Gleision Caerdydd: 'Mae nawr yn frwydr i oroesi'
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr clwb rygbi Gleision Caerdydd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried maint y cymorth ariannol mae'n ei gynnig yn ystod y pandemig coronafeirws.
Fe ddefnyddiodd Richard Holland yr enghraifft o 拢20m o fenthyciadau a grantiau sydd ar gael i brif glybiau rygbi'r Alban, tra bydd clybiau haen uchaf y gamp yn Lloegr yn derbyn 拢44m, yn bennaf ar ffurf benthyciadau.
"Mae nawr yn frwydr i oroesi," meddai Holland mewn datganiad.
Mae gan Lywodraeth Cymru gronfa adfer chwaraeon a hamdden gwerth 拢14m, ond nid yw'n cynnwys benthyciadau i'w talu'n 么l.
Ond mae clybiau rhanbarthol y Gleision, y Gweilch, y Scarlets a'r Dreigiau wedi manteisio ar fenthyciadau gwerth 拢20m oedd wedi eu trefnu gan Undeb Rygbi Cymru.
Yn ei ddatganiad, dywedodd Richard Holland: "Rydym yn ailadrodd ein galwad ar Lywodraeth Cymru i ddarparu canllawiau eglur a chymorth ariannol i rygbi proffesiynol yng Nghymru.
"Mae nawr yn frwydr i oroesi.
"Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw fod Llywodraeth Yr Alban wedi darparu cymorth ariannol i chwaraeon yn Yr Alban, gan gynnwys 拢20m i rygbi, Cymru nawr yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig i beidio a manteisio o gymorth tebyg.
"Fel mae pethau'n sefyll, bydd rygbi yn Lloegr hefyd yn derbyn 拢135m, yn cynnwys 拢59m i glybiau'r Uwch Gynghrair, ac mae Undeb Rygbi Iwerddon wedi derbyn 拢16m yn barod.
"Mae hyn yn cyfateb i 拢4-5m o gefnogaeth y llywodraeth i bob clwb proffesiynol ym Mhrydain ac Iwerddon, ac eithrio Cymru sydd wedi derbyn dim.
"Mae'n gwbl hanfodol bod rygbi proffesiynol yn derbyn lefelau tebyg o gefnogaeth gan ein llywodraeth.
"Heb y gefnogaeth hon mae'r dyfodol ar gyfer ein g锚m genedlaethol gyfan, sy'n cyfrannu cymaint at yr economi a'r gymdeithas yn gyffredinol, yn llwm."
Bydd rygbi'r undeb yn Yr Alban yn derbyn 拢20m. Bydd 拢5m o'r arian mewn benthyciadau a 拢15m ar ffurf grantiau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol: "Mae gan y clybiau hawl i dderbyn cefnogaeth o wahanol gamau o gronfeydd economaidd Llywodraeth Cymru, yn ogystal 芒 chynlluniau ffyrlo a chynllun cadw swyddi Llywodraeth y DU.
"Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gronfa adfer chwaraeon a hamdden gwerth 拢14m i helpu'r sector i ddelio 芒'r pandemig ac i baratoi ar gyfer dychwelyd torfeydd yn ddiogel.
"Mae hon wedi bod yn flwyddyn heriol i chwaraeon ac rydym yn gweithio gyda Chwaraeon Cymru a'r cyrff llywodraethu i asesu pa gymorth ychwanegol y gallai fod ei angen."
Roedd y Gleision a gweddill y clybiau rhanbarthol Cymreig ymhlith 15 o brif sefydliadau chwaraeon Cymru i alw ar Lywodraeth Cymru i ganiat谩u i gefnogwyr ddychwelyd i gemau yn ddiweddar.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2020