大象传媒

35 yn rhagor o farwolaethau yn gysylltiedig 芒 Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
YsbytyFfynhonnell y llun, PA Media

Mae 35 marwolaeth yn rhagor sy'n gysylltiedig 芒'r coronafeirws wedi cael eu cofnodi yng Nghymru, yn 么l y ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae hyn yn mynd 芒 chyfanswm y marwolaethau o ganlyniad i Covid-19 i 3,298 yng Nghymru.

Cofnodwyd 2,237 o achosion pellach, gan gynyddu cyfanswm yr achosion i 135,500.

Ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg sydd gyda'r nifer uchaf o achosion hyd yma (28,882), gydag ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn ail (27, 868) ag ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn drydydd (22,194).

Fe rybuddiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y byddai'r ffigyrau'n uwch gan nad oedd yn adrodd nifer yr achosion ar ddydd Nadolig.

Cyfyngu ar gysylltiadau

Dywedodd Dr Chris Williams, Cyfarwyddwr Digwyddiadau ar gyfer yr ymateb i'r achosion o'r coronafeirws newydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae'r cyfyngiadau symud yn parhau ac rydym yn cynghori pawb i aros gartref gymaint 芒 phosibl, ac i gyfyngu ar eich cysylltiadau cymdeithasol.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod y cyngor i'r rhai sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol, a oedd gynt yn 'gwarchod' eu hunain, wedi newid. Ni ddylai'r bobl hynny yn y gr诺p hwn fynychu'r gwaith na'r ysgol y tu allan i'r cartref mwyach. Yr opsiwn mwyaf diogel i'r bobl yn y gr诺p hwn yw peidio 芒 bod yn rhan o Swigen Nadolig ac i gyfyngu ar gysylltiadau 芒 phobl eraill dros gyfnod yr 诺yl.

"Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd lleol, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn dilyn cyhoeddi cyfyngiadau cenedlaethol yng Nghymru o hanner nos ar 20 Rhagfyr 2020."

Ychwanegodd: "Fel y nododd Llywodraeth Cymru, mae cyflwyno cyfyngiadau newydd ar unwaith yn gysylltiedig 芒 chanfod amrywiad newydd mwy trosglwyddadwy o'r coronafeirws. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid yn y DU i ymchwilio i'r amrywiad hwn ac ymateb iddo.

"Mae'n arferol i feirysau newid, ac rydym yn disgwyl i hyn ddigwydd. Er bod yr amrywiad yn haws ei drosglwyddo, nid oes tystiolaeth ar hyn o bryd ei fod yn fwy difrifol.

"Rydym yn atgoffa pobl bod yr holl ganllawiau cyfredol sy'n ymwneud 芒'r coronafeirws yn parhau i fod yn berthnasol i'r amrywiad newydd, gan gynnwys y cyngor sy'n ymwneud 芒 symptomau, cadw pellter cymdeithasol, hunan-ynysu, a brechu."

Pynciau cysylltiedig