大象传媒

Dewis 'anodd' tocynnau Euro 2020 i gefnogwyr Cymru

  • Cyhoeddwyd
Wales fansFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

A fydd cefnogwyr Cymru yn Euro 2020?

Mae cefnogwyr p锚l-droed Cymru sy'n gobeithio cael gwylio'r t卯m cenedlaethol yn Euro 2020 yn wynebu "sefyllfa anodd" ar 么l i'r trefnwyr newid telerau'r tocynnau.

Mae'r corff rheoli Uefa wedi rhoi cyfle i gefnogwyr dderbyn ad-daliad am docynnau i'r gystadleuaeth, a gafodd ei gohirio am flwyddyn oherwydd y pandemig.

Os yw cefnogwyr yn cadw'r tocynnau sydd wedi eu prynu, ni fydd unrhyw siawns am ad-daliad petai cyfyngiadau yn eu hatal rhag teithio, neu os nad oes modd mynd i gemau sy'n cael eu symud i leoliadau gwahanol.

Mae disgwyl i Gymru chwarae dwy g锚m yn Baku, Azerbaijan, ac un yn Rhufain, ym mis Mehefin.

Roedd gemau eraill yn mynd i gael eu chwarae dros Ewrop, ond mae pryder y bydd rhaid lleihau nifer y lleoliadau oherwydd cyfyngiadau a rheolau Covid-19.

Beth ydy'r dewis?

Mae gan gefnogwyr tan 26 Ionawr i wneud cais am ad-daliad.

Os ydy cefnogwyr yn cadw eu tocynnau, mae Uefa'n dweud bod posibilrwydd y caiff gemau eu symud.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Stadio Olimpico Rhufain ydy un o'r lleoliadau i Gymru, yn 么l y cynllun gwreiddiol

Petai hynny'n digwydd, byddai Uefa'n "ystyried pellteroedd teithio rhesymol".

Ond os ydy Uefa'n penderfynu bod tocynnau'n ddilys, ni fyddai cefnogwyr yn cael ad-daliad os ydy g锚m yn cael ei symud oherwydd y pandemig, ac nad ydyn nhw'n gallu mynd.

Os ydy gemau'n cael eu chwarae heb gefnogwyr, yna bydd ad-daliadau'n cael eu rhoi.

Beth mae Uefa'n ddweud?

Mae Uefa'n dal i obeithio gallu cynnal y gystadleuaeth dros 12 dinas fel y bwriad, ond maen nhw'n ystyried sawl senario posib o ran cefnogwyr:

  • Stadiymau llawn;

  • Rhwng 50-100% o gefnogwyr a mesurau diogelwch;

  • Rhwng 20-30% o gefnogwyr a mesurau diogelwch;

  • Dim cefnogwyr.

Dywedodd Uefa y byddai'n dal i weithio gyda'r dinasoedd sy'n cynnal gemau ar y cynlluniau, ac yn gwneud cyhoeddiad erbyn dechrau Mawrth.

'Elfen fawr o siawns'

Mae Paul Corkery o Gymdeithas Cefnogwyr 笔锚濒-诲谤辞别诲 Cymru nad yw'n rhoi llawer o amser i gefnogwyr.

"Mae rhai pobl wedi buddsoddi 2,000 yn hyn dros y flwyddyn", meddai, gan alw ar Uefa i "wneud mwy" i helpu cefnogwyr.

"Dylai cefnogwyr feddwl yn ofalus am beth maen nhw am ei wneud, a hynny'n sydyn dros y 12 diwrnod nesaf."

Dywedodd cyfreithiwr sydd hefyd yn gefnogwr, Owen John, ei fod yn cymryd ad-daliad gan nad yw eisiau cymryd risg.

Er mai gemau heb gefnogwyr sydd fwyaf tebygol meddai, mae'n credu mai'r ail opsiwn mwyaf tebygol ydy cyfyngiadau teithio ac ynysu llym.

"Petai'r ail senario, gallwn fod hefo tocyn i wylio Cymru yn Rhufain, ond bod awdurdodau Yr Eidal yn dweud bod rhaid mynd i gwarant卯n mewn gwesty am 10 diwrnod," meddai.

"Felly dwi ddim isio'r risg."

Dywedodd un arall, Heulyn Rees, ei fod yn "sefyllfa anodd", ond ei fod yn mynd i gadw'r tocynnau rhag ofn.

"Mae 'na elfen fawr o siawns", meddai.

"Os ydy'r g锚m yn symud i ben arall Ewrop - fel rhywun sydd ddim yn mynd i hedfan - byddai hynny'n anodd, os nad amhosib, i fynd.

"Ond dwi'n meddwl y bydda' i'n cymryd y siawns."

Dywedodd Cymdeithas B锚l-droed Cymru ei bod yn "anodd" rhagweld unrhyw beth ar gyfer y gystadleuaeth yn sgil y pandemig, ond bod y gymdeithas yn dal i baratoi i chwarae yn Baku a Rhufain.

Mae'r gystadleuaeth yn parhau i gael ei galw'n Euro 2020 er iddi gael ei gohirio y llynedd.