大象传媒

Cynghorydd yn marw o Covid fis wedi angladd ei fam

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Kevin HughesFfynhonnell y llun, Kevin Hughes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Kevin Hughes yn glaf yn Ysbyty Maelor Wrecsam cyn iddo farw o'r haint

Mae dyn wedi marw o Covid-19 lai na mis wedi angladd ei fam - bu hi hefyd farw o'r haint .

Roedd Kevin Hughes, 63 oed, a oedd yn gynghorydd yn Sir y Fflint, yn cael triniaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac fe gadarnhaodd yr awdurdod ei fod wedi marw fore Gwener.

Ddiwedd y llynedd bu'n siarad am ei dristwch yn colli angladd ei fam wedi iddo gael prawf positif o'r haint.

Dywedodd ei gydweithiwr, y Cynghorydd Chris Dolphin bod Mr Hughes yn "ddyn mawr gyda chalon enfawr".

Roedd Mr Hughes yn gynghorydd annibynnol ond yn eistedd gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Arferai fod yn blismon ac roedd e hefyd yn newyddiadurwr ac yn cynrychioli ardal Gwernymynydd.

Fis Rhagfyr dywedodd bod colli angladd ei fam yn un o "ddiwrnodau tywyllaf ei fywyd".

Dywedodd arweinydd gr诺p y Democratiaid Rhyddfrydol bod Mr Hughes yn "gyfaill, yn gyd-gynghorydd ac yn ddyn da oedd yn gweithredu. Roedd e'n llawn brwdfrydedd."

Dywedodd Prif Weithredwr y Cyngor, Colin Everett: "Roedd Kevin yn ddyn arbennig - dyn 芒 chalon fawr. Roedd Kevin yn un o'r dynion mwyaf meddylgar a charedig i mi gydweithio ag ef yn fy ngyrfa hir.

"Byddaf yn ei golli gymaint - fel cynghorydd a ffrind."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y Cynghorydd Kevin Hughes (chwith) yn cael ei gofio yng nghyfarfod y cyngor ar 26 Ionawr

Dywedodd arweinydd yr awdurdod, Ian Roberts, fod Mr Hughes "yn berson arbennig a fydd yn cael ei golli gan bawb.

"Roedd ei gyfraniad fel cynghorydd yn fawr ac roedd yn cael ei barchu gan ei gymuned a gan aelodau a swyddogion y cyngor.

"Roedd e'n aelod hynod weithgar yn ei gymuned."

Bydd y cyngor yn cofio am Mr Hughes yn y cyfarfod nesaf ar 26 Ionawr.

Dywed cadeirydd y cyngor, Marion Bateman: "Ry'n yn cydymdeimlo'n fawr gyda'i wraig Sally a gyda'i deulu a'i ffrindiau yn ystod yr amser trist hwn."

Pynciau cysylltiedig