大象传媒

Newid trefn cyhoeddi ystadegau Covid-19 dyddiol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CoronafeirwsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 1,228 o achosion newydd o Covid-19 wedi'u cadarnhau yng Nghymru, a bod 33 yn rhagor wedi marw gyda'r feirws.

Mae cyfanswm o 101,953 o achosion bellach wedi'u cadarnhau yma, a 2,882 wedi marw gyda'r haint.

O'r achosion newydd roedd 151 yng Nghaerdydd, 137 yn Rhondda Cynon Taf, 128 yn Abertawe a 117 yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Mae'r ystadegau dyddiol o farwolaethau ac achosion coronafeirws yng Nghymru yn debygol o fod yn uwch na'r arfer ddechrau'r wythnos hon yn sgil newid i'r ffordd y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n cyhoeddi'r wybodaeth.

Bydd yr ystadegau'n cael eu cyhoeddi am 12:00 bob dydd o ddydd Llun ymlaen - dwy awr yn gynharach yn y dydd nag sydd wedi digwydd hyd yn hyn ers dechrau'r pandemig.

Doedd yna ddim diweddariad dyddiol ddydd Sul oherwydd gwaith cynnal a chadw i System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru.

Dywed ICC y bydd "cyfnod o gysoni a dilysu data" yn dilyn y gwaith uwchraddio'n cael effaith ar y ffigyrau dyddiol "am sawl diwrnod".

'Gwella cywirdeb'

O hyn ymlaen bydd y wybodaeth yn cynnwys achosion a marwolaethau a gofnodwyd hyd at 09:00 y diwrnod blaenorol, yn hytrach na 13:00 y diwrnod blaenorol.

Mae yna addewid y bydd newid arall "yn gwella mwy ar gywirdeb" nifer yr achosion coronafeirws fesul 100,000 o'r boblogaeth yn 么l ardal awdurdod lleol dros gyfnod o saith diwrnod.

Bydd hynny yn sgil "ymestyn y cyfnod oedi ar gyfer adrodd ar gyfradd achosion saith diwrnod o ddau i bedwar diwrnod".

Hyd at 09:00 ddydd Sul 13 Rhagfyr, roedd 1,682,106 o brofion coronafeirws wedi cael eu cynnal yng Nghymru ar gyfanswm o 1,067,288 o unigolion.

Mae 965,335 o unigolion wedi cael canlyniad negatif.

Dywed ICC mai "adnodd hysbysu cyflym i ddarparu'r wybodaeth orau a mwyaf diweddar" yw dashfwrdd yr ystadegau dyddiol, ac mai'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) sy'n cyhoeddi'r ystadegau swyddogol ynghylch achosion coronafeirws yng Nghymru.

Cyhoeddodd ICC ddydd Sadwrn fod cyfanswm y marwolaethau yng Nghymru hyd at ddydd Gwener yn 2,849, a bod nifer yr achosion bellach dros 100,000.

Ond roedd nifer y marwolaethau Covid-19 yng Nghymru eisoes ymhell dros 3,000 yn 么l cyhoeddiad wythnosol mwyaf diweddar yr ONS ddydd Mawrth diwethaf.

Pynciau cysylltiedig