大象传媒

Gething: Rhaglen frechu'n 'megis cychwyn' yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BrechlynFfynhonnell y llun, Getty Images

Megis "ar gychwyn" y mae'r rhaglen frechu rhag Covid yng Nghymru ac mae'r cyfraddau brechu ar gynnydd, medd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.

Mae rhai gwleidyddion wedi mynegi pryder dros gyflymder gweithredu'r rhaglen frechu yng Nghymru.

Yn 么l ffigyrau cychwynnol nifer y bobl sydd wedi derbyn y brechiad Pfizer-BioNTech, mae cyfraddau Cymru ychydig yn i nag yng ngweddill y DU.

Dywedodd Mr Gething fod "gwahaniaethau bach rhwng gwledydd" yn debygol.

Data 'dros dro'

"Mae yna gymariaethau, yn naturiol, o ran nifer y brechiadau ym mhedair gwlad y DU," meddai mewn datganiad gweinidogol i Aelodau'r Senedd.

"Tra'n cydnabod bod y data'n awgrymu bod gwledydd eraill ar y blaen o'i gymharu 芒 ni, dylid ystyried y data cenedlaethol sy'n cael ei gyhoeddi yn y cyfnod cynnar iawn yma fel data dros dro, ac yn gipolwg ar weithgaredd sy'n parhau."

Ychwanegodd y bydd yna "oedi" o ran cofnodi data, a bod ffactorau lleol yn cael effaith.

"Er enghraifft, nid oedd canolfan frechu yn [ardal] Caerdydd a'r Fro yn gallu gweithredu am ddeuddydd oherwydd achosion yn gysylltiedig 芒'r safle," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae dros 35,000 o bobl wedi derbyn y brechlyn Pfizer-BioNTech yng Nghymru hyd yn hyn, gan gynnwys gweithwyr iechyd sy'n gweithio yng Nghymru ond yn byw dros y ffin yn Lloegr.

Cafodd bron i 13,000 o'r brechiadau hyn eu rhoi yn yr wythnos ddiwethaf.

Roedd nifer y brechiadau yng Nghymru hyd at 27 Rhagfyr yn gyfystyr 芒 1.12% o boblogaeth Cymru.

Mae hynny'n cymharu 芒 1.4% o'r boblogaeth yn Lloegr, 1.7%, yn Yr Alban a 1.6% yng Ngogledd Iwerddon.

'Dryswch' ers y brechiadau cyntaf

Mynegodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies bryderon ynghylch y trefniadau yng Nghymru ddydd Iau.

"Dair wythnos yn 么l, cafodd y brechiad Covid-19 cyntaf ei roi yng Nghymru, ac ers hynny, yn anffodus, rydym wedi gweld dryswch a gobaith yn pylu," dywedodd.

"Roedd llawer o bobl dros 80 yng Nghymru'n daer aros am apwyntiad i chwarae eu rhan a chael y brechiad," meddai, "ond fel y gwnaethon ni ddysgu'n gyflym, bydd yn rhaid iddyn nhw aros yn hirach."

Ond mae Vaughan Gethin yn mynnu bod y cyfraddau brechu dyddiol yn "cynyddu ar draws Cymru".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhoi brechiadau'n effeithiol ac yn ddiogel yw'r flaenoriaeth, medd Vaughan Gething

"O edrych ymlaen, mae'r holl fyrddau iechyd yn paratoi ar gyfer ehangu capasiti'n sylweddol o ddechrau Ionawr," meddai.

Ychwanegodd y bydd y brechlyn Oxford-AstraZeneca, a gafodd ei gymeradwyo'r wythnos hon, ar gael yn rhai o feddygfeydd Cymru o ddydd Llun.

"Dyma fegis dechrau'r hyn fydd yn rhaglen dros sawl mis," meddai.

"Tra bo'r brys a'r flaenoriaeth angenrheidiol yn glir i ni oll, rhaid inni hefyd cael rhywfaint o amynedd a gadael i'r GIG wneud yr hyn mae'n ei wneud cystal.

"Y canolbwynt i mi ac i'r GIG yw gweithredu'r rhaglen frechu'n gyflym ond hefyd yn effeithiol, yn ddiogel ac yn deg."

Ffynhonnell y llun, EPA

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn dilyn cyngor diweddaraf arbenigwyr meddygol ynghylch cyflwyno bwlch o 12 wythnos rhwng dau ddos o'r ddau frechlyn sydd wedi'u cymeradwyo hyd yn hyn.

Mae pedwar prif swyddog meddygol y DU yn cefnogi'r cyngor, sy'n awgrymu canolbwyntio ar roi dos cyntaf i bobl yn y grwpiau risg uchel.

"Bydd yn sicrhau bod mwy o bobl risg uchel yn cael gwarchodaeth brechlyn yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf, gan leihau marwolaethau a dechrau lleihau'r pwysau ar ein GIG" meddai Mr Gething.

Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn i Lywodraeth y DU i gyhoeddi'r dystiolaeth o blaid cynyddu'r cyfnod rhwng dau ddos o'r brechlyn Pfizer-BioNTech.

Mewn llythyr at Mr Gething, dywedodd llefarydd iechyd y blaid, Rhun ap Iorwerth bod y "newid dirybudd" yn symudiad "sylweddol" o'r canllawiau blaenorol.

Ychwanegodd bod yna "bryderon gwirioneddol" y gallai bwlch hirach rhwng y ddau ddos "leihau'n effeithlondeb y brechiad yn sylweddol".

Pynciau cysylltiedig