'Amhosib cadarnhau amserlen brechu mewn cartrefi gofal'
- Cyhoeddwyd
Mae'n amhosib cadarnhau pa bryd fydd modd brechu trigolion cartrefi gofal rhag coronafeirws, medd Prif Swyddog Meddygol Cymru.
Gyda'r angen i'w storio a'i gludo ar dymheredd eithriadol o isel, bydd mynd 芒'r brechlyn Pfizer/BioNTech, sydd newydd ei gymeradwyo, i gartrefi gofal yn "anodd iawn", medd Dr Frank Atherton, ond mae "gwaith yn mynd rhagddo" i sicrhau bod hynny'n digwydd.
Y bwriad, meddai yng nghynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru, yw dilyn rhestr flaenoriaeth pedair gwlad y DU.
Ond pwysleisiodd yr angen i ystyried "pryderon gweithredol... rwy'n meddwl y byddai'n gywilyddus i wastraffu'r brechlyn yma a pheidio 芒'i ddefnyddio'n ddoeth".
"Rydym ar hyn o bryd yn archwilio ffyrdd o geisio cael brechlynnau i breswylwyr cartrefi gofal - yn sicr fydd staff gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn flaenoriaeth uchel iawn.
"Rydym yn edrych ar ffyrdd i weithio o gwmpas hynny, ond yn dechnegol mae'n eithaf anodd ei gyflawni, gyda chymaint o gartrefi gofal ar draws y wlad, ac mae model dosbarthu'r brechlyn arbennig yma... angen nifer fach o leoliadau brechu."
Oherwydd yr heriau storio, bydd yn cael ei ddarparu i nifer cyfyngedig o safleoedd yn y lle cyntaf, meddai Dr Atherton
"Wrth gwrs mae brechlynnau eraill ar y gweill - brechlyn Oxford, er enghraifft, nad oes ganddo ofynion mor llym o ran rheoli tymheredd," meddai.
"Wrth i hynny ddod ar-lein, fel rydyn ni'n gobeithio, bydd hynny'n rhoi gallu pellach i ni weithio ein ffordd trwy'r rhestrau blaenoriaeth hynny.
"Ni allaf roi union ddyddiad nag amserlen, ond rydym yn gweithio trwy'r broses honno cyn gynted ag y gallwn, achos mae'r preswylwyr oedrannus hynny... fel arfer, mewn cartrefi gofal, yn un o'n blaenoriaethau uchaf."
Yn yr un gynhadledd, dywedodd prif gynghorydd Dr Atherton, Dr Gill Richardson, fod dau safle wedi eu dewis ar gyfer storio'r brechlyn yng Nghymru, i sicrhau bod modd ei ddosbarthu gynted 芒 phosib i'r GIG.
Nid oedd am gadarnhau ble mae'r safleoedd hynny, ond dywedodd eu bod wedi "edrych yn ofalus" ar adnoddau storio a "hawster dosbarthu fel ein bod yn gallu cael y brechlyn yma cyn gyflymed 芒 phosib i'r staff brechu fydd ei angen ymhob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd".
Ychwanegodd: "Yn ystod wythnos gyntaf un y rhaglen frechu, byddwn ni'n dod 芒 phobl at y brechlyn a bydd hynny'n cynnwys staff cartrefi gofal.
"Yna, wrth i ni ddysgu mwy am y brechlyn... ry'n ni'n gobeithio'n fawr y bydd modd datblygu model symudol inni allu ei ddanfon yn ddiogel i gartrefi gofal heb roi preswylwyr mewn perygl trwy fynd 芒 nhw'n ddiangen i ganolfan."
Rhybuddiodd Dr Atherton mai "dim ond ymhen amser" y bydd hi'n hysbys a fydd brechlyn Pfizer/BioNTech yn atal trosglwyddiad Covid-19.
Mae'r data hyd yma'n awgrymu ei fod "yn eithaf da", meddai, o ran atal pobl rhag cael eu heintio a chael eu taro'n ddifrifol wael.
Pwysleisiodd bwysigrwydd y cyfyngiadau presennol, a mesurau iechyd sylfaenol, fel golchi dwylo, cadw pellter a gwisgo masgiau, hyd yn oed wedi dechrau'r rhaglen frechu.
"Mae hyn yn dal yn mynd i fod yn aeaf anodd. Mae'r GIG yn mynd i fod dan bwysau. Mae dan bwysau nawr.
"Mae'n wirioneddol bwysig nad ydyn ni'n taflu enillion y flwyddyn ddiwethaf pan fo'r golau nawr ar ddiwedd y twnnel."
Dywedodd Dr Richardson nad yw'n rhagweld angen i fusnesau lletygarwch yng Nghymru wrthod cwsmeriaid os nad ydyn nhw'n gallu profi eu bod wedi cael brechlyn.
Mae yna gynlluniau "ar lefel y DU", meddai, i bobl gael cerdyn yn cofnodi eu bod wedi cael eu brechu.
Dywedodd mai'r gobaith yw y bydd pobl yn dewis cael eu brechu, ond bod dim rhaid gwneud.
Galw am weinidog penodol
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Andrew RT Davies wrth 大象传媒 Cymru yr hoffai weld penodi gweinidog gyda chyfrifoldeb penodol am y rhaglen frechu.
"Mae'r Gweinidog Iechyd yn ddigon prysur fel ag y mae hi," meddai.
"Yr hyn sydd angen yw gweinidog i ganolbwyntio'n llwyr ar ddelifro'r brechlyn yma yng Nghymru, oherwydd ry'n ni eisoes yn gwybod y bydd mathau gwahanol o frechlyn sydd angen dulliau gwahanol o ddosbarthu.
"Rwy'n credu bod dyletswydd ar y prif weinidog i roi gweinidog yng ngofal hyn... er y byddwn yn dechrau gyda rhaglen gyfyng mae'n mynd i fod yn rhaglen anferthol pan fydd yn dechrau, a gallwn ni ddim fforddio camgymeriadau."
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru: "Rhowch amserlen i ni... fe fyddwn i wedi meddwl o'r eiliad y daeth y s锚l bendith [i'r brechlyn] - sef lle ydan ni nawr - fe fyddai yna amserlen.
"Faint fydd yn y llwyth cyntaf? Oes yna sicrwydd y bydd Cymru cael ein rhan deg o bob llwyth, nei ai cyfran o'r cyfan fyddwn ni'n ei gael?
"A fydd gan bawb - fel yr ydym yn gobeithio - yr un cyfle i gael brechlyn lle bynnag y byddan nhw?
"Rwyf am sicrhau nawr bod Llywodraeth Cymru yn gyrru hyn ymlaen, ac fe fyddwn ni'n chwarae ein rhan i graffu a gwneud yn si诺r fod hynny'n digwydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2020