大象传媒

Covid-19: Sefyllfa Cymru yn 'ddifrifol iawn'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
VG

Mae sefyllfa Covid-19 yn "ddifrifol iawn" yng Nghymru, yn 么l y gweinidog iechyd.

Dywedodd Vaughan Gething bod dros 1,800 o gleifion yn gysylltiedig gyda'r coronafeirws yn yr ysbyty, y nifer uchaf a gofnodwyd erioed.

Yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru, dywedodd bod "ein gwasanaeth iechyd dan bwysau sylweddol a pharhaus oherwydd nifer y bobl y mae angen eu derbyn i'r ysbyty i gael triniaeth ar gyfer coronafeirws".

Mae achosion yn codi mewn 19 o'r 22 ardal awdurdod lleol, meddai, a bellach mae wyth awdurdod lleol gyda chyfraddau uwch na 400 o achosion fesul 100,000 o bobl.

Yn fuan wedi'r gynhadledd, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 2,021 o achosion newydd wedi'u cofnodi yng Nghymru - y nifer uchaf mewn diwrnod ers dechrau'r pandemig.

Mae'r cyfanswm bellach yn 91,013, ac mae dwy farwolaeth yn rhagor yn golygu bod 2,711 wedi marw gyda'r feirws ers dechrau'r pandemig.

Ystyried mesurau'n ddyddiol

Cymru oedd yr unig wlad yn y DU lle nad oedd cyfraddau heintiau yn gostwng yn ystod wythnos olaf mis Tachwedd, yn 么l arolwg heintiau'r ONS.

Dywedodd Mr Gething fod "hyn yn adlewyrchu" y mesurau tynnach mewn rhannau eraill o'r DU: "Roedd Lloegr dan glo. Roedd Gogledd Iwerddon rhwng cloeon ac roedd yr Alban yn tynhau eu cyfyngiadau."

Dywedodd y gweinidog fod y llywodraeth wedi cryfhau cyfyngiadau coronafeirws mewn ymateb i'r "sefyllfa ddifrifol iawn" hon ddydd Gwener, ond y byddai'n rhaid aros i weld yr effaith.

"Ond, yn union fel y cyfnod clo byr [yn yr hydref], ni fyddwn yn gweld yr effaith ar unwaith - bydd yn cymryd cwpl o wythnosau," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Prysurdeb canol Caerdydd ar y penwythnos cyntaf wedi clo byr cenedlaethol mis Tachwedd

Dewisiadau'r cyhoedd

Bydd dewisiadau'r cyhoedd o ddydd i ddydd yn dylanwadu ar faint o bobl sy'n marw o Covid dros gyfnod y Nadolig, awgrymodd Vaughan Gething.

Gyda nifer yr achosion a marwolaethau o'r feirws yn cynyddu yng Nghymru, dywedodd Mr Gething y byddai penderfyniadau am gysylltiadau cymdeithasol a wneir gan bob unigolyn yn "penderfynu faint ohonom sydd yma yn y Flwyddyn Newydd a thu hwnt".

Cadarnhaodd fod gweinidogion yn ystyried a fyddai angen unrhyw gyfyngiadau newydd ar 么l llacio'r rheolau dros y Nadolig.

Gyda thafarndai a chaffis wedi'u gwahardd rhag gweini alcohol a'u gorfodi i gau am 18:00, mae galwadau am lacio rheolau i helpu i arbed swyddi, a chwestiynau ynghylch a oes angen mesurau llymach i atal lledaeniad y feirws.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cyfyngiadau llymach mewn grym ar hyn o bryd mewn tafarndai a bwytai i atal lledaeniad y feirws

"Rydyn ni'n mynd ati i ystyried bob dydd ai'r mesurau sydd gyda ni yw'r rhai iawn ar waith ai peidio," meddai Mr Gething.

"Rydym wedi ymrwymo i adolygu'r rheoliadau yn ystod yr wythnos a hanner nesaf, ac yna bydd yn rhaid i ni ystyried yr hyn a wnawn... rydym wrthi'n ystyried yr hyn y bydd angen i ni ei wneud, yr hyn y gallai fod angen i ni ei wneud ar 么l cyfnod y Nadolig."

Cadarnhaodd Mr Gething hefyd y bydd Llywodraeth Cymru'n ymestyn grantiau hunan-ynysu o 拢500 i gynnwys rhieni a gofalwyr ar gyflogau isel pan fo'u plant yn gorfod hunan-ynysu.

Cyn hyn, dim ond pobl sy'n gorfod cymryd amser o'r gwaith wedi prawf Covid-19 positif, neu oedd wedi derbyn neges i hunan-ynysu gan y system olrhain, oedd yn gallu ymgeisio amdano.

Dywedodd hefyd bod dim tystiolaeth ar hyn o bryd o blaid cau ysgolion yn gynnar cyn gwyliau'r Nadolig, er taw dyna'r penderfyniad ym Mlaenau Gwent.

Byddai cau ysgolion yn achosi "niwed gwirioneddol a sylweddol" i iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc, meddai, yn arbennig yn achos plant bregus ac o'r teuluoedd tlotaf.

Cyfathrebu

Wrth ymateb i'w sylwadau, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, bod y llywodraeth wedi cael trafferth cyfathrebu gyda'r cyhoedd.

"Dydw i ddim yn si诺r eu bod yn mynd 芒'r cyhoedd gyda nhw, a does dim map clir sy'n mynd 芒 ni o nawr i lle fyddwn ni yn y gwanwyn," meddai.

Ychwanegodd y dylai fod "cyfaddawd" wedi digwydd i gael llai o reolau ar y diwydiant lletygarwch.

"Mae'n gwbl hanfodol eich bod yn mynd 芒'r cyhoedd gyda chi cam wrth gam, a hefyd rhoi syniad iddyn nhw eich bod yn gwybod y ffordd ymlaen dros y tri neu bedwar mis nesaf, a dyna sydd ar goll ar hyn o bryd dwi'n meddwl."

Pynciau cysylltiedig