Llio Maddocks: Colli Dad a dysgu byw yn 2020
- Cyhoeddwyd
Mae addasu i fywyd mewn pandemig wedi bod yn heriol i bawb yn 2020 - a'r genhedlaeth ifanc wedi gorfod newid eu ffordd o fyw fel pawb arall.
Mewn darn arbennig i Cymru Fyw, mae'r awdures Llio Maddocks yn s么n am ei blwyddyn anodd hi a sut mae hi wedi dysgu i werthfawrogi'r pethau bach.
Wel, mae hi wedi bod yn flwyddyn od i ddweud y lleiaf.
N么l ym mis Chwefror, pan oedd bywyd yn braf a phandemig yn ddim ond yn syniad o ffilmiau apocalyptaidd, sgwennais erthygl i 大象传媒 Cymru Fyw am y ffaith mod i'n poeni am droi'n 30 oed.
Ac ew, ro'n i'n poeni. Wir i chi, dyna oedd y peth gwaethaf oedd am ddigwydd i mi yn 2020, ro'n i'n bendant.
O Llio bach, mor ddiniwed oeddet ti, mor na茂f.
Dwi wastad wedi gosod heriau ac uchelgeisiau i fy hun, felly pan ges i fy mhen-blwydd yn 29 oed, penderfynais ysgrifennu rhestr o 30 peth i'w cwblhau cyn troi'n 30.
Roedd y rhestr yn llawn o heriau bach a mawr; rhai cwbl ymarferol, rhai mwy anturus. Ond pan fyddai'n darllen dros y rhestr r诺an, mae o fel capsiwl amser o oes wahanol gan fod cymaint o'r heriau wedi bod yn gwbl amhosib eleni.
Barod i weld rhai o'r pethau oedd ar fy rhestr? Darllenwch ymlaen tra dwi'n torri fy nghalon...
Cwrs PADI Rescue Diver
Aros ar gwch liveaboard a deifio am wythnos
Trefnu trip sg茂o i gr诺p o ffrindiau
Mynd i bump gwlad newydd
Mynd i gyfandir newydd
Nofio efo Manta Ray
Ha! Doniol iawn Llio, yn gobeithio cael mynd i bump gwlad newydd yn 2020. Mi faswn i'n hapus yn cael mynd am benwythnos i Ynys M么n erbyn heddiw, heb s么n am fynd i gyfandir gwahanol.
Ond dyna ni, mae bywyd wedi newid.
Mae'r pandemig 'ma wedi bod yn anodd arnom ni i gyd, a phawb wedi gorfod newid eu ffordd o fyw. Dwi'n hiraethu am gael gweld fy ffrindiau a chael mynd am fwyd, neu mynd am beint.
Nes i golli Dad n么l yn mis Mawrth, ac mae peidio cael teithio i fyny i weld Mam wedi bod yn anodd tu hwnt, heb s么n am beidio cael gweld teulu a ffrindiau iddo yn y cynhebrwng.
Dydi Zoom ddim patsh ar roi coflaid i rhywun.
Mae gen i hiraeth mawr am gael gafael dwylo a theimlo cynhesrwydd cyrff fy nheulu a'n ffrindiau. Mae rhai o fy ffrindiau agosaf wedi cael babis, a minnau ddim yn cael mynd draw i'w cyfarfod.
Dwi ddim yn licio bywyd heb gorneli tywyll clybiau nos, na charpedi stici tafarndai.
A dwnim amdanoch chi, ond dwi wedi methu'n llwyr a bod yn gynhyrchiol ers mis Mawrth. Rhywbeth arall oedd ar fy rhestr oedd i ddysgu sut i wau cardigan. Da chi isio gweld lle gyrhaeddais i?
Pathetig.
Y goleuni
Ond beth am wneud addewid? Wrth i'r flwyddyn newydd agos谩u, beth am edrych tuag at y goleuni yn ein bywyd? Yn hytrach na chanolbwyntio ar be' wnaethon ni ei golli eleni, beth am feddwl am y pethau a gyflawnwyd, mewn amgylchiadau go heriol?
Dyma fy rhestr newydd i o'r pethau nes i eu cyflawni yn ystod 2020, y bach a'r mawr:
Dwi wedi llwyddo i edrych ar 么l fy iechyd meddwl yn ystod pandemig byd eang. Dwi wedi gallu adnabod yr adegau ble dwi'n teimlo'n isel, ac wedi gallu gweithredu, neu stopio popeth, er mwyn ail-tshiarjo'r batris (diolch i wefannau fel meddwl.org a chyfrifon Instagram fel @GBYHaws). Tipyn o gamp.
Nes i gyhoeddi fy nofel gyntaf. Oce, dwi wedi bod yn sgwennu'r nofel ers 2013, ac oce, yn dechnegol ro'n i wedi cwblhau'r nofel cyn mis Mawrth, ond mae hwn dal yn cyfri. Dyma un o'r pethau dwi fwyaf balch ohono eleni.
Nes i symud t欧, a llwyddo i sortio drwy fy holl eiddo heb gwyno na chrio (gormod).
Ges i wythnos hyfryd ar Ynys Enlli gyda fy nheulu agosaf n么l ym mis Medi. Pan laciodd y cyfyngiadau teithio rhyw fymryn, fe gafodd ein teulu bach ni wythnos o ymlacio, hel atgofion a chreu atgofion newydd gyda'n gilydd ar yr ynys, ar 么l misoedd o beidio gweld ein gilydd. Tonic go iawn.
Dwi wedi prynu mooncup a r诺an dwi'n gallu teimlo'n smyg mod i ddim yn gyrru llwyth o wastraff i gladdfeydd sbwriel bob mis.
Dwi wedi gorffen fy siopa Dolig i gyd erbyn hyn, gan brynu popeth o fusnesau annibynnol - hwr锚!
O mor bwysig ydi gwerthfawrogi'r pethau bach. Felly, be sydd ar eich rhestr chi?
Hefyd o ddiddordeb