大象传媒

'Dylid tyfu llysiau er budd iechyd, economi a'r blaned'

  • Cyhoeddwyd
LlysiauFfynhonnell y llun, Riverside Community Garden

Dylid tyfu digon o lysiau yng Nghymru erbyn 2030 i ddiwallu tri chwarter yr argymhelliad dyddiol ar gyfer y boblogaeth, yn lle dibynnu ar fewnforion, medd ymgyrchwyr.

Yn 么l Cynghrair Polisi Bwyd Cymru gellir cyflawni hyn mewn modd cynaliadwy drwy gynnig mwy o gymorth ariannol i fentrau garddwriaeth bychain.

Byddai adolygu rheolau caffael yn help hefyd fel bod ysgolion a chyrff cyhoeddus yn blaenoriaethu prynu bwyd lleol.

Disgrifiad,

Pa fath o lysiau allwn ni dyfu mwy ohonynt yng Nghymru?

Ar hyn o bryd - llai 'na 0.1% o dir Cymru sy'n cael ei ddefnyddio i dyfu llysiau.

Awgrymodd astudiaeth diweddar pe bai'r hyn sy'n cael ei dyfu ar hyn o bryd yn gorfod cael ei rannu ymysg poblogaeth y wlad - byddai'n ddigon i ddarparu chwarter portiwn y pen bob dydd yn unig.

'Dy'n ni ddim yn bwyta digon o lysiau'

Byddai cynyddu faint o lysiau sy'n cael eu cynhyrchu'n lleol yn dod 芒 buddiannau o ran iechyd pobl, yr economi wledig ac yn helpu taclo newid hinsawdd, meddai'r ymgyrchwyr.

Maen nhw am weld Comisiwn System Fwyd annibynnol yn cael ei sefydlu i arwain "trawsnewidiad sylweddol" yn yr hyn ry'n ni'n ei dyfu a'i fwyta.

Mae'r gr诺p - sy'n cynnwys elusennau amgylcheddol, cyrff amaethyddol ac academyddion - wedi cyflwyno ei syniadau mewn maniffesto i'r pleidiau gwleidyddol cyn etholiadau'r Senedd ym mis Mai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Byddai helpu busnesau bach i dyfu mwy o lysiau yn ei dro yn cynnig buddion i'r sector cyhoeddus, meddai Katie Palmer

Yn 么l Katie Palmer, cyfarwyddwr Synnwyr Bwyd Cymru ac aelod o'r gynghrair, mae pandemig Covid-19 wedi pwysleisio'r angen am "ymgyrch fawr" i wella diet pobl, tra bod yr argyfwng hinsawdd yn golygu bod angen newid y modd ry'n ni'n ffermio a phrynu ein bwyd.

"Dy'n ni ddim yn bwyta digon o lysiau, a dy'n ni ddim yn tyfu digon ohonyn nhw chwaith," meddai.

Fe ddisgrifiodd y sector garddwriaeth yng Nghymru fel un "darniog", heb ddigon o gymorth ariannol i helpu'r "nifer fawr o fusnesau ac elusennau bach ar hyd y wlad i gynyddu faint maen nhw'n gynhyrchu".

'Potensial enfawr' mewn cynnyrch lleol

Mae'r gr诺p hefyd am weld newidiadau i brydau ysgol, sy'n cael eu hadolygu ar hyn o bryd.

Yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru mae llai na thraean o bobl ifanc yn eu harddegau'n bwyta portiwn o lysiau unwaith y dydd.

Dadl yr ymgyrchwyr yw y byddai symud tuag at argymell dau bortiwn o lysiau y dydd i bob plentyn yn yr ysgol yn arwain at gynnydd o 44% mewn cynhyrchiant garddwriaeth yng Nghymru.

Mae 'na "botensial enfawr gyda'r system caffael cyhoeddus i gydio yng ngwerth cynhyrchiant lleol... galle chi ddarparu marchnad sefydlog iawn ar gyfer y llysiau sy'n cael eu tyfu," meddai Ms Palmer.

