Cyflwynydd ac enw newydd i raglen newyddion Post Cyntaf
- Cyhoeddwyd
Bydd Dylan Ebenezer yn ymuno 芒 th卯m cyflwyno rhaglen newyddion foreol Radio Cymru yn y flwyddyn newydd.
Mae 大象传媒 Cymru hefyd wedi cyhoeddi bod enw'r rhaglen yn newid o Post Cyntaf i Dros Frecwast o 25 Ionawr.
Bydd Dylan Ebenezer, sy'n wyneb cyfarwydd ar S4C fel cyflwynydd rhaglenni p锚l-droed, yn ymuno 芒 Kate Crockett bob bore Llun i fore Iau rhwng 07:00 a 09:00 o 25 Ionawr.
Dywedodd bod y cyfle i ddychwelyd i'r orsaf ble bu'n darlledu gyda'r adran chwaraeon "i gyflwyno un o raglenni mwyaf blaenllaw yr orsaf yn hollol wefreiddiol".
Ychwanegodd: "Mae Radio Cymru wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd a fy ngyrfa. Dyma ble dechreuodd y daith i mi fel darlledwr dros 20 mlynedd yn 么l."
Gwenllian Grigg fydd cyd-gyflwynydd Kate Crockett bob bore Gwener.
Dywedodd Golygydd Radio Cymru, Rhuanedd Richards ei bod yn ffyddiog "bydd gwrandawyr yr orsaf yn ymddiried" yn y t卯m cyflwyno newydd "i'w tywys drwy newyddion Cymru a'r byd bob bore" a bod "Dylan yn edrych ymlaen at fynd dan groen straeon sy'n effeithio ar bobl Cymru".
Ychwanegodd mai "bwriad Dros Frecwast yw sicrhau dechrau da i'r dydd i'r rheini sy'n awchu am y newyddion diweddaraf o'u bro, o'u gwlad ac yn rhyngwladol - ac yn ystod y cyfnod ansicr hwn, bydd y t卯m yn parhau i ymateb i'r her".
Dywedodd Pennaeth Newyddion 大象传媒 Cymru, Garmon Rhys: "Ry'n ni'n falch iawn o groesawu Dylan Ebenezer i'r t卯m ac yn edrych ymlaen at lawnsio y rhaglen yn ei gwmni fis Ionawr."
Ychwanegodd: "Ar drothwy blwyddyn holl bwysig yng nghyd-destun Brexit, Covid-19, ac etholiadau'r Senedd, mae darparu'r newyddion diweddaraf i gartrefi Cymru'n bwysicach nag erioed."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2020