Cadarnhau 33 marwolaeth arall yng Nghymru o Covid-19

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi cadarnhau 33 marwolaeth ychwanegol yn gysylltiedig 芒 coronafeirws - dros ddwbl y nifer a gafwyd ddydd Llun.

Mae 2,510 o achosion newydd o'r haint hefyd wedi cael eu cadarnhau, gan gynnwys 330 yng Nghaerdydd a 279 yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd 11,349 o brofion eu cynnal dros yr un cyfnod, gan olygu fod dros un o bob pump prawf Covid-19 sy'n cael ei gymryd yn parhau i ddod yn 么l yn bositif.

Bellach mae ICC wedi cofnodi 3,416 marwolaeth o ganlyniad i Covid-19 a 144,425 prawf positif ers dechrau'r pandemig.

Cyfradd yr achosion am bob 100,000 o'r boblogaeth yng Nghymru 495.2, yn 么l y data diweddaraf sydd ar gael.

Ond mae rhai siroedd, gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr (949.3), Merthyr Tudful (895.1), Blaenau Gwent (740.0) a Chastell-nedd Port Talbot (724.3) yn parhau i fod dipyn yn uwch na'r cyfartaledd.

Mae'r gyfradd yn parhau ar ei isaf yn ardaloedd y gogledd orllewin fel Gwynedd (78.7), Ynys M么n (81.4) a Chonwy (136.5).

Wrth gyhoeddi'r ffigyrau diweddaraf, pwysleisiodd Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru y dylai pobl barhau i ddilyn y rheolau newydd sydd wedi bod mewn grym ers cyn y Nadolig er mwyn atal lledaeniad yr haint.

"Rydyn ni'n cynghori pawb i aros adref oni bai bod ganddyn nhw esgus rhesymol, a chyfyngu'ch cysylltiadau cymdeithasol," meddai.