大象传媒

Rhybudd am lifogydd gyda thridiau o law trwm i ddod

  • Cyhoeddwyd
Rhybudd tywyddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r rhybudd mewn grym o ddydd Mawrth nes 12:00 ddydd Iau

Mae rhybudd melyn am lifogydd posib o ddydd Mawrth, gyda rhagolygon am dridiau o law trwm dros Gymru gyfan.

Daw'r rhybudd i rym am 00:00 ddydd Mawrth tan 12:00 ddydd Iau, ac mae rhybuddion am lifogydd mewn grym (CNC) hefyd.

Dywedodd CNC y gallai dros 20 o ardaloedd weld llifogydd, yn cynnwys Gwynedd, rhannau o Bowys, Sir G芒r a de Sir Benfro.

Yn 么l y Swyddfa Dywydd fe allai hyd at 200mm o law ddisgyn ar draws rhai ardaloedd o ogledd Cymru, ble mae disgwyl y bydd y glaw trymaf.

Fe allai'r glaw ynghyd ag eira sy'n meirioli ar y bryniau achosi llifogydd ar ffyrdd ac mewn cartrefi.

Rhybudd am gyflenwadau trydan

Yn 么l y Swyddfa Dywydd, gall y glaw trwm arwain at lifogydd mewn rhai ardaloedd, yn achosi difrod i rai cartrefi a busnesau.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru ddechrau prynhawn Mawrth fod glaw trwm wedi achosi llifogydd ar y rheilffordd rhwng Bangor a Chaergybi a bod rhai llinellau wedi'u rhwystro.

Ychwanegodd y gwasanaeth bod disgwyl "tarfu tan ddiwedd y dydd" oherwydd y posibilrwydd o orfod canslo neu ohirio trenau "sy'n rhedeg i ac o'r gorsafoedd yma".

Mae teithiau tr锚n rhwng Machynlleth ac Amwythig, a rhwng Caerfyrddin a Dinbych-y-pysgod. Mae peth effaith ar reilffordd Dyffryn Conwy hefyd.

Gall yr holl dd诺r wneud amodau gyrru yn anodd, gyda rhai ffyrdd yn gorfod cau, ac mae rhybudd hefyd y gallai'r tywydd amharu ar gyflenwadau trydan.

Yn ogystal 芒'r glaw, gall wyntoedd cryfion effeithio ar amodau teithio ar diroedd uwch a ffyrdd agored.

Pynciau cysylltiedig