大象传媒

Brexit: Cyfle nawr 'i fynd amdani' medd Ysgrifennydd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Simon Hart, Jeremy Miles, Adam Price
Disgrifiad o鈥檙 llun,

O'r dde i'r chwith: Simon Hart, Jeremy Miles ac Adam Price

Bydd busnesau'n elwa o'r berthynas newydd rhwng y Deyrnas Unedig gyda'r Undeb Ewropeaidd, medd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart.

Mae telerau masnach newydd mewn grym wedi i'r cyfnod pontio Brexit ddod i ben am 23:00 nos Iau.

Ond mae Gweinidog Brexit Cymru, Jeremy Miles, yn rhybuddio y bydd busnesau'n wynebu "maint anferthol o fiwrocratiaeth gostus".

Ac mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wedi amddiffyn penderfyniad ei blaid i bleidleisio yn erbyn y cytundeb yn San Steffan.

'Rydym am fynd amdani'

Bydd busnesau, ffermwyr ac allforwyr ar eu hennill yn sgil cytundeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyda'r Undeb Ewropeaidd, yn 么l Ysgrifennydd Cymru.

Mae Simon Hart, AS Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, yn cydnabod y bydd yna "heriau", ond dywedodd nad yw etholwyr Cymru, a bleidleisiodd dros adael yn refferendwm 2016, yn "dwp".

Ychwanegodd fod etholwyr wedi cefnu ar yr UE er mwyn creu "cyfleoedd masnachu ehangach, mwy hyblyg a mwy deinamig".

"Yn ddiamau mae yna gyfnod nawr, wrth i ni wneud y newidiadau mawr yma, ble bydd yna rai heriau," meddai wrth 大象传媒 Radio Wales ddydd Gwener.

"Rydym yn gwybod hynny, rydym wedi bod yn dweud hynny, rydym wedi cynllunio ar ei gyfer, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynllunio ar ei gyfer."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae heriau i'w disgwyl wedi'r fath newid, medd Simon Hart ond mae cyfleoedd hefyd ar y gorwel

Rhybuddiodd Mr Hart yn erbyn "amau gallu busnesau Cymreig, a cheisio creu naratif bod popeth yn uffern, a bydd pawb yn methdalu".

"Fe welodd pobl drwy hynny yn 2016, ac fe wn芒n nhw weld drwyddo yn 2021."

Ychwanegodd: "Yn ddiamod, mae yna newidiadau. Dyna bleidleisiodd bobl drosto 'n么l yn 2016, a dyw pobl ddim yn dwp.

"Dyw hyn oll heb ddod fel syndod anferthol. Roedd pobl yn gwybod yn iawn, er gwaethaf beth mae rhai wedi ceisio ei ddweud."

Mynnodd y bydd busnesau, masnachwyr a ffermwyr "yn bendant yn well eu byd" o ganlyniad y cytundeb masnach.

"Ro'n i'n siarad gyda grwpiau ohonyn nhw gydol yr wythnos yn y dyddiau cyn y flwyddyn newydd," dywedodd. "Roedd yn gymysgedd o ryddhad, peth pryder - wna'i ddim gwadu hynny - sut aiff pethau ac ar ba gyflymder.

"Ond yn bendant, mae yna deimlad ein bod wedi cau un bennod, mae gyda ni gyfleoedd nawr, rydym am fynd amdani."

'Realiti newydd gostus'

Serch hynny, mae Gweinidog Brexit Llywodraeth Lafur Cymru yn credu bod cytundeb Boris Johnson yn golygu "maint anferthol o fiwrocratiaeth gostus".

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles fod y cytundeb yn well na "sefyllfa ddigytundeb drychinebus" ond bod y telerau terfynol yn dal yn "ddinistriol yn yr hirdymor i economi Cymru".

Mynnodd na fydd pleidleisio o blaid y cytundeb yn Senedd San Steffan yn rhwystro'r Blaid Lafur rhag beirniadu unrhyw ganlyniadau negyddol.

"Rwy'n meddwl mai'r opsiwn i bobl yn y Senedd oedd cefnogi'r unig gytundeb oedd ar gael neu fod mewn sefyllfa ble roedden ni'n gadael heb gytundeb," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cytundeb yn mynd i olygu mwy o fiwrocratiaeth i fusnesau, yn 么l Jeremy Miles

"Mae'r fargen yma gan Boris Johnson mewn gwirionedd yn cyflwyno maint anferthol o fiwrocratiaeth newydd eithaf costus.

"Yn y pen draw bydd hynny i'w deimlo yn ein pocedi mewn sawl ffordd. Ein tasg yw cefnogi Cymru wrth ymateb i'r realiti newydd yma."

Dywedodd Mr Miles na fydd awydd gan y naill ochr neu'r llall i ailgydio mewn trafodaethau, ond bod angen "defnyddio hyn fel platfform i greu math well o drefniadau ar gyfer y dyfodol".

"Mae gyda ni gytundeb dim tariffau yn y cytundeb... ond mae yna lond gwlad o waith papur newydd, gwiriadau, ardystiadau, sy'n mynd i gynyddu costau pethau," meddai.

"Roedden ni eisiau sicrhau bod hynny'n cael ei leihau, ac yn amlwg dyw Llywodraeth y DU heb wneud hynny."

Plaid Cymru ddim am gefnogi

Fe bleidleisiodd ASau Plaid Cymru yn erbyn y cytundeb, gyda'u harweinydd Adam Price yn dweud ei fod yn un sy'n "wael iawn, iawn i economi'r DU ac economi Cymru".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Cymru'n dioddef oherwydd strwythur ei heconomi, medd Adam Price

Ychwanegodd y byddai busnesau bwyd yn cael eu "taro'n galed" ac y dylai Llywodraeth y DU fod wedi aros yn aelod o'r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd.

"Does gan Senedd San Steffan ddim r么l mewn gwirionedd wrth gadarnhau cytundebau felly mae hynny'n benderfyniad i'r llywodraeth," meddai.

"Y cwestiwn oedd o flaen ni yr wythnos yma oedd a ddylen ni gefnogi'r cytundeb, ac allen ni ddim fod wedi cefnogi cytundeb oedd mewn difri calon am fod yn wael i economi Cymru."

Ychwanegodd: "Yr unig ddyfodol hir dymor sy'n gynaliadwy a ffyniannus yw un ble mae Cymru'n wlad annibynnol, ac mae hynny hyd yn oed yn fwy gwir o ystyried y problemau fyddwn ni'n wynebu yn y tymor byr."