Ffynhonnell y llun, Riverside Community Garden
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Darniog" ydy'r sector garddwriaeth yng Nghymru, meddai'r gr诺p o ymgyrchwyr

Mae hybu'r sector garddwriaeth yn ond un o nifer o bynciau y mae'r ymgyrchwyr am eu gweld yn cael eu trafod gan wleidyddion - gyda'r maniffesto'n galw hefyd ar i Gymru fod y wlad gynta' i ddileu'r angen am fanciau bwyd erbyn 2025.

Dylai'r system fwyd fod yn "sero-net" - hynny yw peidio ychwanegu at yr allyriadau sy'n achosi newid hinsawdd - erbyn 2035, gyda ffermydd yn cael eu hannog i fabwysiadu egwyddorion amaeth ecolegol er mwyn adfer bioamrywiaeth.

"Mae natur yn ei hanfod yn ffynnu ar amrywiaeth," yn 么l Rhys Evans, swyddog polisi amaethyddiaeth RSPB Cymru, sydd hefyd yn aelod o'r gynghrair.

"A dros y degawdau diwethaf mae'r tirlun yng Nghymru wedi mynd 'chydig bach yn unffurf wrth i amaeth fynd yn fwy arbenigol."

"Hynny yw da ni'n canolbwyntio ar dyfu just un neu ddau o wahanol fwydydd ar ein ffermydd yn hytrach na ffermio mwy cymysg fel oedd ganddon ni yn y gorffennol."

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd - y corff annibynnol sy'n cynghori llywodraethau'r DU - wedi galw hefyd am gymorth i helpu ffermwyr addasu at dyfu mwy o gnydau fel rhan o'r newidiadau sydd i ddod i'w cymorthdaliadau.

Hefyd mae tasglu a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu sicrhau "adferiad gwyrdd" wedi'r pandemig wedi argymell cynyddu'r sector garddwriaeth.

Rhybuddio mae arweinwyr y diwydiant amaeth bod 80% o dir fferm yng Nghymru wedi'i ddynodi'n "llai ffafriol", gan olygu y gallai fod yn anodd newid at dyfu llawer iawn o lysiau mewn rhannau o'r wlad.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r tirlun yng Nghymru wedi mynd yn "unffurf" meddai Rhys Evans o RSPB Cymru

Addo cyflwyno Comisiwn Bwyd mae llefarydd Plaid Cymru ar yr amgylchedd, Llyr Gruffydd AS.

Fe gyhuddodd Llywodraeth Cymru o drin polisi bwyd mewn "seilos", gan ddadlau bod angen "agwedd system llawn... sy'n cwmpasu'r amgylchedd, iechyd, yr economi a thlodi".

Galwodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr amgylchedd, Janet Finch-Saunders AS am "well system o gymorth ar gyfer gerddi llysiau a pherlysiau cymunedol, yn ogystal 芒 chynllun i greu perllannoedd ar dir gwyrdd cyhoeddus".

Byddai cyflwyno Siarter Bwyd a Diod Lleol hefyd yn "annog siopau, caffis a bwytai i werthu cynnyrch Cymreig" hefyd, meddai.

Dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar amaeth a bwyd, William Powell ei fod yn croesawu maniffesto'r gynghrair a byddai "cynyddu faint a'r amrywiaeth o lysiau sy'n cael eu tyfu yng Nghymru nid yn unig yn lleihau ein dibyniaeth ar fewnforion ond hefyd yn cynnig hwb i econom茂au lleol ac amaethwyr".

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod ganddi weledigaeth am sector bwyd a diod sy'n "gryf ac yn egn茂ol", ond hefyd gyda chadwyn gyflenwi sydd "ymysg y mwyaf cyfrifol yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol".

Ychwanegodd y llefarydd bod y llywodraeth yn croesawu cyfleoedd i'r sector gyflawni hynny, a bod garddwriaeth yn derbyn hyfforddiant a chyngor drwy nifer o raglenni.

Pynciau cysylltiedig