大象传媒

Y Nadolig mewn pump gair

  • Cyhoeddwyd

Mae na rai pethau sydd bob amser yn cael eu cysylltu gyda'r Nadolig; y bwyd, yr addurniadau ac wrth gwrs y dyn yn y siwt goch. Ond ydych chi erioed wedi meddwl beth yw tarddiad rhai o'r geiriau am y pethau hyn?

Ai gair Cymraeg yw 'moron', er enghraifft, ac ai cyfieithiad yn unig o 'Santa Claus' ydi 'Si么n Corn'?

Yr Athro Ann Parry Owen, Golygydd H欧n gyda Geiriadur Prifysgol Cymru, sy'n tyrchu i hanes rhai o eiriau cyfarwydd yr 诺yl.

Celyn

Mae'n hen draddodiad i addurno'r cartref 芒 chelyn ac arno aeron coch adeg y Nadolig. Nid yw'n syndod, efallai, mai 'pigog' yw ystyr sylfaenol 'celyn', ac mae'n amlwg mai'r un gair yn ei hanfod yw 'cuileann' mewn Gwyddeleg a 'kelenn' mewn Llydaweg.

Ond tybed a wyddech chi fod y gair Saesneg 'holly' (gynt 'hollin') hefyd yn perthyn iddo? Dangosodd Jacob Grimm (un o'r brodyr Grimm a gysylltwn 芒 hanesion Sinderela a Hugan Fach Goch), fod 'c' wreiddiol yn aml yn troi'n 'h' yn Saesneg - ac fel y mae 'celyn' a 'holly' ('hollin') yn perthyn i'w gilydd, mae 'cant' a 'hundred' a 'c诺n' a 'hounds' hefyd yn perthyn i'w gilydd. Dyma enghraifft o 'Reol Grimm' yn 么l yr ieithegwyr.

Cyflaith

Ffynhonnell y llun, Dominic Windsor

Mae gwneud cyflaith, neu daffi triag, yn un o'r traddodiadau teuluol y byddaf yn eu cysylltu 芒'r wythnosau sy'n arwain at y Nadolig. Sylwedd neu gymysgedd 'llaith' yw ystyr sylfaenol 'cyflaith', a defnyddid y gair yn arbennig ers talwm am gymysgedd llesol.

Roedd fy nain (o Gapel Garmon) yn gwbl grediniol bod ei chyflaith hi'n amddiffyn rhag pob annwyd a pheswch yn nhymor y gaeaf - doedd hi'n poeni dim am ei effaith ar ein dannedd!

Ar 么l berwi'r cymysgedd o fenyn, siwgr brown a thriagl, ei 'brofi' drwy ollwng llond llwyaid ohono i gwpanaid o dd诺r oer, byddai fy nain yn ei roi i galedu mewn tuniau pwrpasol, cyn ei dorri'n dalpiau bychain a'u lapio'n unigol mewn sgwariau bach o bapur gwrthsaim.

Mewn rhai ardaloedd, yn lle ei roi mewn tuniau, byddai'r cyflaith yn cael ei dywallt ar lechfaen (fel carreg aelwyd), ac yna'i foldio a'i dynnu nes y byddai'n ffurfio rhaffau coch euraid.

Ysgewyll Brwsel

'Blagur' neu 'egin' yw ystyr ysgewyll, hen air a g芒i ei ddefnyddio hefyd am flagur ar goed neu am y brigau m芒n sy'n tyfu ar lwyni yn yr haf: yn union fel y gair Saesneg 'sprout'.

Cafodd y llysieuyn, sy'n perthyn i deulu'r bresych, ei ddatblygu yng Ngwlad Belg yn yr 16eg ganrif, a dyna sy'n esbonio'r cyswllt 芒 Brwsel.

Caru neu gas谩u - mae'n fater o'r naill neu'r llall pan ddaw hi i ysgewyll Brwsel, ac mae gwyddonwyr bellach yn credu mai ein DNA sy'n gyfrifol am hynny. Ond mae'n rhaid cael o leiaf un sbrowten ar bl芒t cinio Nadolig (hyd yn oed os na chaiff ei bwyta!).

Moron

Os 'blagur' oedd ystyr ysgewyll, yna 'gwreiddiau' yw ystyr moron. Daeth y gair yn wreiddiol o hen air Saesneg 'moren', sy'n perthyn i'r Almaeneg M枚hren 'moron'. Nid yw'r foronen, felly, yn ddim Cymreiciach na'r garotsen! Ceid moron gwyllt, neu foron y maes fel y'u gelwid, mewn amrywiaeth o liwiau: melyn, porffor, gwyn ac oren.

Ond yn yr Iseldiroedd yn yr 16eg ganrif, datblygwyd y foronen oren yn arbennig ar gyfer y farchnad fwyd. Anodd gwybod a oes unrhyw wirionedd yn yr hanes mai er mwyn anrhydeddu'r Tywysog Willem van Oranje o'r Iseldiroedd y bu hynny, ond yn sicr dyma lysieuyn arall cwbl angenrheidiol ar gyfer y pl芒t cinio Nadolig - ac un y mae'r croeso iddo, ar y cyfan, yn dipyn cynhesach nag i'r ysgewyll Brwsel!

Si么n Corn

Mae'r enw Cymraeg Si么n Corn yn enw unigryw ar y dyn caredig hwn sy'n gadael anrhegion i blant bob Nadolig - yn wahanol i'r enw rhyngwladol Santa Cl么s, sy'n cyfateb i 'Sinterklaas' yr Iseldiroedd, enw sy'n seiliedig ar enw'r sant Nikolaus, nawddsant plant.

Dr Ann Owen
Ann Owen
...mae'n sicr mai'r hyn a wnaeth yr enw Si么n Corn yn boblogaidd yn y Gymraeg oedd cyhoeddi argraffiad cyntaf Llyfr Mawr y Plant yn Nadolig 1931
Dr Ann Owen

Mae'n debyg mai fel ysbryd caredig a drigai mewn corn simnai y cychwynnodd y Si么n Corn Cymraeg ei fywyd - dyna sut y disgrifiodd J. Glyn Davies ef yn Cerddi Huw Puw (1922): un a ofalai fod plant yn mynd i'w gwelyau yn gynnar, ac a wn芒i anrhegion iddynt adeg y Nadolig.

Ond mae'n sicr mai'r hyn a wnaeth yr enw Si么n Corn yn boblogaidd yn y Gymraeg oedd cyhoeddi argraffiad cyntaf Llyfr Mawr y Plant yn Nadolig 1931, ac ynddo Lythyr Si么n Corn yn ogystal 芒 llun o'r dyn ei hun!

Ac wrth gwrs mae c芒n J. Glyn Davies i Si么n Corn yn boblogaidd gan blant bach bob Nadolig bellach:

Pwy sy'n d诺ad dros y bryn,

yn ddistaw ddistaw bach;

ei farf yn llaes

a'i wallt yn wyn,

芒 rhywbeth yn ei sach?

A phwy sy'n eistedd ar y to

ar bwys y simne fawr?

Si么n Corn, Si么n Corn

Tyrd yma, tyrd i lawr!

Nadolig Llawen!

Hefyd o ddiddordeb: