大象传媒

Cofnodi'r nifer dyddiol uchaf o farwolaethau Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi 76 o farwolaethau Covid-19 ddydd Mercher - y nifer uchaf o farwolaethau i'w cofnodi ar un diwrnod ers dechrau'r pandemig.

Cafodd 2,238 o achosion newydd eu cofnodi hefyd ddydd Mercher.

Bellach mae cyfanswm y marwolaethau yng Nghymru wedi cyrraedd 3,738 ers dechrau'r pandemig - gyda 161,516 achos positif wedi eu cofnodi hyd yma.

Dywedodd Dr Robin Howe o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae nifer yr achosion positif o goronafeirws yn parhau i fod yn uchel iawn yng Nghymru ac yn destun pryder difrifol.

"Heddiw rydym yn cofnodi ein nifer uchaf o farwolaethau trwy gydol y pandemig - dylid nodi na ddigwyddodd yr holl farwolaethau hyn yn ystod yr un cyfnod o 24 awr ond mae'n dangos difrifoldeb y sefyllfa ac yn atgoffa pawb pa mor bwysig yw cadw at y rheolau i atal trosglwyddo'r feirws."

Ffigyrau uchaf erioed i Hywel Dda

Mae ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn dangos bod cynnydd arall yn nifer y marwolaethau'n ymwneud 芒 Covid-19 yng Nghymru ar gyfer yr wythnos hyd at 25 Rhagfyr.

Ar draws y wlad roedd 278 o farwolaethau yr wythnos honno - 22 yn fwy na'r wythnos flaenorol.

Mae ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod 34% o'r holl farwolaethau yng Nghymru yn yr wythnos hyd at 25 Rhagfyr yn ymwneud 芒 Covid-19.

Fe wnaeth ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda gofnodi 36 marwolaeth - ei ffigwr uchaf ers dechrau'r pandemig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ardal Hywel Dda wedi cofnodi ei nifer fwyaf o farwolaethau ers dechrau'r pandemig

Bae Abertawe oedd y bwrdd iechyd wnaeth gofnodi'r nifer fwyaf o farwolaethau yng Nghymru - 67.

Yn yr ardal honno bu farw 49 o bobl gyda Covid-19 mewn ysbytai, a 10 mewn cartrefi gofal.

Cofnodwyd 65 o farwolaethau yn ardal Aneurin Bevan - y nifer wythnosol uchaf ers diwedd Ebrill.

49 o farwolaethau oedd yn ardal Cwm Taf Morgannwg, 37 yng Nghaerdydd a'r Fro, 17 yn ardal Betsi Cadwaladr a saith ym Mhowys.

Gwynedd ac Ynys M么n oedd yr unig siroedd i beidio 芒 chofnodi yr un farwolaeth yn ymwneud 芒 coronafeirws.

59.5% yn uwch na'r cyfartaledd

Roedd 4,651 o farwolaethau Covid-19 wedi cael eu cofnodi yng Nghymru hyd at 25 Rhagfyr, meddai'r Swyddfa Ystadegau.

Mae nifer y marwolaethau ledled Cymru 59.5% yn uwch na'r cyfartaledd dros y bum mlynedd ddiwethaf.

Mae'r marwolaethau sy'n cael eu cofnodi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynnwys unrhyw farwolaeth ble mae meddygon yn credu bod Covid-19 yn ffactor.

Yn wahanol i ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru, maen nhw'n cynnwys pobl sydd wedi marw gyda Covid-19, ond oedd heb gael prawf.