大象传媒

Nifer uchaf hyd yma o gleifion Covid-19 mewn ysbytai

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
YsbytyFfynhonnell y llun, PA Media

Mae nifer y cleifion Covid-19 sydd mewn ysbytai yng Nghymru ar ei uchaf ers dechrau'r pandemig.

Daw'r newyddion wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi fod 33 yn rhagor o farwolaethau a 1,968 achos newydd yma yng Nghymru.

Mae yn golygu fod cyfanswm nifer y marwolaethau yng Nghymru bellach yn 2,789.

Yr ardal awdurdod lleol gyda'r nifer uchaf o achosion newydd oedd Abertawe gyda 247 o achosion, yna Rhondda Cynon Taf gyda 245.

Yr ardal gyda'r gyfradd achosion uchaf dros y saith diwrnod diwethaf oedd Nedd Port Talbot gyda 697.1 o achosion o bob 100,000 o'r boblogaeth.

Ardal Merthyr Tudful oedd yn ail gyda 668.0, ac yna Blaenau Gwent gyda 598.3 a Chasnewydd gyda 589.6 o achosion fesul 100,000 dros yr wythnos ddiwethaf.

Cleifion mewn ysbytai

Roedd 1,936 o gleifion Covid-19 mewn gwelyau ysbytai ddydd Mercher, sydd yn gynnydd o 153 o gleifion o'r wythnos flaenorol, yn 么l ffigyrau diweddaraf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Gwelwyd cynnydd ymhob ardal byrddau iechyd, gyda'r cynnydd mwyaf yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, sydd bellach gyda 592 o gleifion Covid-19 yn ei ysbytai.

Roedd 585 o'r rhain yn gwella o'r haint. Nid oedd niferoedd y cleifion sydd yn gwella yn cael eu cofnodi tan ddiwedd mis Mai, ond mae'r niferoedd sydd nawr mewn ysbytai ar eu lefelau uchaf ers hynny.

Mae cleifion Covid-19 yn cynrychioli 24% o'r holl gleifion mewn ysbytai. Ar ddiwedd Mai y ganran oedd 18%, ond mae'r gyfradd wedi cynyddu'n araf.

Ond mae nifer y cleifion Covid-19 sy'n gorfod mynd am driniaeth i ysbytai yn parhau'n sefydlog - gyda chyfartaledd o 71 dros yr wythnos ddiwethaf.

Dywed GIG Cymru fod niferoedd cleifion Covid-19 "wedi gostwng yn gyffredinol" ers dechrau Tachwedd, er bod rhai gwahaniaethau yn y darlun cenedlaethol.

Roedd 75 o gleifion yn derbyn gofal critigol - ychydig yn uwch na'r wythnos flaenorol.聽

Pynciau cysylltiedig