大象传媒

Senedd Cymru'n gwrthod Bil Marchnad Fewnol y DU

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BrexitFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r mesur wedi bod yn un dadleuol iawn yn y gwledydd datganoledig

Mae Senedd Cymru wedi gwrthod cyfraith ar fasnach 么l-Brexit o fewn y DU yn dilyn honiadau y byddai'n niweidiol i ddatganoli.

Fe wnaeth aelodau'r Senedd bleidleisio o 36 i 15 yn erbyn Bil Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU, sydd ar hyn o bryd yn gweithio ei ffordd trwy Senedd San Steffan.

Mae gwrthwynebwyr yn dweud y byddai'r mesur yn trosglwyddo pwerau o Gymru i Lundain.

Dywedodd Llywodraeth y DU ei fod yn siomedig gyda chanlyniad y bleidlais.

Mae'r mesur yn dweud, os yw hi'n gyfreithiol gwerthu rhywbeth mewn un rhan o'r DU, y byddai modd ei werthu yn holl wledydd y DU.

Nod y mesur ydy helpu busnesau i osgoi rheolau sy'n ei gwneud yn anoddach i fasnachu ar draws ffiniau pedair gwlad y DU.

Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud y byddai'n tanseilio gallu'r Senedd i reoleiddio nwyddau a gwasanaethau.

Mae Senedd Yr Alban eisoes wedi penderfynu peidio 芒 chymeradwyo'r mesur, ac mae pleidlais debyg wedi cael ei chynnal yn erbyn y mesur yng Ngogledd Iwerddon.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y byddai'n tanseilio gallu'r Senedd i reoleiddio nwyddau a gwasanaethau

Yn y siambr dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles y byddai'r mesur yn niweidiol i allu'r Senedd i wneud cyfreithiau.

Ychwanegodd yr aelod mainc 么l Llafur, Alun Davies y byddai "datganoli yn farw" pe bai'r mesur yn cael ei basio.

Roedd drafft cyntaf y mesur yn rhoi'r gallu i weinidogion y DU dorri rhannau o gytundeb ymadael Brexit - fyddai'n mynd yn erbyn cyfraith ryngwladol.

Er bod Llywodraeth y DU bellach yn bwriadu tynnu hynny o'r mesur, dywedodd yr AS Ceidwadol David Melding bod cynnwys hynny yn y lle cyntaf yn "ofnadwy".

Ond fe wnaeth aelodau Ceidwadol eraill gefnogi'r mesur, gyda Darren Millar yn dweud y byddai'n "amddiffyn marchnad sengl y DU".

Dywedodd AS UKIP, Neil Hamilton y byddai hynny yn "llawer pwysicach i bobl Cymru nag yr oedd marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd erioed".

Ychwanegodd AS Plaid Diddymu'r Cynulliad, Mark Reckless y byddai'n croesawu'r mesur os yw'n atal cyfraith fyddai'n atal pobl Cymru rhag prynu rhywbeth sy'n gallu cael ei brynu dros y ffin.