大象传媒

Ofnau nyrsys wedi problem trefnu brechlyn Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ysbyty Tywysog PhilipFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nyrs yn Ysbyty Tywysog Philip wedi disgrifio'i siom o fethu 芒 chael apwyntiad i gael brechiad

Mae staff iechyd rheng flaen wedi mynegi pryderon na fyddan nhw'n rhan o rownd gyntaf y brechlyn coronafeirws oherwydd y ffordd y cafodd gwybodaeth ei rhannu dan system fewnol.

Gweithwyr iechyd y GIG fydd y cyntaf i dderbyn y brechlyn newydd gafodd ei gymeradwyo'r wythnos hon.

Mae rhai nyrsys yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn dweud bod yr holl apwyntiadau posib wedi'u llenwi cyn iddyn nhw dderbyn linc angenrheidiol i drefnu brechlyn.

Dywed y bwrdd eu bod yn adolygu statws rhai o'r gweithwyr sydd wedi sicrhau slot wythnos nesaf, gan erfyn ar staff i ganslo'u hapwyntiad os nad ydynt yn delio'n uniongyrchol gyda chleifion.

Ychwanegodd mai'r bwriad oedd blaenoriaethu staff penodol yn y lle cyntaf yn y dair sir y mae'n bwrdd yn eu gwasanaethau cyn cynnig apwyntiadau i staff eraill, ond fe lenwodd yr holl slotiau o fewn pum awr.

'Wedi cael fy siomi'

Dywedodd un nyrs - sy'n gweithio ar ward Covid yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli - bod hi a'i chydweithwyr wedi methu cael apwyntiad.

"Rwy'n teimlo mod i' di cael fy siomi," meddai'r nyrs, sy'n dymuno aros yn ddi-enw.

"Gawson ni gais i nodi pryd roedden ni ar gael, gawson ni linc i drefnu ac erbyn i ni gael y linc doedd dim apwyntiadau ar 么l.

"Mae yna tua 57-60 staff ar y ward Covid. Cyn belled ag y gwyddwn, chafodd ddim un ohonyn nhw apwyntiad.

Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r rhaglen frechu'n dechrau yng Nghymru ddydd Mawrth, 8 Rhagfyr

"Yr hyn maen nhw wedi dweud wrthyn ni yw, erbyn i'r [adran] rheoli amser roi'r linc i ni, roedd wedi bod yn cylchredeg o amgylch y bwrdd iechyd, a phobl eraill, nid gweithwyr rheng flaen, wnaeth allu cael apwyntiad.

"Tybed a oedd [Ysbyty] Tywysog Philip ychydig yn araf - efallai roedd rhai eraill wedi ei ddanfon at ffrindiau mewn adrannau eraill ac roedd yr holl slotiau wedi mynd.

"Rydym wedi cael llawer iawn o aelodau staff o'r gwaith gyda Covid, rhai'n eithaf gwael, ac eto ni chawson ni flaenoriaeth."

Ychwanegodd nad yw'n gwybod pa bryd fydd y brechlyn ar gael iddi, ond mae wedi cael gwybod fod yr wythnos ganlynol yn bosibilrwydd.

'4,500 apwyntiad erbyn Nadolig'

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bod y gwahoddiad am frechiad wedi'i ddanfon at restr dosbarthu clinigol lem am 17:00 ddydd Mercher, a bod pob slot wedi mynd erbyn 22:00.

Oherwydd cyflenwadau cyfyngedig o'r brechlyn newydd, 975 dos wnaeth y bwrdd ei dderbyn yn y rownd gyntaf.

Bydd y rhaglen frechu'n dechrau ddydd Mawrth yn ardal y bwrdd mewn dau ganolfan - un yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin a'r llall yn Aberteifi.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae un o'r ddwy ganolfan frechu yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin

Does dim apwyntiadau ar gael wedi 11 Rhagfyr ar hyn o bryd, medd y bwrdd, sy'n gofyn i staff fod yn amyneddgar "wrth inni weithio'n galed eithriadol i gadarnhau rhagor o frechlynnau a threfnu mwy o slotiau apwyntiad".

Ychwanega'r bwrdd bod ail gyflenwad wedi'i gadarnhau, gan rybuddio staff "efallai y bydd yn rhaid i chi aros ychydig wythnosau cyn y byddech chi'n gallu trefnu apwyntiadau".

"Fe fydd yna ddigon o'r brechlyn i bob aelod staff sy'n delio gyda chleifion. Rydym yn gobeithio gallu sicrhau hyd at 4,500 o apwyntiadau brechu cyn Nadolig."

'Cyfathrebu gwael'

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price fod honiadau'r nyrsys "yn destun pryder mawr".

"Mae'n ymddangos fod cyfathrebu gwael ar ran y bwrdd iechyd wedi atal rhai staff rheng flaen rhag sicrhau slot i gael eu brechu, gyda'r risg o roi eu hunain a chleifion mewn perygl," meddai.

Galwodd am ddatganiad brys gan y bwrdd "ac ymyrraeth yn syth gan Lywodraeth Cymru i wneud hi'n glir bod rhaid i staff iechyd a gofal rheng flaen, cleifion a phreswylwyr fod yn brif flaenoriaeth".