大象传媒

Pro14: Gleision 3-17 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Dan Lydiate and Jason ToveyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Manteisiodd y Gweilch ar ddiffyg disgyblaeth y Gleision er mwyn cipio'r fuddugoliaeth yn y Pro14 nos Wener.

Aeth y Gweilch i mewn ar yr egwyl gyda mantais o 7-3 yn dilyn cais y bachwr Ifan Phillips.

Roedd rhaid i'r Gleision chwarae mwyafrif yr ail hanner gyda 14 dyn ar 么l i'r blaenwyr Seb Davies, Dmitri Arhip a Scott Andrew gael cardiau melyn am droseddau gwahanol.

Daeth ail gais y Gweilch drwy gais gosb ar 么l i Arhip gael ei anfon o'r cae am ddymchwel sgarmes.

Cic gosb gan Jason Tovey oedd yr unig bwyntiau i'r t卯m cartref eu sgorio yn eu cartref dros dro yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Cafodd blaenasgellwr y Gweilch, Dan Lydiate hefyd gerdyn melyn yn yr hanner cyntaf am dacl uchel ar Tovey.

Pynciau cysylltiedig