Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gall rheolau llymach wrth siopa ddychwelyd yn fuan
Gall rheolau coronafeirws gael eu gorfodi'n llymach unwaith eto yn archfarchnadoedd Cymru, yn 么l y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Dywedodd ei fod yn ymwybodol fod pobl wedi "mynegi gofid" yn ddiweddar ynghylch "camau gwarchod gweledol" yn yr archfarchnadoedd.
Mae Llywodraeth Cymru bellach mewn trafodaethau gyda chwmn茂au ynghylch mesurau "mwy amlwg".
Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn dymuno gweld yr heddlu'n plismona siopau, fel y digwyddodd yn ystod y cyfnod clo cyntaf.
Bryd hynny roedd yna gyfyngiadau pendant o ran faint o bobl oedd yn cael bod mewn siop ar unrhyw adeg ac roedd mesurau pellter cymdeithasol yn amlwg.
Mae pobl yn poeni bod y fath reolau "yn ymddangos fel petaen nhw ddim yna y tro hyn", medd Mr Drakeford, er bod yr amrywiolyn Covid newydd yn "straen mwy ymosodol o'r feirws".
Dywedodd: "Mae angen y mesurau gwarchodol hynny fwy fyth, felly'r hyn ry'n ni'n ei drafod gyda'r archfarchnadoedd yw set fwy gweledol o fesurau."
Ychwanegodd fod yna "wastad rhywun wrth y drws ffrynt pan oeddech chi'n mynd i archfarchnad" ym misoedd Mawrth, Ebrill a Mai'r llynedd.
"Roedd y person yna'n monitro niferoedd y bobl oedd yn mynd i'r archfarchnad yn ofalus i wneud yn si诺r mai dim ond hyn a hyn o bobl oedd yn y siop ar unrhyw adeg," meddai.
Dywedodd Mr Drakeford fod adnoddau hylendid wedi bod "yn amlwg iawn wrth y drws ffrynt".
Mae hefyd yn cymeradwyo arwyddion un ffordd amlwg a chyhoeddiadau uchelseinydd rheolaidd yn atgoffa'r cyhoedd o'r gofynion wrth siopa a thalu am nwyddau.
Dywedodd: "Byddai 'na rywun yn cyfeirio pobl i'r til, i wneud yn si诺r fod pobl ddim yn ciwio nesa' i'w gilydd am gyfnodau hir, a marciau ar y llawr fel bod pobl yn cadw pellter o ddau fetr.
Ond mae'n ofni fod "rhai o'r mesurau hyn ddim mor amlwg i bobl ag yn nyddiau cynnar y pandemig".
"Rydw i eisiau gwneud yn si诺r bod yr arwyddion gweledol hynny o'r mesurau gwarchod i'r cyhoedd a'r gweithwyr siop yn eu lle unwaith yn rhagor."