Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Senedd yn cymeradwyo'r cyfyngiadau coronafeirws
Mae'r Senedd wedi cymeradwyo cyfyngiadau diweddaraf Llywodraeth Cymru i geisio lleihau ymlediad coronafeirws yng Nghymru yn dilyn pleidlais nos Fercher.
Cafodd cynnig y llywodraeth ei basio gyda 33 o blaid, naw yn erbyn a 10 yn ymatel eu pleidlais, ond fe gafodd ei basio gyda dau welliant gan y Ceidwadwyr.
Felly mae'r Senedd "yn nodi:
- y cynnydd yn y gyfradd dreigl saith niwrnod mewn perthynas 芒 digwyddedd achosion o'r coronafeirws ledled Cymru;
- y datganiad gan y Prif Weinidog ar 1 Rhagfyr a oedd yn nodi'r mesurau cenedlaethol newydd i ddiogelu iechyd y cyhoedd a lleihau lledaeniad y coronafeirws;
- y pecyn cymorth busnes 拢340m a ddarperir drwy'r Gronfa Cadernid Economaidd i gefnogi busnesau yr effeithir arnynt gan y mesurau cenedlaethol newydd."
Y ddau welliant gan y Ceidwadwyr oedd galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r dystiolaeth a oedd yn sail i'w phenderfyniad i gau lleoliadau adloniant dan do a galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o gymorth ariannol ar gael i fusnesau mewn modd amserol.