´óÏó´«Ã½

‘You’ll Never Walk Alone’ a’r band o Borthmadog

  • Cyhoeddwyd
lerpwl

Ar gychwyn y flwyddyn newydd bu farw Gerry Marsden, prif-leisydd y grŵp chwedlonol o Lerpwl 'Gerry and the Pacemakers'.

Roedd Gerry and the Pacemakers yn enwog am gyrraedd brig y siartiau gyda chaneuon fel 'How Do You Do It?', 'I Like It' a 'Ferry Cross the Mersey'.

Ond eu 'hit' mwyaf adnabyddus oedd fersiwn nhw o'r gân 'You'll Never Walk Alone' a gyrhaeddodd rhif 1 y siart Prydeinig ym 1963.

Disgrifiad o’r llun,

Un o'r bandiau mwyaf poblogaidd ym Mhrydain yn y 60au, Gerry and the Pacemakers

Fe gafodd y gân ei mabwysiadu gan gefnogwyr tîm pêl-droed Lerpwl a'i chanu ar y terasau yn Anfield, cyn cael ei phenodi fel anthem swyddogol y clwb. Mae'r geiriau, 'You'll Never Walk Alone', ar arfbais y clwb hyd heddiw.

Ond heb grŵp o ardal Porthmadog, efallai na fyddai hyn oll wedi digwydd.

'Perfformio ar draws y gogledd'

Roedd Dino and the Wildfires yn rhan o'r don gyntaf o fandiau fu'n teithio a pherfformio ar draws Gogledd Cymru ar gychwyn y 60au. Fel oedd yn arferiad yn y cyfnod, roedd gan y grŵp repertoire eang o ganeuon poblogaidd er mwyn cynnal nosweithiau.

Yn chwarae gitâr rhythm i'r grŵp oedd Gwilym Phillips o Benrhyndeudraeth:

"Oedden ni'n trafeilio dipyn, yn mynd i chwarae gigs fin nos ac wedyn dod adra oriau man y bore... a Mam druan yn gorfod fy nghodi i o ngwely i fynd i'r gwaith y diwrnod wedyn.

Disgrifiad o’r llun,

Dino and the Wildfires yn perfformio yn y 60au

"Oedd o'n beth newydd sbon yn y 60au cynnar. Y math yna o grwpiau yn mynd o gwmpas.

'Chwarae trwy'r nos'

"Oedden ni'n chwarae trwy'r nos. Doedd yn ddim byd i ni ddechrau tua 7.30 a gorffen tua 11 a chael rhyw frêc bach yn y canol. Ond heddiw, mae'r grwpiau 'ma sydd yn gwneud rhyw 20 munud, maen nhw'n meddwl bo' nhw 'di gwneud noson dda."

Fe wnaeth y grŵp hyd yn oed rannu llwyfan y Tower Ballroom yn New Brighton gyda'r Beatles, Billy J. Kramer a Gerry and the Pacemakers.

Eurwyn Pierce, neu 'Dino Grant' fel oedd o'n hoffi cael ei alw, oedd yn chwarae gitâr ac yn canu i'r grŵp a fo, yn ôl yr hanes, oedd y cyntaf i greu trefniant o'r gân 'You'll Never Walk Alone' ar gyfer band trydanol. Mae'r gân wreiddiol yn dod o'r sioe gerdd Rodgers and Hammerstein 'Carousel' o 1945.

"Ddoth o yna rhyw noson a deud 'Beth am drio hon' ac wedyn ffwrdd â ni," meddai Gwilym Phillips.

"Oedd hi'n boblogaidd ofnadwy cyn hynny, o'r sioe Carousel, a pan oedd Dino'n ei chanu hi oedd pobl wrth eu boddau.

Disgrifiad o’r llun,

Dino a'r Wildfires ar eu ffordd i gig

"Oedd hi, i gymharu, yn reit glasurol yn ganol yr holl stwff arall oedden ni'n ganu fel Buddy Holly, The Everly Brothers, The Beatles, aballu.

"Covers oedd y rhan fwyaf o'r sdwff, ond wedi eu gwneud yn ein ffordd ni. Doedden nhw ddim yn carbon copies."

Epstein yn y gynulleidfa

Yng Ngorffennaf 1963 cafodd cyngerdd ei chynnal yn neuadd goffa Cricieth gyda Gerry and the Pacemakers, Billy J Kramer a'r Dakotas, Dino and the Wildfires a llu o fandiau a chantorion eraill.

Roedd Brian Epstein, rheolwr enwog y Beatles, yn y gynulleidfa'r noson honno gan ei fod hefyd yn rheolwr ar Gerry Marsden a Billy J Kramer.

Disgrifiad o’r llun,

Neuadd Cricieth lle cafodd y gig ei chynnal a phoster o'r noson gofiadwy yn 1963

Y noson honno cafodd y gynulleidfa glywed trefniant Dino Grant o You'll Never Walk Alone, gan greu argraff ar nifer, yn ôl Gwilym Phillips.

"Roedd Gerry Marsden jyst â thorri croen ei fol isho gwybod sut oedd y gân yna'n mynd a lle fysa'n cael gafael arni. Achos doedd o 'rioed 'di clywed hi o'r blaen... er bod Wikipedia yn deud bod o di recordio hi dau ddiwrnod cyn y gig.

"Mae 'na rai yn trio deud bod o 'di chlywed hi rhywle arall, a hyn a llall. Naci, yn saff 'de... yn fan'na glywodd Gerry Marsden y gân gyntaf. Mae 'na dystion i hyn i gyd oedd yn helpu allan tu ôl i'r llwyfan y noson yna.

Disgrifiad o’r llun,

Gwilym, Dino a Bernard yn 2014

"Oedd Brian Epstein yna hefyd yn y gig, ac oedden nhw 'di clywed hon a 'di gwirioni."

"Ac am bo' ni 'di chwarae gogledd Cymru gymaint, oedd y lle yn llawn o ffans i Dino and the Wildfires. Doedd Gerry Marsden, Billy J Kramer a rheiny methu deall sut oedden ni'n cael gymaint o sylw yn y lle, mwy na nhw bron iawn.

"Roedd hi'n noson fendigedig."

Fe ryddhaodd Gerry and the Pacemakers 'You'll Never Walk Alone' fel sengl ym mis Hydref 1963, ac roedd yn rhif 1 yn y siartiau Prydeinig am bedair wythnos.

Ffynhonnell y llun, Clive Brunskill
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr Lerpwl yn bloeddio canu anthem y clwb

Mae'r gân bellach wedi ei mabwysiadau gan nifer o dimau eraill gan gynnwys Celtic, Borussia Dortmund yn yr Almaen ac FC Twente yn yr Iseldiroedd.

Yn anffodus bu farw Dino rai blynyddoedd yn ôl ond mae wedi gadael ei farc ar y byd cerddoriaeth ac ar y byd chwaraeon.

Hefyd o ddiddordeb: