´óÏó´«Ã½

Llun o'r Wyddfa… o Iwerddon!

  • Cyhoeddwyd
Yr Wyddfa a'i chriw o IwerddonFfynhonnell y llun, Niall O'Carroll

Mae 'na luniau trawiadol o'r Wyddfa a'i chriw o dan eira wedi eu tynnu dros y dyddiau diwethaf - ond o Ddulyn?!

Dyna leoliad y ffotograffydd pan dynnodd o'r llun yma, a Môr Iwerddon nid Afon Menai sydd rhyngddo fo ac Eryri.

Roedd Niall O'Carroll wedi mynd am dro i gopa'r bryn sydd ar benrhyn Howth, ger Dulyn, ar bnawn Mawrth a sylweddoli bod posib gweld holl fynyddoedd Eryri, arfordir Caergybi a Phenrhyn LlÅ·n ac Ynys Manaw.

A gan ddefnyddio lens camera cryf fe lwyddodd i gael y ddelwedd yma.

Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Dwi erioed wedi gweld manylder cystal â hyn o'r blaen, ac yn sicr ddim efo eira arno. Roedd haul diwedd y pnawn arnyn nhw hefyd, oedd yn eu gwneud nhw'n gliriach - ac mae'n bosib gweld manylder y mynyddoedd er eu bod nhw bron 140 cilomedr i ffwrdd.

"Mae'n edrych fel petai'r mynyddoedd yn codi'n syth allan o'r môr - er bod dipyn o dir rhyngddyn nhw a'r môr go iawn."

Ymateb bositif

Ac mae o wedi synnu ar yr holl ymateb i'r llun ar y cyfryngau cymdeithasol - gan y Gwyddelod a'r Cymry.

"Mae'r ymateb wedi bod yn anhygoel," meddai.

"Mae nifer o bobl yng ngogledd Cymru wedi sôn am olygfeydd tebyg wrth edrych tuag at Iwerddon a pha mor agos ydi'r ddwy ynys."

Hefyd o ddiddordeb:

Edrych nôl ar Yr Wyddfa 2018

Taith o gwmpas cysylltiadau Cymreig Dulyn

Yr Wyddfa... 3.30am