大象传媒

Undeb yn bygwth gweithredu i 'ddiogelu athrawon'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
dosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae rhagor o undebau addysg wedi galw am oedi dysgu wyneb yn wyneb am gyfnod oherwydd lledaeniad y coronafeirws.

Mae'r NASUWT wedi bygwth "camau addas er mwyn amddiffyn aelodau sy'n wynebu risg".

Daw ar 么l i NEU Cymru alw am beidio dychwelyd i'r stafell ddosbarth nes o leiaf 18 Ionawr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi dod i gytundeb sy'n cynnwys "hyblygrwydd".

'Cwbl glir'

Yn 么l awdurdodau lleol, mae llawer o ysgolion uwchradd yn anelu at ailagor ar 11 Ionawr, ac mae rhai'n bwriadu ailagor yn llawn ar 6 Ionawr.

Fe fydd disgwyl i bob disgybl fod yn dysgu ar-lein os nad yw ysgolion yn agor yn syth.

Ond mae undebau'n dweud bod angen mwy o amser i ddeall yr amrywiolyn newydd o Covid-19.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Covid-19 yw'r prif reswm am absenoldeb disgyblion

Dywedodd Dr Patrick Roach o'r NASUWT ei fod yn "gwbl glir" bod y pandemig yn effeithio gallu ysgolion i weithredu fel arfer.

Mae "gwir bryder" nad oes modd i ysgolion agor yn ddiogel, meddai, a barn yr undeb yw y dylai ysgolion ond agor i ddisgyblion "ble mae'n ddiogel i wneud hynny".

Ychwanegodd: "Ni fydd NASUWT yn oedi i gymryd camau addas er mwyn diogelu aelodau sy'n wynebu risg o ganlyniad i fethiant cyflogwyr neu Lywodraeth Cymru i sicrhau amodau gwaith diogel mewn ysgolion."

Risg 'annerbyniol'

Mae undeb y prifathrawon, NAHT Cymru, hefyd yn dweud bod "diffyg dealltwriaeth" o'r amrywiolyn newydd yn creu "risg annioddefol" i lawer o ysgolion.

Ychwanegodd Laura Doel ei bod "yn syml yn annerbyniol i ysgolion barhau ar agor tra bod marc cwestiwn dros effaith yr amrywiolyn newydd".

Mae NAHT Cymru yn galw am symud dysgu gartref am gyfnod er mwyn gweithio ar gynllun profi a mesurau diogelwch pellach cyn dychwelyd i'r dosbarth.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn wedi cytuno gydag awdurdodau lleol ar gynllun llawn ar gyfer dychwelyd i'r ysgol ym mis Ionawr gyda hyblygrwydd yn rhan o hynny dros y pythefnos cyntaf.

"Ein disgwyliad yw y bydd disgyblion, pan nad ydynt yn yr ysgol, yn parhau i fanteisio ar ddysgu ar-lein."

Pynciau cysylltiedig