Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Williams i golli dechrau'r Chwe Gwlad wedi gwaharddiad
Ni fydd Liam Williams ar gael i Gymru ar gyfer dechrau'r Chwe Gwlad eleni wedi iddo gael ei wahardd ar 么l derbyn cerdyn coch i'r Scarlets yn y golled yn erbyn Gleision Caerdydd.
Cafodd y cefnwr ei yrru o'r maes am wneud cysylltiad pen yn erbyn pen 芒 Shane Lewis-Hughes mewn sgarmes.
Mae bellach wedi cael ei wahardd am dair g锚m, gan olygu na fydd ar gael ar gyfer g锚m agoriadol Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Iwerddon ar 7 Chwefror.
Mae gemau Ewropeaidd wedi'u canslo am y tro oherwydd Covid-19, felly'r disgwyl yw y bydd y Scarlets yn trefnu g锚m Pro14 yn erbyn y Gleision y penwythnos nesaf gan fod bwlch yn yr amserlen.
Ni fydd Williams ar gael ar gyfer y g锚m honno na'r g锚m yn erbyn Leinster ar 30 Ionawr.