´óÏó´«Ã½

‘Cael ein tynnu bob ffordd’: Profiad myfyriwr newydd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gwenllian GriffithsFfynhonnell y llun, Gwenllian Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Yn y fflat mae Gwenllian (ar y chwith) wedi treulio'r rhan fwyaf o'i semestr cyntaf, a hynny gyda'i ffrindiau newydd sy'n rhannu'r fflat gyda hi

Mae hi'n ddiwedd semester cyntaf rhyfedd i nifer o fyfyrwyr sydd wedi mynd i'r brifysgol eleni, wrth iddyn nhw ddychwelyd yn ôl adref at eu teuluoedd i ddathlu'r Nadolig, a hynny, i nifer, ar ôl gorfod cael prawf Covid-19.

Un o'r rheiny yw Gwenllian Griffiths a ysgrifennodd am ei hansicrwydd o orfod gadael yr ysgol yn ddi-rybudd nôl ym mis Mawrth. Mae hi bellach ar ei blwyddyn gyntaf yn astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn dilyn haf o hunan-ynysu a dim arholiadau, doedd fy nisgwyliadau ddim yn uchel iawn yn mynd i'r brifysgol i fod yn onest. Roeddwn i a fy ffrindiau wedi disgwyl efallai gwneud ychydig o'r cwrs adref cyn cael mynd i fyw mewn neuaddau preswyl ond pan ddaeth y newyddion ein bod yn cael mynd, roedd pawb wrth eu boddau.

Er dweud hynny, roedd llawer ohonom yn bryderus am ffurfio swigen newydd, yn enwedig wrth i'r trafodaethau fod myfyrwyr ddim yn cael mynd adref dros y Nadolig yn mynd ymlaen.

Roeddem yn gadael ein teuluoedd ddim yn gwybod pryd y byddem yn eu gweld nesaf.

Cyfarfod ffrindiau oes

Yn sicr, roedd cyfarfod ffrindiau newydd yn chwa o awyr iach, yn dilyn misoedd o fod o dan glo. Roeddwn i'n lwcus iawn fy mod wedi creu perthynas arbennig iawn gyda fy nghyd-fyfyrwyr yn y fflat, a gallaf ddweud â llaw ar fy nghalon eu bod yn ffrindiau oes i mi.

Ffynhonnell y llun, Gwenllian Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Aros i mewn i gael pryd bach neis o fwyd

Rhaid cofio mai eithriad ydi hyn yng nghanol cannoedd o fyfyrwyr yn ffraeo efo'u cyd-fyfyrwyr neu, yn syml, ddim yn teimlo'n gyfforddus yn eu cwmni.

Yr ateb i hyn yn y gorffennol byddai, 'tyrd allan hefo ni' neu 'tyrd fyny i'r fflat unrhyw bryd'. Ond rŵan mae hyn yn torri rheolau'r neuaddau, ac felly gallwn golli llety a lle ar y cwrs o'i ganlyniad.

Golygai hyn fod cannoedd o bobl ifanc yn cau eu hunain yn eu llofftydd bob awr o'r dydd a'r unig gysylltiad sydd ganddyn nhw ydi mynd ar Zoom ar gyfer darlith neu ddwy y dydd. Gwn am fyfyrwyr sydd yn bwyta pob pryd bwyd yn eu llofft.

Nid dyma'r bywyd mae pobl yn hysbysebu wrth geisio ein hannog i fynd i'r brifysgol.

Ffynhonnell y llun, Gwenllian Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gwenllian a'i ffrindiau newydd ddawns yn y fflat pan oedden nhw'n hunan-ynysu

Cyngor cymysg

Er rhaid cyfaddef, fel rydym ni i gyd wedi gweld ar y teledu, mae nifer o fyfyrwyr yn torri'r rheolau ac yn cymysgu swigod. Oes, mae yna ddathlu yn digwydd, oes, mae yna symud fflatiau yn digwydd, ond rhaid cofio mai rhan fechan iawn o'r myfyrwyr yw hyn.

Rwyf wedi sylweddoli aeddfedrwydd myfyrwyr a'u parodrwydd i ddilyn rheolau pan yn bosib. Yn yr wythnosau cyntaf, roedd pawb mor barod i gadw pawb yn ddiogel er mwyn sicrhau ein bod yn cael mynd adref heb gario'r aflwydd gyda ni i'n teuluoedd.

Er, gwelais drobwynt enfawr yn agwedd myfyrwyr ar y cyfan yn dilyn nifer o luniau a straeon o fyfyrwyr yn torri'r rheolau, pan roedd y rhan fwyaf ohonom yn gwneud popeth yn gyfreithiol. Yn dilyn yr holl luniau a'r erthyglau, diflasodd nifer o fyfyrwyr gan eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu tynnu pob ffordd.

Roeddem yn cael neges ar ôl neges yn dweud wrthym edrych ar ôl ein hiechyd meddwl wrth ymaelodi â chlybiau a chymdeithasau, ond eto, wrth wneud hynny, roedd risg o gael eich llun ar flaen papur newydd y bore canlynol. Canlyniad hyn oedd cannoedd o bobl ifanc yn colli eu bywydau cymdeithasol ac yn gorfod ymdopi â'r straen meddyliol ac emosiynol hyn ar ben eu hunain.

Ffynhonnell y llun, Gwenllian Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Dros Zoom mae Gwenllian a'i chyd-fyfyrwyr yn gwneud gwaith grŵp

Effaith emosiynol hir-dymor?

Rydw i'n lwcus iawn fy mod yn gwneud cwrs sydd yn gorfod, yn rhannol, cael ei wneud wyneb yn wyneb, felly rwyf wedi cyfarfod ambell i wyneb sydd ar fy nghyfrifiadur yn ddyddiol. Ond nid yw'r rhan fwyaf o fyfyrwyr ar yr un cwrs wedi cael cyfarfod ei gilydd, a phan mae'r cwrs neu'r gwaith yn mynd yn ormod rhaid dibynnu ar eich ffrindiau yn y fflat (oes yw hyn yn bosib!).

Rhaid felly gofyn y cwestiwn, pam gyrru myfyrwyr i neuaddau preswyl ble mae lledaeniad firysau bron yn anochel, ac felly, gyrru neges aneglur?

Dadl rhai yw ei fod yn gwneud lles i fyfyrwyr gael byw gyda'i gilydd, ond ydi hyn yn wir eleni? Ydi gyrru miloedd o bobl ifanc i neuaddau preswyl ond eu rhwystro rhag cymdeithasu yn gwneud synnwyr?

Mae rhaid i mi gyfaddef, rydw i wir yn bryderus am effaith emosiynol a meddyliol hir dymor y cyfnod hwn ar bobl ifanc, ac rwyf yn rhagweld cynnydd enfawr mewn achosion o unigrwydd ac iselder ymysg myfyrwyr os na fydd cymorth yn cael ei gynnig yn y dyfodol agos.

Hefyd o ddiddordeb: