drwy brynu bwthyn lleol i'w rentu.

Mae Menter y Plu, Llanystumdwy yn gobeithio prynu hen gapel yn y pentref i'w rhentu fel t欧 gwyliau gydag unrhyw elw yn dod 'n么l i'r economi leol.

Yn 么l y fenter bwriad cynllun o'r fath ydi sicrhau bod twristiaeth yn gweithio i bobl leol a bod yr "economi leol yn gwneud y mwyaf ohoni".

Mae Menter y Plu eisoes yn berchen ar Dafarn y Plu yn Llanystumdwy ger Criccieth a hynny ers dros flwyddyn bellach.

'Twristiaeth gymunedol'

Mewn cwta dwy flynedd mae pobl leol, drwy'r fenter, wedi cyflawni dipyn.

Maen nhw wedi prynu'r dafarn leol ac wedi bod yn rhan o raglen S4C 'Prosiect Pum Mil' er mwyn trawsnewid y gofod allanol i ddenu rhagor o ymwelwyr.

Mae'r fenter r诺an yn gobeithio ychwanegu at y rhestr yna drwy brynu bwthyn lleol sef 'Capel Cariad' a sicrhau bod "twristiaeth yn cyfrannu at yr economi leol".

"Da ni'n dilyn syniad o dwristiaeth gymunedol," meddai un o aelodau'r fenter, Tegid Jones

"Da ni am neud yn si诺r bod yr incwm sy'n dod o dwristiaeth yn cael ei gylchdroi yn y gymuned a bod yr economi leol yn gwneud y mwyaf ohoni."

Disgrifiad o'r fideo, Tegid Jones: "Roedden ni'n pryderu fod hwn am droi'n d欧 haf"

Yn 么l Mr Jones mae'r cyfnod diwethaf hwn wedi dangos effaith y "broblem" mae tai haf yn cael yn lleol.

"Oedda' ni'n poeni y byddai hwn yn troi yn d欧 haf neu yn ail d欧 a basa hwnna'n ychwanegu at yr argyfwng sydd yn ein cymunedau," meddai.

Mae'r hen gapel eisoes yn gweithio fel llety i ymwelwyr a'r isadeiledd i greu bwthyn yno'n barod.

"Mae'r lle yn barod i fynd mewn ffordd. Mae'n hardd ac mae 'na ddodrefn yma i bobl ddod r诺an."

Y cam nesaf i'r fenter bydd ceisio dwyn persw芒d ar ragor o bobl i gyfrannu at y cynllun newydd drwy ofyn i bobl o bell ac agos brynu cyfranddaliadau.