大象传媒

Arogl tomen sbwriel yn effeithio ar fywydau pobl leol

  • Cyhoeddwyd
Kelly Louise Bellis efo'i merchFfynhonnell y llun, Kelly Louise Bellis
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Kelly Louise Bellis fod yr oglau wedi gwneud problemau anadlu ei merch yn waeth

Roedd arogl "dychrynllyd" o domen sbwriel yn annioddefol yn ystod y cyfnod clo cyntaf yn 么l pobl sy'n byw ger chwarel yn Wrecsam.

Aeth ymgyrchwyr 芒 pherchnogion Chwarel Hafod, Wrecsam, i'r Uchel Lys yn 2011, oherwydd yr arogl oedd yn dod o'r safle, ond fe gollon nhw'r achos.

Mae'r oglau o'r safle tirlenwi yn Johnstown yn difetha eu bywydau, meddent, ac roedd y sefyllfa hyd yn oed yn waeth pan fu t芒n mawr yno ym mis Mai.

Dywed perchnogion y domen, Enovert, fod rhagor o waith i geisio gwella'r broblem wedi ei gynllunio ar gyfer gwanwyn 2021.

Ymddiheurodd y cwmni i drigolion lleol, gan ychwanegu fod gwaith wedi ei wneud eleni hefyd i geisio lleihau'r arogleuon drwg, a'r risg o ragor o danau.

Dywed Kelly Louise Bellis, sy'n byw'n agos at y safle, fod yr oglau'n ei gwneud iddi deimlo'n s芒l, ac roedd yn credu ei fod wedi effeithio ar broblemau anadlu ei merch naw oed.

Ond dywedodd fod yr arogl yn llai amlwg erbyn hyn, a'i bod yn hapus fod rhagor o welliannau ar y gweill yno.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedod pobl leol fod arogleuon safle tirlenwi wedi cael effaith ar eu bywydau a'u hiechyd

"Mi oedd yr oglau'n ddychrynllyd, ond mae o i weld wedi gwella lot," meddai Ms Bellis ym mis Mawrth, cyn dechrau'r cyfnod clo cyntaf.

"Mae asthma fy merch wedi gwaethygu'n arw ers i ni symud yma.

"Roedd ganddi broblem cyn hynny ond ar 么l symud yma doedd hi ddim yn gallu cysgu'n iawn oherwydd ei bod yn pesychu drwy'r amser.

"Mi gafodd hi feddyginiaeth ar 么l meddyginiaeth tan iddi gyrraedd lle mae hi r诺an, a dim ond bryd hynny ddaru hi stopio pesychu drwy'r nos.

"Dwi o hyd yn meddwl bod nwy yn gollwng yn y t欧, achos mae'r oglau'n gallu bod yn debyg.

"Mae'n drewi'r t欧 i gyd, ac yn gwneud i chi deimlo'n s芒l."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd rhagor o bridd ei daenu ar rannau o'r safle ym mis Mai

Ond cafodd gobeithion Ms Bellis eu chwalu pan darodd y pandemig, gyda'r t芒n ym mis Mai yn gwneud y sefyllfa'n waeth.

"Yn ystod y cyfnod clo roedd 'na d芒n anferth yno a lenwodd yr ardal, mor bell 芒 Wrecsam, efo mwg toxic," meddai.

"Mi oedd o'n ddychrynllyd ac roeddan ni'n sownd yn y t欧.

"Roedd hi ddigon drwg yn ystod y cyfnod clo, ond roedden ni'n gallu defnyddio ein gardd tan y t芒n. Ar 么l hynny roedd rhaid inni aros i mewn yn ystod cyfnod poetha'r flwyddyn. Roedd o'n ofnadwy."

Be mae Enovert yn ei wneud yngl欧n 芒'r oglau?

  • Gosod rhagor o bridd ar ran o'r safle (cwblhawyd ym mis Ionawr)

  • Gosod pum ffynnon i dynnu nwyon o'r safle (cwblhawyd ym mis Chwefror)

  • Ailosod ffynnon i wella gwaredu hylif (cwblhawyd ym mis Chwefror)

  • Gosod pibell dd诺r newydd er mwyn cael cyflenwad mwy cyfleus (cwblhawyd yn dilyn y t芒n)

  • Mwy o waith taenu pridd, a rhagor i ddod yn 2021

Dywedodd prif weithredwr y cwmni, Mark Silvester, eu bod wedi ymchwilio i achos y t芒n efo Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), a'u bod wedi cyflwyno mesurau a oedd yn paratoi ar gyfer unrhyw argyfwng pellach.

Ni chafodd y system gwaredu nwyon ei heffeithio gan y t芒n, ac roedd yn dal i weithio'n effeithiol, meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran CNC fod nifer y cwynion yngl欧n 芒'r safle wedi lleihau yn dilyn gwaith ym mis Mehefin, a'u bod yn parhau i wneud yn si诺r fod y domen yn dilyn gofynion amgylcheddol ei thrwydded.

Ffynhonnell y llun, John Haynes / Geograph
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Safle tirlenwi Chwarel Hafod

Ond nid yw'r gwelliannau yn lleddfu pryderon pob un o'r bobl leol.

Dywedodd Mark Glaspole fod yr oglau "ofnadwy" i weld yn lleihau yn dilyn cwyn, ond yn ail-ymddangos wedyn.

"Dwi wedi byw yma am 18 mlynedd a fedra i ddim gweld y broblem yn gwella, maen nhw wedi cael hen ddigon o amser i'w sortio fo," meddai.

Pynciau cysylltiedig