大象传媒

Covid: A fydd profi torfol yn cael ei gynnig ledled Cymru?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
prawfFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r profion cyflym sy'n cael eu defnyddio yn y cynlluniau torfol yn dychwelyd canlyniad mewn tua 30 munud

Bu pobl Merthyr Tudful yn ciwio y tu allan i ganolfan hamdden i gael prawf Covid yn eu cannoedd ym mis Tachwedd.

Roedd yr ardal yn cael ei ystyried ar y pryd fel - 'hotspot' - ac roedd yn rhaid galw ar y fyddin i helpu.

Mae Ysgrifennydd Iechyd y DU, Matt Hancock, wedi credydu'r dull hwn o brofi "llif ochrol" ar gyfer pobl asymptomatig 芒 chyfraddau achosion is yn Lerpwl, man arall oedd wedi'i daro'n galed gan Covid.

Mae wedi cyhoeddi ers hynny y byddai'r profion cyflym rheolaidd hyn yn cael eu cyflwyno mewn cymunedau ledled Lloegr.

Ond ydyn nhw'n debygol o gael eu cyflwyno ledled Cymru?

Mae'r profion sy'n cael eu defnyddio (lateral testing) yn ffordd gyflym o brofi am symptomau coronafeirws ac mae'n dychwelyd canlyniad mewn tua 30 munud.

Mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid i'r rhai sydd wedi bod mewn cysylltiad agos 芒 rhywun sydd wedi profi'n bositif hunan-ynysu os daw eu prawf yn 么l yn negyddol.

Yn lle gorfod hunan-ynysu, gallan nhw aros yn y gwaith neu yn yr ystafell ddosbarth pe byddan nhw'n profi'n negyddol bob bore.

Pa mor effeithiol ydy'r profion?

Cododd erthygl yng nghyfnodolyn meddygol y BMJ bryderon ynghylch effeithiau'r profion cyflym yn Lerpwl, lle cynhaliwyd cynllun peilot.

Adroddwyd bod y profion, nad oes angen eu prosesu mewn labordy, wedi colli hanner yr holl achosion a thraean o'r rhai 芒 llwyth firaol uchel a oedd yn debygol o fod y mwyaf heintus.

Dywedodd Angela Raffle, ymgynghorydd ym maes iechyd y cyhoedd yn Ysgol Feddygol Prifysgol Bryste, hefyd fod cynyddu profion llif ochrol yn "bryderus iawn".

Rhybuddiodd y bydd y buddion o ddod o hyd i achosion heb symptomau "yn cael eu gorbwyso gan y nifer fawr o achosion heintus y mae'r rhain yn eu colli".

Ond dywedodd Dr Susan Hopkins, prif gynghorydd meddygol Profi ac Olrhain y GIG yn Lloegr, y gallai'r profion nodi llawer o achosion o haint mewn pobl heb symptomau.

Tra cyfaddefodd fod yna "negatifau ffug" a bod gan y dull "gyfyngiadau", dywedodd Dr Hopkins fod ei ddefnydd yn "gamechanger".

Ymhle maen nhw wedi cael eu peilota yng Nghymru?

Cafodd cynlluniau peilot profi torfol eu cynnal mewn dau fan yng Nghymru ddiwedd y llynedd.

Ar ddiwrnod cyntaf y profion ym Merthyr Tudful ym mis Tachwedd, profwyd 977 o bobl ac roedd naw ohonyn nhw'n bositif.

Roedd profion torfol yng Nghwm Cynon Isaf ym mis Rhagfyr hefyd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd canolfannau profi yng Nghwm Cynon Isaf ar agor tan 20 Rhagfyr

Ar draws y ddwy ardal, nodwyd cyfanswm o 1,100 o achosion Covid positif ar 么l cynnal 50,000 o brofion.

Dechreuodd Llywodraeth Cymru hefyd beilot pedair wythnos o brofi swyddogion Heddlu De Cymru asymptomatig fel mater o drefn ar 23 Rhagfyr.

Ei nod oedd lleihau'r niferoedd oedd i ffwrdd o'r gwaith yn hunan-ynysu, er nad oedden nhw wedi'u heintio, yn dilyn cyswllt ag unigolyn sydd wedi profi'n bositif.

Tra bod y cynllun yn dal i fynd yn ei flaen, dywed Llywodraeth Cymru fod y canlyniadau hyd yn hyn yn dangos dirywiad cyson mewn absenoldebau yn gysylltiedig 芒 Covid.

Mae profion rheolaidd ar weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol asymptomatig hefyd wedi cychwyn, ac mae cynllun peilot ar y gweill ar safle Tata ym Mhort Talbot.

Roedd cynlluniau hefyd i'w gyflwyno mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru ym mis Ionawr, pe bydden nhw wedi agor fel oedd y bwriad yn wreiddiol.

Beth sy'n digwydd mewn llefydd eraill?

Mae profion wedi bod ar gael ym mhob un o'r 317 o ardaloedd awdurdodau lleol Lloegr o'r wythnos hon fel rhan o drefn profi cymunedol.

Anogwyd cynghorau i flaenoriaethu profion ar gyfer pobl sydd methu gweithio gartref yn ystod y cyfnod clo.

Mae Llywodraeth yr Alban hefyd yn cynnig profion cymunedol mewn ardaloedd sydd 芒 chyfraddau uchel o coronafeirws.

Beth mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddweud?

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod swyddogion yn gwerthuso canlyniadau ac yn edrych ar yr hyn oedd yn digwydd mewn rhannau eraill o'r DU wrth ddatblygu'r dull o brofi cymunedol.

"Rydyn ni wedi cyhoeddi profion asymptomatig rheolaidd ar weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, ym maes addysg a phrofion cyswllt dyddiol yn Heddlu De Cymru," ychwanegodd y llefarydd.

"Mae cynllun peilot hefyd wedi cychwyn ar safle Tata Port Talbot.

"Rydyn ni hefyd yn archwilio cyfleoedd eraill ar gyfer profion rheolaidd i gefnogi gwasanaethau critigol."

Beth mae'r gwrthbleidiau wedi'i ddweud?

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am i brofion cyflym gael eu dosbarthu ar frys mewn ysbytai.

Dywedodd y llefarydd iechyd, Andrew RT Davies, ym mis Rhagfyr: "Mae ysbytai yn nodi canrannau uchel o staff yn hunan-ynysu, ac felly'n rhoi straen cynyddol ar wasanaethau a'r staff sy'n weddill."

Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi codi'r angen am "Ardaloedd Cymorth Covid" - gan ddweud bod ymchwil o ogledd Lloegr yn awgrymu y gallai'r feirws effeithio'n anghymesur ar gymunedau 么l-ddiwydiannol.

Galwodd am brofion torfol yn ogystal 芒 mwy o gefnogaeth ariannol mewn llefydd fel Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Rhondda Cynon Taf.

Pynciau cysylltiedig