Cyhoeddi ymgynghoriad ar gamau i sicrhau aer gl芒n
- Cyhoeddwyd
Mae ymgynghoriad ar gael gwared ar losgi glo a phren gwlyb yn raddol mewn cartrefi, ynghyd 芒 chynigion ar gyfer deddf aer gl芒n newydd i Gymru, wedi ei gyhoeddi.
Mae Llywodraeth Cymru eisiau gwahardd defnyddio glo traddodiadol mewn cartrefi'n gyfan gwbl o 2023 ymlaen.
Bydd gwerthu coed gwlyb hefyd yn cael ei gyfyngu'n sylweddol mewn ymgais i fynd i'r afael 芒 llygredd aer.
Dim ond y stofiau llosgi coed mwyaf effeithlon fydd ar gael i'w prynu a'u gosod cyn bo hir.
Mae mesurau tebyg eisoes wedi'u cyhoeddi yn Lloegr.
Mae gweinidogion hefyd wedi datgelu mwy o fanylion y Bil Aer Gl芒n arfaethedig, er nad oes amser i'w droi'n fesur cyfreithiol tan ar 么l etholiadau'r Senedd ym mis Mai.
Byddai'r bil yn gosod targedau ansawdd aer newydd a'r disgwyliad y byddai adolygiad o gynlluniau i fynd i'r afael 芒 llygredd aer bob pum mlynedd.
Byddai awdurdodau lleol yn cael mwy o rymoedd i fynd i'r afael 芒 cherbydau sydd yn segura, gan gynnwys tu allan i ysgolion a lleoliadau gofal iechyd, a byddai'r cosbau y gallan nhw eu rhoi yn cynyddu.
Yn ogystal 芒 Pharthau Aer Gl芒n a Pharthau Allyriadau Isel mewn trefi a dinasoedd, mae'r potensial i weithredu "parthau cartref" ar raddfa fach hefyd yn cael ei ystyried - lle gallai strydoedd gael eu cau i draffig neu eu cyfyngu i rai cerbydau i wella ansawdd aer wrth alluogi plant i chwarae.
Credir bod ansawdd aer gwael yn cyfrannu at gymaint 芒 1,400 o farwolaethau'r flwyddyn, yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru, gydag ymgyrchwyr wedi disgrifio lefelau mewn rhannau o'r wlad fel "gwarth".
Dywedodd gweinidog yr amgylchedd, Lesley Griffiths, mai "prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw cadw ein cymunedau'n ddiogel a chefnogi teuluoedd a busnesau trwy'r pandemig Covid-19".
"Ond yn union fel Covid, mae llygredd aer yn effeithio'n anghymesur ar y rhai mwyaf difreintiedig a bregus yn ein cymdeithas.
"Rwy'n croesawu barn y cyhoedd, academyddion, elusennau a busnesau fel ei gilydd, i'n helpu i baentio darlun clir o sut y byddwn yn gwella ansawdd ein aer ac ar y cyd yn adeiladu ein llwybr i Gymru wyrddach ac iachach."
'Gwahaniaeth go iawn'
Wrth groesawu'r mesur, dywedodd Dr Olwen Williams, is-lywydd Cymru o Goleg Brenhinol y Meddygon (RCP), ei bod yn bryd gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl gyda "deddfwriaethu uchelgeisiol".
"Fe ddylai iechyd y genedl fod yn flaenllaw ym mhob un o benderfyniadau'r llywodraeth, yn enwedig pan fyddwn yn ailadeiladu ar 么l y pandemig Covid-19," meddai.
"Mae llygredd aer yn effeithio ar bawb. Mae'n ffactor mewn str么c, clefyd y galon, y fogfa, ac mae'n gallu achosi canser.
"Bob blwyddyn mae dros 2,000 o fywydau'n cael eu cwtogi o ganlyniad i ansawdd yr aer, a thrwy wneud targedau ansawdd aer yn gyfraith, gallai Deddf Aer Gl芒n helpu pawb yng Nghymru i fwynhau manteision aer gl芒n.
"Ond fedrwn ni ddim gwastraffu amser. Dylai'r Bil a'i reoliadau gael eu pasio cyn gynted 芒 phosib. Mae'n bryd gwneud gwahaniaeth go iawn trwy ddeddfwriaethu uchelgeisiol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2018