大象传媒

Ysgolion i ail-agor bob yn dipyn fis Ionawr

  • Cyhoeddwyd
MygydauFfynhonnell y llun, PA Media

Fe fydd ysgolion yn ail-agor bob yn dipyn ar 么l gwyliau'r Nadolig, meddai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Fe fydd dysgu ar-lein yn parhau ar ddechrau'r tymor ac fe fydd ysgolion yn darparu addysg wyneb yn wyneb i fwyafrif y disgyblion erbyn 11 Ionawr.

Y gobaith yw y bydd holl ddisgyblion ysgolion wedi dychwelyd erbyn 18 Ionawr.

Y flaenoriaeth fydd osgoi tarfu ar ddisgyblion meddai'r Gymdeithas.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddi'r newyddion y bydd profion llif unffordd yn cael eu cynnal mewn ysgolion, er mwyn i gysylltiadau pobl sydd wedi derbyn prawf positif barhau i fynychu'r ysgolion os ydynt yn derbyn canlyniadau prawf negyddol drwy gydol y 10 niwrnod o hunan-ynysu.

Fe wnaeth ysgolion uwchradd symud i addysgu ar-lein o ddydd Llun hyd at ddiwedd y tymor, ac fe wnaeth ysgolion cynradd yr un peth hefyd.

Bydd trefniadau arbennig yn cael eu gwneud ar gyfer plant bregus a phlant gweithwyr hanfodol.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Bydd y cynllun i ddychwelyd i ysgolion ym mis Ionawr yn rhoi rhywfaint o sicrwydd, tra hefyd yn caniat谩u hyblygrwydd i ystyried amgylchiadau lleol.

"Mae ymateb athrawon, staff ysgol, dysgwyr a rhieni a gofalwyr wedi bod yn rhyfeddol drwy gydol y flwyddyn heriol hon. Nid yw wedi bod yn hawdd, a diolchwn iddynt am eu hamynedd a'u dyfalbarhad parhaus i helpu i gadw ein cymunedau'n ddiogel.

"Er mwyn helpu i leihau lledaeniad cyflym y feirws, rhaid i bob un ohonom barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn ein hunain, ein gilydd a'n cymunedau."

Ffynhonnell y llun, PA Media

Un sydd yn pryderu am faint o athrawon fydd ar gael i weithio mewn ysgolion ym mis Ionawr, gyda'r peryg y bydd y pandemig yn ei anterth, ydy prif weithredwr Cyngor Caerdydd, Huw Thomas: "Fel yr awdurdodau lleol rydyn ni'n poeni'n fawr iawn am argaeledd staff a bod yn onest.

"'Da ni wedi bod yn gweld wythnos yma mwy a mwy o ysgolion yn gorfod cau oherwydd fod athrawon yn gorfod hunan ynysu, felly beth mae'r cynlluniau yma yn eu caniatau ydy'r hyblygrwydd hynny i fedru ymateb yn lleol ble mae na wasgedd penodol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod angen hyblygrwydd o ran ymateb i'r haint a'r effaith mae'n ei gael ar gymunedau: "Drwy gytuno i fod yn hyblyg yn ystod pythefnos cyntaf y tymor ysgol newydd ym mis Ionawr, gall ein hysgolion roi trefniadau cymesur ar waith sy'n adlewyrchu eu hamgylchiadau penodol ac sy'n cael eu harwain gan ystyriaethau iechyd a diogelwch y cyhoedd.

"Rydyn ni'n gwybod bod ein plant a'n pobl ifanc yn dysgu orau pan fyddant yn yr ystafell ddosbarth, yn derbyn gwersi wyneb-yn-wyneb, felly mae'n rhaid i unrhyw fesurau a roddwn ar waith geisio tarfu cyn lleied 芒 phosibl ar eu haddysg," ychwanegodd.

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod rhai awdurdodau lleol wedi dewis cynnal dyddiau hyfforddiant i staff ar 4 a 5 Ionawr.

Mae Cyngor Powys wedi cadarnhau mai hyn fydd yn digwydd yn eu hysgolion, gyda'r disgyblion yn dychwelyd ar 6 Ionawr.