大象传媒

Dai Llanilar: 'Diolch i bawb am rannu'r daith gyda mi'

  • Cyhoeddwyd
dai jonesFfynhonnell y llun, S4C

Mae Dai Jones Llanliar wedi penderfynu ymddeol o'i waith cyflwyno teledu yn dilyn cyfnod hir o salwch. Mae wedi bod yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C ers degawdau ac fe fydd llawer iawn yn gweld ei golli.

"Hoffwn i ddiolch i bawb am fy nghroesawu i'w cartrefi a'u bywydau dros y blynyddoedd," meddai Dai wedi'r datganiad.

"Ers hanner canrif 'dwi wedi cael y fraint o agor cil y drws ar holl gyfoeth cefn gwlad Cymru - yn gymeriadau, cymunedau, heb anghofio stoc o'r safon uchaf. Dwi 'di cael modd i fyw ac yn ystyried fy hun yn ddyn lwcus iawn fod wedi gallu gwneud hynny gyhyd.

"Ond o'r diwedd mae'r amser wedi dod i roi'r twls ar y bar. Millionaire yw person gyda iechyd, ac mae hwnna'n fwy gwir i ni gyd nawr nag erioed.

"Cofiwch fel 'dwi wedi dweud sawl tro - yr ifanc ydi dyfodol cefn gwlad. A dwi'n gobeithio y cawn nhw yr un cyfleoedd nawr, ac y ges i pan ddechreues i ar fy antur fawr.

"Diolch i bawb am rannu'r daith gyda mi - diolch am yr hwyl, y croeso a'r llawenydd - mae wedi bod yn falm i'r enaid, a'r atgofion yn rhai fyddai'n trysori am byth."

Ar 1 Ionawr am 20.00 bydd rhaglen arbennig o'r enw 'Dathlu Dai' yn cael ei ddarlledu ar S4C.

Bydd y rhaglen yn cydnabod cyfraniad enfawr Dai i'r byd darlledu yng Nghymru, gan drafod yr holl raglenni ble mae Dai wedi cyflwyno, gan gynnwys 'Si么n a Si芒n', 'Noson Lawen', 'Rasus', 'Ar eich Cais', 'Y Sioe Fawr' a 'Cefn Gwlad', lle mae wedi bod wrth y llyw ers 1983.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dai Jones yn cofio'n 么l dros hanner canrif o ddarlledu mewn digwyddiad ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni

Mae'n hanner can mlynedd ers i Dai ganu ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman a chipio'r Rhuban Glas. Dywed fod yr anrhydedd wedi agor cymaint o ddrysau eraill iddo mewn bywyd a'i fod yn brofiad y bydd yn ei drysori am byth.

Dim ond 26 oed oedd Dai ar y pryd ac mae ef a Stuart Burrows ymhlith yr ieuengaf i ennill y wobr.

Yn gynharach eleni bu Dai yn hel atgofion o'r adeg yr enillodd y Rhuban Glas ar y dydd Sadwrn hwnnw yn Awst 1970.

Disgrifiad,

Hoff ffermwr y genedl enillodd y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod yn Rhydaman

"Roedden ni wedi ennill yr unawd tenor ddydd Gwener, mynd adre amser cinio a mynd lawr wedyn ddydd Sadwrn ar 么l godro i gystadlu am y Rhuban Glas," meddai.

Y Diethryn ac Aria Lesnki allan o Eugene Oengin oedd darnau Dai ar gyfer yr unawd tenor a'r Adelaide gan Beethoven oedd un o'i ddarnau dewisol ar gyfer y Rhuban Glas.

"Dwi wrth fy modd gydag Adelaide," meddai yn llawn emosiwn, "a 'nai fyth ei hanghofio.

"Ond cofiwch er bo' fi'n gallu canu, dwi ddim yn gerddor o gwbl - dwi ddim yn gallu darllen cerddoriaeth ond mae gen i glust dda ac mae geiriau caneuon yn bwysig iawn i fi.

"Pan ro'n yn cael gwersi - o nhw'n arfer gweud wrthai pan o'dd ff ar y copi - Dai mae'n rhaid i ti agor ma's nawr!"

'Fy ngeni yn Gocni'

Yn Llundain y ganwyd Dai Jones ond fe symudodd i Gymru yn blentyn at berthnasau iddo yn Llangwyryfon.

"Roedd gan fy rhieni, y ddau yn enedigol o Sir Aberteifi, w芒c laeth yn ardal Holloway - roedd y ddau yn codi am 4.30 ac roedd siop 'da nhw hefyd oedd yn agor am saith y bore tan saith yr hwyr.

"Ond do'n i ddim yn lico prysurdeb Llundain ac roeddwn wrth fy modd yn dod ar wyliau i'r wlad at Wncwl Morgan ac Anti Hannah ac un gwyliau es i ddim n么l - er bod fy rhieni yn Llundain.

"Mynd ar wyliau adre roeddwn i wedyn - ond yn dyheu o hyd i ddod n么l i Geredigion. O'ch chi ffili gweld coeden o'r gwely yn Holloway!"

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Dyn y wlad ydw i er i fi gael fy ngeni yn Llundain," meddai Dai Jones

Yn ei ugeiniau y dechreuodd Dai Jones ganu o ddifri - roedd e'n canu ychydig yn yr ysgol gynradd ac yn cael gwersi ffidil ond mae'n dweud nad oedd hi'n "c诺l" iawn i fynd 芒 ffidil na bag i'r ysgol ac roedd e'n dueddol o'u gadael nhw yn y clawdd.

"Roedd fy nhad yn dipyn o ganwr," meddai. "Yn eisteddfod Tyn-y-graig ger Swyddffynnon yr enillais i gynta ac yna wedi i fi gael car fe es i gystadlu ar draws Cymru a chael gwersi canu.

"Fues i hefyd yn ffodus i gael fy newis i gymryd rhan yn rhaglen S锚r y Siroedd - fi oedd yn canu ar ran Sir Aberteifi ac un oedd yn fy erbyn yn gyson oedd y gantores Margaret Williams, o Sir F么n.

"Ymhlith fy athrawon yr oedd Colin Jones o'r Rhos ac arferwn fynd ato bob bore Sul - gadael Berth-lwyd yn y bore wedi godro, cael gwers ac yna cael cinio dydd Sul gyda rhieni Colin cyn dod n么l."

Yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan 1966 fe gafodd Dai Jones lwyfan ar yr unawd dan 25 ond 1970 oedd y flwyddyn fawr wrth iddo ennill yng Ng诺yl Fawr Aberteifi, Eisteddfod M么n, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ac Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman.

"Wedi i fi ennill yn Llangollen daeth dau o'r beirniaid draw i Lanilar a gofyn i fi fynd yn 么l gyda nhw i'r Eidal i ddysgu bod yn ganwr proffesiynol ond gwrthod wnes i - do'dd 'da fi ddim diddordeb mewn gyrfa felly."

Llanilar yn fal诺ns i gyd

"Yn Sioe Llanilar roeddwn i pan glywais i bod Dai wedi ennill yr unawd tenor - doedd hi ddim yn bosib i fi fynd 'dag e gan bod lot o waith i'w wneud adre ar y fferm," meddai Olwen, gwraig Dai.

"Wedi iddo ennill ro'dd Llanilar yn fal诺ns i gyd - pawb yn falch iawn," ychwanegodd.

"Perfformiad oedd cystadleuaeth y Rhuban Glas i fi. Doeddwn i ddim yn poeni am ennill dim ond bod y perfformiad yn un da. Doeddwn i ddim yn nerfus o gwbl - dwi lot fwy nerfus pan dwi'n rhedeg ci defaid mewn treialon," meddai Dai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dai Jones a Jenny Ogwen - dau a fu'n rhan o'r gyfres Si么n a Si芒n o 1970 ymlaen

Mae Dai yn argyhoeddedig bod ei lwyddiannau eisteddfodol wedi agor y drws i nifer o gyfleon eraill. Yn fuan wedyn daeth cyfle i gyflwyno y gyfres Si么n a Si芒n ac fe roddodd Dai ei stamp ei hun ar y gyfres drwy ganu ar ddiwedd pob rhaglen.

"Mi Glywaf Dyner Lais, oedd y ffefryn," meddai, "a 'nes i fwynhau yn fawr cyfarfod 芒 phobl. Roedd e'n gam naturiol wedyn i gyflwyno rhaglenni fel Cefn Gwlad a dwi hefyd wedi mwynhau cyflwyno Rasus a darlledu o'r Sioe Fawr a chyflwyno Ar Eich Cais, wrth gwrs, ar Radio Cymru.

"Dwi wedi bod yn ffodus iawn gydol fy mywyd - wedi cael teithio llawer yn sgil fy ngwaith canu a chyflwyno ond roedd hi wastad yn braf dod adre. Dyn cartre ydw i."

Fe ddaeth nifer o anrhydeddau eraill wedi'r rhai cynharaf yn 1970 gan gynnwys Gwobr Goffa Syr Bryner Jones am wasanaeth i'r Sioe Frenhinol, yr MBE ac ef hefyd oedd Llywydd y Sioe Frenhinol yn 2010 pan oedd Sir Ceredigion yn ei noddi.

Mae e hefyd wedi cynrychioli Cymru mewn treialon c诺n defaid rhyngwladol ac yn 2004 enillodd wobr BAFTA Cymru am ei gyfraniad i ddarlledu yng Nghymru.

"Canu mewn eisteddfodau, mae'n debyg, a agorodd y drysau - a dyna lwc bo fi ddim wedi mynd yn 么l i Lundain yn y pedwardegau," meddai.

Hefyd o ddiddordeb: