大象传媒

Cynnydd eto yn nifer y marwolaethau Covid-19 yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae byrddau iechyd Aneurin Bevan a Bae Abertawe wedi gweld y nifer fwyaf o farwolaethau Covid-19 ers diwedd Ebrill, yn 么l y ffigyrau diweddaraf.

Ar draws Cymru cafodd 256 o farwolaethau'n ymwneud 芒 Covid-19 eu cofnodi yn yr wythnos hyd at 18 Rhagfyr - 33 yn fwy na'r wythnos flaenorol.

Coronafeirws oedd achos 29% o'r holl farwolaethau yng Nghymru yn 么l y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae cyfanswm o 4,479 o farwolaethau yn gysylltiedig 芒 Covid-19 wedi cael eu cofnodi yng Nghymru bellach.

Rhondda Cynon Taf 芒'r gyfradd uchaf

Roedd 63 o farwolaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan dros yr wythnos honno - 52 o'r rheiny mewn ysbytai a saith mewn cartrefi gofal.

Cofnodwyd 61 o farwolaethau gan Fwrdd Iechyd Bae Abertawe - 43 mewn ysbytai a 13 mewn cartrefi gofal.

Fe wnaeth nifer y marwolaethau gynyddu yn ardal Cwm Taf Morgannwg hefyd, i 49.

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos mai Rhondda Cynon Taf, sydd wedi gweld 610 o farwolaethau bellach, sydd 芒'r gyfradd farwolaethau uchaf yng Nghymru a Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw 20 o gleifion o Gaerffili yn yr ysbyty yn yr wythnos hyd at 18 Rhagfyr

Mae nifer y marwolaethau ledled Cymru 22.8% yn uwch na'r cyfartaledd dros y bum mlynedd ddiwethaf.

Mae'r marwolaethau sy'n cael eu cofnodi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynnwys unrhyw farwolaeth ble mae meddygon yn credu bod Covid-19 yn ffactor.

Yn wahanol i ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru, maen nhw'n cynnwys pobl sydd wedi marw gyda Covid-19, ond oedd heb gael prawf.