大象传媒

'Ni ddylai myfyrwyr gael eu cosbi'n ariannol'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Tegwen, Mirain a SionedFfynhonnell y llun, Lluniau cyfranwyr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Tegwen, Mirain a Sioned yn galw am ad-daliadau rhent llety prifysgol

Mae yna alw ar i fyfyrwyr dderbyn ad-daliad ar eu llety prifysgol gan nad ydyn nhw'n treulio cymaint o amser 芒'r disgwyl yn eu neuaddau preswyl.

Yn 么l Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru, dylai myfyrwyr ddim cael eu "cosbi yn ariannol" am ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru.

Hyd yn hyn, mae dwy brifysgol yng Nghymru wedi cadarnhau y byddan nhw'n cynnig rhyw fath o ad-daliad.

Yn 么l canllawiau newydd Llywodraeth Cymru fe ddylai myfyrwyr aros adref tan iddyn nhw gael eu gwahodd n么l i'w campws gan y brifysgol.

Mae'r llywodraeth yn cyfaddef bod hynny'n golygu y bydd yn rhaid i rai myfyrwyr aros adref yn hwy na'r disgwyl gan ddefnyddio adnoddau dysgu ar-lein.

Ddydd Sadwrn fe wnaeth Prifysgol Aberystwyth annog myfyrwyr i beidio 芒 dychwelyd.

Ffynhonnell y llun, Mirain Iwerydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mirain yn credu y dylai prifysgolion roi arian yn 么l i fyfyrwyr

Mae rhai wedi llofnodi deiseb yn galw am ad-daliad am ffioedd dysgu a chost rhent llety myfyrwyr.

Yn eu plith mae Mirain Iwerydd sydd yn ei blwyddyn gyntaf yn Neuadd Pantycelyn, Prifysgol Aberystwyth.

"Dwi'n meddwl os mae 'na fyfyrwyr sy' wedi colli mas, ac sy' ddim 'di cael gwerth eu harian nhw, fel egwyddor y peth, dylse prifysgolion fod yn talu nhw, achos maen nhw 'di talu i gael rhywbeth dydyn nhw ddim yn cael, so yn naturiol dylse'r prifysgolion roi'r arian yna n么l iddyn nhw.

"Byddai hynna yn helpu pobl i allu byw o ddydd i ddydd, achos pan ti'n meddwl am y peth dyw pobl ddim 'di gallu mynd mas i ennill bywoliaeth - fel gweithio mewn caffis ac ati tra bod nhw'n astudio."

Fe ofynnodd 大象传媒 Cymru i bob un o sefydliadau addysg uwch Cymru a fyddan nhw'n cynnig ad-daliad i fyfyrwyr am y dyddiau nad ydyn nhw wedi treulio mewn neuaddau preswyl.

O'r rhai sydd wedi ymateb hyd yma, fe ddywedodd tair prifysgol - Caerdydd, De Cymru a Wrecsam - na fyddan nhw'n cynnig ad-daliad.

Dywedodd Prifysgol Bangor y byddan nhw'n cynnig ad-daliad o 10%, tra bod Prifysgol Met Caerdydd yn bwriadu cynnig ad-daliad hefyd.

Mae Prifysgol Abertawe yn parhau mewn trafodaethau, a dywedodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ei bod yn "ystyried goblygiadau cyngor newydd Llywodraeth Cymru".

Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd "wrthi'n ystyried goblygiadau cyngor newydd Llywodraeth Cymru".

Ffynhonnell y llun, Tegwen Bruce-Deans
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Tegwen yn dweud ei bod wedi treulio llai o amser yn ei llety prifysgol oherwydd Covid

Mae Tegwen Bruce-Deans, sydd yn ei hail flwyddyn ac yn byw yn neuadd JMJ ym Mangor, yn credu bod talu ad-daliad i fyfyrwyr "yn deg".

"Dwi n么l yn JMJ r诺an, ond dwi ddim wedi treulio llawer o amser yn y 'stafell yma. Roeddwn i'n meddwl y byddai'r haint wedi diflannu erbyn hyn," meddai.

"Dwi'n croesawu [yr ad-daliad] yn bendant - dwi'n meddwl bod o'n deg gan eu bod yn annog myfyrwyr i adael yn gynnar a dychwelyd yn hwyrach."

Ffynhonnell y llun, Sioned Bowen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dydy Sioned ddim yn credu dylai rhentwyr preifat orfod talu eu rhent llawn chwaith

Mae'r sefyllfa ychydig yn fwy cymhleth i'r rhai sy'n rhentu yn y sector breifat.

Un o'r rhai hynny yw Sioned Bowen, sydd yn ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth.

"Fi'n credu mae'n rhywbeth dyle nhw edrych mewn i, achos yn yr haf, os ni ddim yn byw yn y t欧, mae rhai landlordiaid yn rhoi'r opsiwn i 'mond talu hanner rhent - felly dyle nhw gynnig rhyw fath o ostyngiad.

"Dyw e ddim yn deg mewn ffordd os ni'n byw gartre' a gorfod talu rhent llawn yn Aberystwyth."

Ffynhonnell y llun, Becky Ricketts
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Becky Ricketts yn cefnogi myfyrwyr sy'n galw am ad-daliadau rhent

Mae Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru, Becky Ricketts wedi codi'r mater gyda'r Gweinidog Addysg.

"Ni ddylai myfyrwyr gael eu cosbi'n ariannol am ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a rhai eu prifysgolion ac ni ddylai myfyrwyr fod yn talu am ystafelloedd dydyn nhw methu defnyddio.

"Dydy e ddim yn deg, felly rydyn ni'n cefnogi myfyrwyr sy'n apelio am ad-daliad rhent yn gyfangwbl," meddai.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai mater rhwng sefydliadau a landlordiaid oedd cytundebau rhent, ond eu bod nhw yn darparu 拢40m yn ychwanegol i brifysgolion yn ystod y flwyddyn ariannol hon.