Gwaith yn parhau i adfer gwefan Comisiynydd y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn annog unigolion a sefydliadau i gysylltu 芒 nhw ynghylch unrhyw bryderon yn ymwneud 芒 gwybodaeth bersonol ar eu systemau yn sgil ymosodiad seibr diweddar.
Cafodd staff eu cloi o'u holl systemau ym mis Rhagfyr pan lwyddodd hacwyr i gymryd rheolaeth o wefan y Comisiynydd ac amgryptio data.
Mewn llythyr mewnol gafodd ei ddanfon ar y pryd, dywedodd Llywodraeth Cymru bod yr hacwyr wedi bygwth cyhoeddi data personol os nad oedd arian yn cael ei dalu iddynt.
Erbyn hyn, mae system ebost Swyddfa'r Comisiynydd yn "ddiogel" ac maen nhw'n parhau i geisio adfer gwasanaethau eraill.
Data bersonol neu sensitif
"Rydym yn cydweithio gyda'r asiantaethau priodol i ymchwilio i'r mater ac yn gwneud popeth y gallwn i adfer y sefyllfa," meddai Swyddfa'r Comisiynydd mewn datganiad.
"Er bod ein gwefan wedi ei effeithio, mae ein system e-bost bellach yn ddiogel ac yn weithredol yn ogystal 芒'r dulliau arferol o gysylltu gyda ni dros y ff么n neu'r cyfryngau cymdeithasol."
Mae'r Swyddfa'n annog pobl i gysylltu 芒 nhw "os ydych chi'n aelod o'r cyhoedd neu'n sefydliad ac yn teimlo y gallwch chi fod wedi cael eich heffeithio oherwydd ein bod yn dal data bersonol neu sensitif amdanoch".
Gellir gwneud hynny trwy:
ffonio 0345 6033221;
ebostio post@cyg-wlc.cymru; neu
anfon neges breifat i gyfrifon Swyddfa'r Comisiynydd ar Twitter, Facebook neu LinkedIn.
Ychwanega'r datganiad: "Mae croeso i chi gysylltu gyda ni drwy'r sianeli hyn os oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall hefyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2020