Pro14: Gleision Caerdydd 29-20 Scarlets
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Gleision Caerdydd i drechu'r Scarlets nos Sadwrn yng ng锚m gynta'r rhanbarth ers ymadawiad John Mulvihill.
Aeth y Gleision ar y blaen gyda g么l gosb gan Jarrod Evans cyn i ganolwr Cymru, Jonathan Davies sgorio cais cynta'r g锚m i'r ymwelwyr.
Ond fe darodd y Gleision yn 么l yn syth gyda chais gan Willis Halaholo, cyn i Jarrod Evans ymestyn eu mantais gyda g么l gosb arall.
Sgoriodd Dan Evans g么l gosb i'r Scarlets cyn i Rey Lee-Lo ychwanegu ail gais i'r t卯m cartref gan sicrhau mai 18-10 fyddai'r fantais iddynt ar yr egwyl.
Ond ym munudau olaf yr hanner cyntaf fe welodd gefnwr Cymru, Liam Williams gerdyn coch am wneud cysylltiad pen yn erbyn pen 芒 Shane Lewis-Hughes, gan wneud tasg y Scarlets hyd yn oed yn fwy yn yr ail hanner.
Llwyddodd Leigh Halfpenny gyda g么l gosb i leihau mantais y Gleision cyn i gais gan Sione Kalamafoni roi 14 dyn y Scarlets ar y blaen.
Er gwaetha'r faith bod y prop Rhys Carr茅 wedi cael cerdyn melyn i'r t卯m cartref i'w gwneud yn gyfartal o ran nifer y chwaraewyr, y Gleision lwyddodd i sgorio'r cais nesaf trwy Tomos Williams.
Ychwanegodd Jarrod Evans ddwy g么l gosb i ymestyn eu mantais a selio'r fuddugoliaeth i'r rhanbarth o Gaerdydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2021